Bwriad Green GEN yw adeiladu tri phrif lwybr peilonau newydd ar draws pedair sir
Mae barnwr yn yr Uchel Lys wedi dyfynnu bod rhaid i gwmni sy'n cynllunio cyfres o linellau peilon newydd drwy Gymru wneud mwy i roi gwybod i drigolion lleol cyn mynd ar eu tir i gynnal arolygon.
Fe wnaeth grwpiau sy'n cynrychioli mwy na 500 o dirfeddianwyr ddwyn achos yn erbyn Green GEN Cymru, gan eu cyhuddo o "godi ofn" drwy ymddangos ar ffermydd yn ddirybudd.
Er bod y barnwr wedi gwrthod diddymu hysbysiadau cyfreithiol am fynediad i dir, dywedodd y barnwr y dylai'r cwmni fod wedi gwneud mwy i roi digon o rybudd, gan feirniadu "methiant i fynd i'r afael" â'r risg o drosglwyddo afiechydon da byw o fferm i fferm.
Cyfreithwyr ar ran y tirfeddianwyr ddywedodd wrth y barnwr eu bod yn gyfiawnhau eu pryderon.
Mae Green GEN Cymru yn nodi eu bod eisoes wedi cyflwyno newidiadau i'w ffordd o weithio, a'u bod am "flaenoriaethu deialog, cydweithredu a chytundebau gwirfoddol lle bynnag y bo modd."

Green GEN Cymru, sy'n cael ei reoli gan Bute Energy, yn gobeithio adeiladu tri llwybr peilon newydd drwy ganolbarth Cymru, sy'n cysylltu ffermydd gwynt arfaethedig gyda'r grid ehangach.
Mae'r cynlluniau'n effeithio ar rannau o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys, gyda un o'r llwybrau yn ymestyn dros y ffin i Sir Amwythig.
Cefnogwyr y cynlluniau yn nodi bod grid trydan Cymru ddim yn addas i bwrpas ac mae angen ei uwchraddio i hwyluso cynlluniau ynni adnewyddadwy a chyflwyno technolegau carbon isel megis ceir trydan a phympiau gwres.
Mae gan y cwmni bwerau statudol i gael mynediad i dir oherwydd eu gwaith ar isadeiledd ynni o bwysigrwydd cenedlaethol.
Fodd bynnag, mae hyn wedi arwain at wrthdaro gyda channoedd o ffermwyr a thirfeddianwyr, sydd wedi cyhuddo swyddogion y cwmni o weithredu'n rhy lawdrwm gyda chymunedau lleol.

Mae gwrthwynebiad sylweddol wedi bod i'r posibilrwydd o godi'r peilonau.
Mewn dyfarniad a gafodd ei drafod fore Llun, dywedodd y barnwr Mr Ustus Kimblin fod gan y cwmni dystiolaeth "mewn rhai achosion" o gyflwyno hysbysiadau i gael mynediad i dir "gan roi sylw yn bennaf i'w anghenion ei hun a heb roi digon o sylw i'r gofyniad i roi hysbysiad priodol ac i fynd ar dir ar amseroedd rhesymol".
Roedd hysbysiad a gyflwynwyd i'r prif hawlydd yn yr achos, Natalie Barstow, yn "rhy eang ac yn brin o fanylion".
Fodd bynnag, daeth y barnwr i'r casgliad nad oedd unrhyw weithred gan y cwmni o ganlyniad i'r hysbysiad, heblaw am un "fynediad bach ac anfwriadol" i'w thir ym mis Gorffennaf 2025.
Mae'r dyfarniad yn rhoi mwy o eglurder i'r gyfraith o ran defnydd datblygwyr fel cwmnïau ynni o'r hyn a elwir yn hysbysiadau adran 174, er mwyn cael mynediad a chynnal arolygon ar dir preifat.
'Diffyg dealltwriaeth'
Dywedodd Mr Ustus Kimblin fod rhaid i ddatblygwyr roi blaen rybudd digonol, gan alluogi tirfeddiannwr i baratoi, ac na allant ddibynnu ar hysbysiadau fisoedd neu flynyddoedd ar ôl iddynt gael eu cyflwyno.
Dywedodd hyn yn "cymryd holl fudd y mynediad heb ysgwyddo'r baich o roi ystyriaeth briodol i'r hyn sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau".
Disgrifiodd fethiant Green GEN Cymru "i fynd i'r afael â'r risg o drosglwyddo bTB (TB mewn gwartheg)" fel yr "enghraifft gliriaf o ddiffyg yn dealltwriaeth" y cwmni o "anghenion a phryderon cyfiawnadwy'r rhai y byddai'n mynd ar eu tir".
Serch hynny, nododd y barnwr nad oedd y cwmni wedi torri cyfreithiau amgylcheddol.
Mae'r cwmni wedi cyflwyno gwelliannau yn dilyn pryderon y tirfeddianwyr, gan gynnwys polisïau newydd ar fynediad tir, rhywogaethau a chynefinoedd prin, a phobl fregus.
Mae hefyd wedi cyflwyno hyfforddiant i staff ac mae'r gwaith o gyflwyno hysbysiadau cyfreithiol wedi gwella "er mwyn darparu hysbysiad ymlaen llaw cliriach, gwahodd tirfeddianwyr i rannu materion sy'n benodol i'r safle, nodi'r contractwyr awdurdodedig, a chyfeirio'r derbynwyr at ganllawiau bioddiogel".
Mae'r ffaith bod y ffermwyr a'r tirfeddianwyr wedi gorfodi newid i weithdrefnau Green GEN Cymru o ganlyniad i'r her yn golygu bod ganddynt fwy o hawl i honni llwyddiant, awgrymodd y barnwr.
Bydd y cwmni yn gorfod talu 60% o gostau'r hawlyddion, sef £21,000, yn ogystal â'u costau cyfreithiol eu hunain.
'Eich cartref yw eich noddfa'
Dywedodd Mary Smith o New South Law, a fu'n gweithredu ar ran y tirfeddianwyr, fod ei chleientiaid wedi cael eu "cyfiawnhau", ac mae gan yr achos oblygiadau i gymunedau eraill a effeithir gan brosiectau seilwaith yn y dyfodol, boed yn gynlluniau ynni neu'n adeiladu ffyrdd.
"Eich cartref yw eich noddfa. Mae'r noddfa honno wedi cael ei haflonyddu dro ar ôl tro gan gwmni ynni sydd wedi dangos ychydig iawn o ystyriaeth i les ein cleientiaid, yr effaith ar eu busnesau a'u bywydau teuluol, a diogelwch eu da," meddai.
"Ni ddylai fod wedi cymryd achos yn yr Uchel Lys, a ddygwyd gan grŵp cymunedol ac elusen ar ran cannoedd o dirfeddianwyr a deiliaid tir, i sicrhau bod datblygwyr yn cydymffurfio â'r gyfraith. Dylai rheoleiddio digonol fod ar waith i reoli ymddygiad cwmnïau ynni ac i ddiogelu'r cyhoedd."
500 o ffermwyr yn mynd â chwmni peilonau trydan i'r Uchel Lys
Ffermwyr yn sicrhau hawl i geisio adolygiad barnwrol dros beilonau
Lefarydd ar ran Green GEN Cymru dywedodd bod y dyfarniad "yn rhoi eglurder ynghylch defnyddio pwerau arolygu statudol o dan Ran 7 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016."
"Cydnabu'r Llys fod newidiadau eisoes wedi'u gwneud i'n gweithdrefnau, ein harferion a'n dull gweithredu, a byddwn yn sicrhau bod unrhyw ddefnydd pellach o'r pwerau hyn yn adlewyrchu'r dyfarniad," meddai.
"Mae arolygon amgylcheddol a thechnegol yn hanfodol ar gyfer datblygu seilwaith mawr yn gyfrifol. Mae'r defnydd o'r pwerau statudol hyn bellach wedi'i ystyried gan y llysoedd, ac mae'r dyfarniad yn darparu sail glir ar gyfer ymddygiad ac ymgysylltu yn y dyfodol."
"Fel yr ydym wedi'i ddweud yn gyson, ein dewis o hyd yw gweithio ar y cyd â pherchnogion tir a rhanddeiliaid, a byddwn yn parhau i flaenoriaethu deialog, cydweithredu a chytundebau gwirfoddol lle bynnag y bo modd."
"Rydym wedi ymrwymo i gyflawni ein gwaith yn gyfrifol, gan gynnal safonau uchel o ymgysylltu, bioddiogelwch a gofal amgylcheddol wrth i ni gefnogi datblygu'r seilwaith sydd ei angen i ddarparu rhwydwaith ynni diogel a gwydn i Gymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







