Anthony Slaughter, arweinydd y Gwyrddion yng Nghymru
Mae'r Blaid Werdd yn cyhoeddi y bydd pleidlais iddyn nhw yn etholiad y Senedd yn "gwthio Llywodraeth newydd Cymru i fod yn fwy beiddgar".
Dywedodd ei harweinydd yng Nghymru, Anthony Slaughter, y byddai'r Gwyrddion yn torri biliau ac yn datrys yr argyfwng tai.
Mae'r blaid yn cynnal yr hyn y mae'n ei alw'n "ddiwrnod gweithredu" ddydd Sadwrn, ac yn dweud y bydd cannoedd o ymgyrchwyr allan yn ymgyrchu.
Mae arolygon barn yn awgrymu y gallai'r Gwyrddion ennill seddi ym Mae Caerdydd am y tro cyntaf, ac mae'r blaid yn dweud bod ei haelodaeth yng Nghymru bellach dros 8,000 o bobl.

'Gallwn ennill pum sedd neu fwy'
Mae Anthony Slaughter yn dweud y gallen nhw gael sawl AS yn y Senedd newydd.
"Y llynedd fe wnaethon ni geisio torri drwodd i'r Senedd, ond mae arolygon barn diweddar wedi rhagweld y gallai'r Gwyrddion ennill pum sedd neu fwy ar 7 Mai," meddai.
"Yma yng Nghaerdydd, mae gynnon ni gannoedd o ymgyrchwyr yn ymgyrchu i gael fi a Tessa Marshall wedi'u hethol, ac rydym yn anelu at ethol Paul Rock yn rhan arall yn y ddinas.
"Mae pleidlais dros y Gwyrddion yng Nghymru yn bleidlais i dorri biliau, datrys yr argyfwng tai a gwthio llywodraeth newydd Cymru i fod yn fwy beiddgar."
Bydd arweinydd y blaid yng Nghymru a Lloegr, Zack Polanski, hefyd yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn i gwrdd ag aelodau.
Nos Sadwrn, bydd yn ymddangos mewn digwyddiad yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd.
Dywed y blaid fod mwy na 400 o bobl wedi prynu tocynnau.
Pryderon a materion cysylltiedig
- Pryder y gallai etholwyr gael eu twyllo gan luniau ffug o wleidyddion
- Gallai cynllun dychwelyd poteli gwydr arwain at 'brisiau uwch i ddefnyddwyr'
- Gwahaniaethau goroesi canser dros Gymru yn dangos 'problemau parhaus'
Gweledigaeth a blaenoriaethau'r Blaid Werdd
Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Anthony Slaughter wrth BBC Cymru am ei flaenoriaethau os oes angen cydweithredu rhwng y pleidiau yn y Senedd newydd.
Mae arolygon barn hefyd yn awgrymu bod Reform a Phlaid Cymru yn agos at ei gilydd wrth gystadlu am y lle cyntaf, tra gallai'r blaid Lafur golli pŵer ar ôl bod yn gyfrifol am Lywodraeth Cymru ers i ddatganoli ddechrau ym 1999.
Dyw e ddim yn debygol y bydd gan unrhyw blaid fwyafrif, felly mae'n bosibl y bydd angen cytundeb rhwng dwy blaid neu fwy.
Dywedodd Slaughter y gallai diwygio'r diwydiant dŵr a rheolaethau rhent fod yn rhan o unrhyw gytundeb sy'n cynnwys y Gwyrddion:
"Nid ydym yno i gymeradwyo pethau neu i newid yr ymylon yn unig."
Ar reoli rhenti, dywedodd fod problemau yn y sector tai oherwydd landlordiaid twyllodrus a oedd yn codi "rhent afresymol am fflatiau llaith, llawn llwydni" a phobl a oedd yn "berchen ar sawl eiddo".
Wrth drafod dŵr, dywedodd Slaughter ei fod yn pryderu am "gyflwr" afonydd ac arfordir Cymru, a byddai'n edrych ar fodel perchnogaeth Dŵr Cymru.
Ni ddywedodd a fyddai cael y Gwyrddion mewn grym yn golygu mwy o arian i'r Gwasanaeth Iechyd, ond dywedodd fod angen ei ddefnyddio'n ddoeth, a byddai ei blaid yn integreiddio gofal cymdeithasol i'r GIG ac yn blaenoriaethu iechyd ataliol.
Dywedodd Slaughter hefyd ei fod yn gwrthwynebu'r rhyfel yn Iran, er nad oedd ganddo unrhyw gydymdeimlad â'r drefn bresennol yn Tehran.
Dywedodd fod hyn oherwydd bod y camau a gymerwyd gan Israel a'r Unol Daleithiau wedi torri cyfraith ryngwladol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







