Ymchwiliad i lofruddiaeth dyn 49 oed yn Rhosllannerchrugog
Mae Heddlu'r Gogledd yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth dyn 49 oed yn Rhosllannerchrugog, sir Wrecsam.
Wedi hanner dydd ddydd Gwener, aeth plismyn i eiddo yn y pentref lle canfuwyd dyn wedi marw o anaf i'w ben.
Mae'r crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad, ac mae swyddogion yn parhau ar y safle wrth i'r ymchwiliad fynd yn ei flaen.
Datganiad gan y Ditectif Arolygydd
"Rydym yn deall, drwy ymholiadau camerâu teledu cylch cyfyng, fod y dioddefwr wedi bod mewn ffrae gorfforol tua 12:00, ddydd Iau, 26 Mawrth ym maes parcio Bonc Wen yn Rhos.
Mae tystiolaeth yn dangos bod sawl person wedi cerdded heibio ar y pryd a bod nifer o geir wedi'u parcio yn y maes parcio.
Rwy'n gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un a oedd wedi parcio yn y maes parcio ar y pryd ac a allai fod â lluniau dashcam, i gysylltu â swyddogion."
"Hoffwn sicrhau'r gymuned ein bod yn trin hwn fel digwyddiad ynysig, ac er y bydd y gymuned yn bryderus, nid wyf yn credu bod unrhyw risg ehangach i'r cyhoedd.
Rwyf hefyd yn gofyn i'r gymuned barhau i gefnogi swyddogion wrth iddyn nhw wneud yr ymholiadau angenrheidiol.
Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu'r dyn yn ystod yr amser anodd hwn."
Gwybodaeth ychwanegol
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap i gael y newyddion diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




