Skip to main content
Advertisement

Rhieni yn Galw am Well Cymorth Gofal Plant yng Nghymru fel Lloegr

Rhieni yng Nghymru yn galw am well cymorth gofal plant, gan ddangos bod costau uchel yn effeithio ar allu gweithio a bywyd cymdeithasol. Mae rhieni yn cymharu â Lloegr lle mae mwy o ofal plant am ddim ar gael i blant naw mis oed.

·8 min read
Sesiwn Cymraeg i Blant yn Ystum Taf yng Nghaerdydd

Sesiwn Cymraeg i Blant yn Ystum Taf yng Nghaerdydd

Mae rhieni yn mynegi pryderon bod costau gofal plant yn effeithio ar eu gallu i weithio, gan gael effaith ehangach ar gymdeithas.

Un rhiant nododd

"tua hanner cyflog ei gŵr yn mynd ar gostau gofal plant"
tra bod rhiant arall yn dweud bod ei deulu yn Lloegr yn
"llawer gwell allan"
oherwydd y gofal ychwanegol sydd ar gael yno.

Ar hyn o bryd, mae cynnig gofal plant yng Nghymru i deuluoedd cymwys yn dechrau pan mae plentyn yn cyrraedd tair oed, ond mae nifer o rieni eisiau iddo ddechrau yn naw mis oed, fel sy'n digwydd dros y ffin.

Mae gofal plant yn bwnc pwysig yn ymgyrch etholiad y Senedd.

Yn ôl Sefydliad Bevan, mae menywod yn benodol yn

"colli allan ar gyfleoedd i weithio a chael cyflogau uwch"
oherwydd diffyg mynediad at ofal plant.

Y gost yn 'eitha sioc'

Mae cost gofal plant yn newydd i rai o'r rhieni yn sesiwn 'Cymraeg i Blant' yn Ystum Taf yng Nghaerdydd.

"Roedd e'n eitha sioc gweld y rhifau yn enwedig ein bod ni ond yn ei roi hi yn y feithrinfa cwpwl o ddiwrnodau'r wythnos,"
meddai Elin Powel, meddyg plant ac mam i Tesni.

"Mae e'n ddigon o ofid i ni, maen rhaid bod e'n ofid mawr i lot o bobl."

Mam ifanc mewn sbectol yn edrych tuag at y camera ac yn gwenu, mae ei phlentyn bach yn ei breichiau
Disgrifiad o’r llun, Roedd y gost yn sioc i Elin Powel o Gaerdydd

"Mae'r gŵr wedi penderfynu mynd lawr i bedwar diwrnod er mwyn i ni arbed costau gofal plant,"
meddai Bethan Walkling, sy'n gweithio i'r Urdd ac yn fam i Anna.

"Ni'n lwcus bod teulu'n byw yn agos i roi un diwrnod yr wythnos i ni achos roedd y gost yn rhy uchel i ni er bod gyda ni swyddi sy'n talu'n deg."

'Gwneud mwy o sens i fy ngwraig i weithio llai'

Mae eraill yn fwy cyfarwydd â'r gost. Mae gan Tomos Evans o Gaerdydd ddau blentyn ym meithrinfa Si Lwli yn Yr Eglwys Newydd.

"Mae o'n lot o bres ar hyn o bryd. Da'n ni'n lwcus bod un plentyn dros ei dair felly mae o'n cael ei oriau am ddim ond 'dan ni wedi gorfod gostwng o dridiau'r wythnos i ddau.

Mae fy ngwraig yn nyrs. Mae'n bwysig iawn i'r GIG yn enwedig gan fod nhw'n stryglan hefo nyrsys yn barod - byse hi'n licio gweithio mwy ond mae'n gwneud mwy o sens yn ariannol iddi weithio llai.

Mae gyda fi deulu yn byw yn Lloegr sydd lot gwell allan na ni."

Gyda thri o blant, mae Angharad Piette wedi bod yn talu am ofal ers bron i ddeng mlynedd.

Llun Angharad Piette
Disgrifiad o’r llun, Gyda thri o blant mae Angharad Piette wedi bod yn talu am ofal ers yn agos i ddeng mlynedd

Mae ymchwil gan elusen Coram yn dangos bod rhieni yng Nghymru yn gwario cannoedd o bunnoedd yn fwy bob mis ar ofal plant na rhieni yn Lloegr.

Yng Nghymru, mae'n rhaid i rieni aros hyd nes bod plant yn dair oed i fod yn gymwys am ofal plant am ddim.

Ond ar draws y ffin, mae rhieni sy'n gymwys yn cael 30 awr o ofal plant am ddim pan mae plentyn yn naw mis oed.

Mae un arall o rieni Si Lwli, Manon Usher, yn rhwystredig am y sefyllfa hon.

"Mae bod yn rhiant yn galed mewn llwyth o ffyrdd gwahanol a dydyn ni ddim yn byw mewn sefyllfa, fel gwlad, lle mae hwnna wir yn cael ei ystyried."

Cytuno mae Angharad Piette gan ddweud bod effaith costau uchel gofal yn effeithio ar bawb.

"Ni'n gwario tua hanner cyflog fy ngŵr ar gostau meithrin i un o'r plant.

Mae e'n effeithio ar benderfyniadau pobl ynglŷn â'u teulu nhw a phryd i gael plant.

Mae'n effeithio llawer ar oriau gwaith ac os ydych chi'n mynd nôl i'r gwaith felly mae e'n effeithio ar bawb wedyn mewn cymdeithas - dim jyst eich teulu chi, ond wrth ddweud hynna mae e'r peth pwysica' ry'ch chi'n talu amdano fe.

Ni'n hapus iawn gyda safon y gofal ry'n ni'n ei gael yma ond dyle pob plentyn gael hynna."

Poeni am ddyfodol meithrinfeydd

Mae Charlotte Forrester, perchennog meithrinfa Si Lwli yng Nghaerdydd, yn poeni am ddyfodol meithrinfeydd wrth i'r bwlch rhwng yr ariannu a chost y gofal gynyddu.

Llun Charlotte Forrester
Disgrifiad o’r llun, Mae Charlotte Forrester yn poeni am ddyfodol meithrinfeydd wrth i'r bwlch rhwng yr ariannu a chost y gofal gynyddu

Tra'n cydnabod bod rhieni yn Lloegr yn elwa o dalu cannoedd o bunnoedd yn llai bob mis, mae hi'n dadlau efallai nad dyna'r ateb o safbwynt busnes.

"Os nag y'n ni'n ariannu'r drefn yn iawn dwi'n poeni y byddwn ni'n colli llawer o feithrinfeydd.

Mae 40% yn fwy o feithrinfeydd wedi cau mewn ardaloedd difreintiedig yn Lloegr o gymharu gydag ardaloedd eraill oherwydd y pwysau ariannol.

Ad (425x293)

Dyw rhieni ddim yn gallu fforddio talu'r costau ychwanegol... sy'n golygu mai'r plant sydd angen yr addysg blynyddoedd cynnar fwya' yw'r rhai sy'n colli mas."

Meithrinfeydd 'dan fwy o bwysau nag erioed'

Mae'r cymorth fel y mae i blant tair oed yn cyfuno oriau yn y feithrinfa gydag oriau mewn dosbarth meithrin.

Mae cynllun Dechrau'n Deg i blant dwy oed yn cael ei ymestyn ac mae hwnna'n cynnig dwy awr a hanner y dydd o ofal am ddim, ond yn ôl Charlotte Forrester, dyw'r naill gynllun na'r llall ddim wastad yn ymarferol i rieni neu'r meithrinfeydd.

Yn y cyfamser, maen nhw'n gorfod ymdopi â chostau'n cynyddu bob blwyddyn fel mae'r rheolwraig Sophie Hazell yn egluro.

"Mae costau staff yn mynd lan bob blwyddyn, mae bwyd yn mynd lan, mae glanhau yn mynd lan a thrydan.

O gymharu â beth oedd ein costau ni cwpwl o flynyddoedd yn ôl mae hwnna wedi codi'n sylweddol ac mae hwnna i gyd yn cael ei basio ymlaen i rieni."

Yn ôl Sefydliad Bevan, mae plant yn cael eu hamddifadu o fanteision addysgiadol os nad oes mynediad at ofal plant da ar gael.

Llun plant yn chwarae
Disgrifiad o’r llun, Yn ôl Sefydliad Bevan mae plant yn cael eu hamddifadu o fanteision addysgiadol os nad oes mynediad at ofal plant da ar gael

Blynyddoedd Cynnar Cymru yw'r mudiad ymbarél sy'n cynrychioli'r sector.

Yn ôl Matthew Anthony, mae'r sector

"o dan fwy o bwysau nag erioed."

"Ni'n bryderus bod mwy o ddarparwyr yn mynd i gau a lleihau'r dewis sydd yna i rieni gael gofal plant o ansawdd uchel."

Mae Dr Steffan Evans, Prif Weithredwr Sefydliad Bevan, yn rhybuddio bod peidio cael polisi gofal plant yn gywir yn effeithio ar gymdeithas gyfan.

"Mae e'n cloi menywod yn benodol allan o'r byd gwaith sy'n golygu ein bod ni'n colli allan ar y doctoriaid a nyrsys ac ati sydd eu hangen i lenwi bylchau yn ein gweithlu ni,"
meddai.

"Mae e hefyd yn cael effaith ar y plant eu hunain, mae e'n golygu bod plant yn colli allan ar rai o fanteision addysgiadol gofal plant safonol."

Mae Elin Powel, sy'n fam ac yn feddyg plant, yn cytuno.

"Mae pob punt sy'n cael ei wario ar blant nawr, yn enwedig yn y mil o ddiwrnodau cynta' yn talu mwy yn hwyrach,"
meddai.

"Pam nagyn ni'n canolbwyntio ar gael y blynyddoedd cynta hyn yn iawn?"

Beth mae'r pleidiau yn ei addo i chi?

Dysgwch beth yw polisïau'r prif bleidiau gwleidyddol drwy ddewis opsiwn isod.

Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU.

Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol.

Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth y DU yn gyfan gwbl neu'n rhannol.

Dewiswch fater sydd o ddiddordeb i chi.

Mae rheolaeth dros y maes hwn yn nwylo llywodraeth y DU yn gyfan gwbl neu rywfaint ohono.

Llafur Cymru

Y Ceidwadwyr Cymreig

Plaid Cymru

Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig

Plaid Werdd Cymru

Heritage Party

Nid chwarae plant yw datrys y broblem ac mae'r pleidiau gwleidyddol yn gobeithio bydd eu cynigion nhw yn denu pleidleiswyr.

Mae'r Blaid Lafur yn addo ymestyn y cynnig gofal plant dros gyfnod y Senedd nesaf i gynnwys babanod naw mis oed, tra bod Plaid Cymru a'r Blaid Werdd yn cynnig 20 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i blant rhwng naw mis a phedair oed ar ben y cynnig presennol o 30 awr i blant tair oed.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnig 30 awr i blant naw mis oed.

Mae'r Ceidwadwyr am ymestyn y cynnig gofal plant i gynnwys plant naw mis oed neu gynnig taliad i naill ai famgu neu dadcu ofalu am eu hwyrion.

Mae Reform yn dweud y byddan nhw'n torri treth incwm ac yn gosod uchafswm ar dreth y cyngor fel bod gan deuluoedd fwy o arian.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

'Gofal plant yn ddrud ac yn straen' - yr her i lywodraeth nesaf Cymru

Pa faterion sy'n poeni pleidleiswyr Cymru cyn etholiad y Senedd?

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News