Skip to main content
Advertisement

Sioc ar ôl dirwyon £100 am barcio i gasglu parseli

Trigolion yng Nghaerdydd wedi cael dirwyon o £100 ar ôl parcio am funudau byr i ddefnyddio loceri parseli yng nghaeaf parcio'r Church Inn yn Llanisien.

·4 min read
Loceri parseli tu allan i'r Church Inn

Mae pobl wedi cael "sioc" ar ôl derbyn dirwyon "gwarthus" o £100 am barcio i ddefnyddio loceri parseli mewn maes parcio tafarn yng Nghaerdydd. Cafodd rhai pobl yng Nghaerdydd y dirwyon ar ôl parcio tu allan i'r Church Inn yn Llanisien am "ddwy neu dair munud".

Maen nhw'n dadlau bod diffyg arwyddion clir ac y dylai pobl gael yr hawl i stopio yno am gyfnod byr heb fod angen talu. Yn ôl New Generation Parking, cwmni allanol sy'n rhedeg y maes parcio, nid yw dirwyon yn cael eu rhoi'n annheg na heb reswm.

Beth ddigwyddodd i Sion Davies?

Cafodd Sion Davies, sy'n byw yn yr ardal, ddirwy ar ôl defnyddio'r loceri.

Sion Davies
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd Sion Davies iddo gael dirwy ar ôl stopio ger y loceri am ychydig funudau
"Fe wnes i yrru ger bwys y loceri... ro'n i ddwy funud a hanner a nes i gael notice drwy'r post wedyn am £100," meddai.

Fe apeliodd y penderfyniad gan ddadlau nad yw'n glir i ddefnyddwyr y loceri sut i ddefnyddio'r maes parcio.

Mae'n bosib i ddirwy gael ei lleihau os yw'n cael ei thalu o fewn 14 diwrnod.

Mae'r loceri bellach wedi cael eu diffodd, a byddan nhw'n cael eu symud o'r safle dros yr wythnosau nesaf.

Pam mae rhai trigolion yn dweud bod hyn yn annheg?

Dywedodd y Cynghorydd Bethan Proctor fod y sefyllfa'n teimlo'n "annheg ac yn afresymol".

Bethan Proctor
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd y Cynghorydd Bethan Proctor fod y sefyllfa'n teimlo'n "annheg ac yn afresymol"
"Mae'n sioc i bobl," meddai Cynghorydd Llanisien, Bethan Proctor.
"Mae'n teimlo'n annheg ac yn afresymol achos mae pobl yn defnyddio gwasanaeth sydd yn y maes parcio."

Ychwanegodd bod enghraifft o berson wedi cael tair dirwy gwerth bron i £200.

Dywedodd bod tua 20 o bobl wedi derbyn dirwy, "ond wrth gwrs bydd mwy o bobl sydd heb gysylltu â ni ac sydd heb ddod o hyd i'r ymgyrch".

Dywedodd Dafydd Trystan, AS Plaid Cymru dros Gaerdydd Ffynnon Taf:

"Mae'n warthus bod trigolion lleol yn wynebu dirwyon am ddefnyddio amwynderau lleol hanfodol fel hyn.

"Dylai trigolion Llanisien allu cael mynediad i'r loceri heb ofni dirwyon trwm."

Ychwanegodd y bydd yn ysgrifennu at y cwmni i geisio sicrhau y bydd y problemau sy'n wynebu ei etholwyr yn cael eu datrys.

Advertisement

Gallai busnesau Caerdydd orfod talu am bob lle parcio i'w staff.

Ai trefn debyg i'r Alpau yw'r ateb i broblemau parcio Eryri?

Ffioedd parcio yn 'un peth arall' i atal ymwelwyr i Aberystwyth - busnesau

Mae'r Parchedig Gareth Rayner-Williams, sydd hefyd wedi derbyn dirwy, wedi bod yn trafod y sefyllfa ar ran pobl leol.

"Ymysg yr enghreifftiau mwyaf trawiadol oedd dau ddefnyddiwr locer a gafodd ddirwyon o £60 ar ôl bod ar y safle am ddwy funud a phum eiliad a thair munud a saith eiliad.
"Mae'n anodd gweld sut y gall unrhyw un ystyried y cyfnodau byr yma fel parcio - dydyn nhw ddim yn achosion unigryw."

Beth mae'r tafarn a'r cwmni parcio'n ei ddweud?

Dywedodd llefarydd ar ran tafarn y Church Inn:

"Mae maes parcio'r Church Inn yn cael ei reoli gan weithredwr parcio annibynnol, gyda thelerau ac amodau parcio yn cael eu harddangos ar draws y safle, gan gynnwys y gofyniad i gerbydau barcio mewn mannau penodol."

Ychwanegodd nad yw'r tafarnwr yn "elwa'n ariannol" o'r dirwyon parcio.

Mae New Generation Parking yn dweud bod y telerau ac amodau parcio'n cael eu harddangos yn glir ar y safle.

Maes parcio Church Inn
Disgrifiad o’r llun, Mae New Generation Parking yn dweud bod y telerau ac amodau parcio'n cael eu harddangos yn glir ar y safle

Yn ôl llefarydd ar ran New Generation Parking:

"Dydyn ni ddim yn derbyn yr awgrym fod dirwyon parcio yn cael eu rhoi'n annheg neu heb reswm.

"Mae rhybuddion talu cosb yn cael eu rhoi pan nad yw rhywun yn cydymffurfio â'r telerau ac amodau parcio sy'n cael eu harddangos, gyda phob rhybudd yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth sy'n dod o'r system rheoli parcio."

Ychwanegodd bod yr arwyddion ar y safle wedi cael eu "gwirio'n annibynnol" er mwyn "cyfathrebu'n glir" y telerau a'r amodau parcio, a bod 10 munud i benderfynu cydymffurfio â'r rheiny.

"Ry'n ni'n ymwybodol o'r sylwadau ar wefannau cymdeithasol ynglŷn â'r safle yma," meddai'r cwmni.
"Tra ein bod yn cydnabod bod rhai unigolion yn anfodlon ar ôl derbyn y rhybudd parcio, dydyn ni ddim yn teimlo bod hynny yn adlewyrchiad o brofiad y mwyafrif."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News