Uwchraddio ffyrdd
Mae maniffesto Reform wedi'i lansio gyda chynlluniau i uwchraddio ffyrdd allweddol, gan gynnwys ffordd liniaru'r M4 yn ne Cymru a'r A55 yng ngogledd Cymru, yn debyg i addewidion a wnaed gan y Ceidwadwyr. Cafodd ffordd liniaru'r M4 ei rhoi o'r neilltu gan y cyn-brif weinidog Mark Drakeford yn 2019, gyda chost a ragwelwyd o £1.7bn, cyn i'r rhyfel yn Wcráin achosi codiadau prisiau.

Dywedodd Nigel Farage y byddai ffordd osgoi'r M4 yn cynnwys toll, gan ddweud:
"Bydd yr M4 yn dipyn o lanast, ac mae'r bwriad yw cael arian preifat i mewn, rhoi toll ar y ffordd, a rhoi'r opsiwn i bobl wneud hynny".
Ychwanegodd nad yw hyn yn golygu "llawer o wariant" o drethi. Mae'r blaid hefyd yn addo dileu'r terfyn cyflymder 20mya diofyn.
Dywedodd Dan Thomas nad oedd e'n credu mewn "targedau mympwyol" ar gyfer y Gymraeg oherwydd ei bod hi'n gwneud yn dda iawn yn organig. Pan ofynnwyd i Nigel Farage a fyddai Reform yn cael gwared ar swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, atebodd:
"O'r hyn rwy'n ei ddeall, mae'r Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru. Gadewch i'r iaith Gymraeg ffynnu. Dydw i ddim yn gweld bod angen targedau na chwangos arni".
Mae gan strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ddau brif darged sef, nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050; a chynyddu canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg bob dydd o 10% (yn 2013-15) i o leiaf 20% erbyn 2050.
Y bleidlais wledig
Mae Reform yn addo newid Cynllun Ffermio Cynaliadwy dadleuol y llywodraeth bresennol, gan symud at daliadau sy'n "caniatau i ffermwyr ffermio", yn hytrach na chanolbwyntio ar dargedau amgylcheddol. Byddai ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am fagu da byw tra byddai cynllun gwirfoddol i dalu am waith amgylcheddol, gan roi dewis i ffermwyr prynu ai peidio i ymwneud â hynny.

Mae eraill yn dadlau bod tywydd eithafol o ganlyniad i newid hinsawdd, a'r dirywiad ym myd natur, yn bygwth amaethu a'r gwaith o gynhyrchu bwyd. Bu nifer o brotestiadau gan ffermwyr yn erbyn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan gynnwys tu allan i'r Senedd yn 2024.
Gwasanaeth iechyd
Yn y gorffennol, mae Nigel Farage wedi awgrymu bod angen ystyried ailedrych ar y dull o ariannu'r gwasanaeth iechyd. Ond mae'r maniffesto hwn yn datgan fod y blaid wedi ymrwymo i wasanaeth iechyd yng Nghymru sy'n rhad ac am ddim i gleifion ar yr adeg y maen nhw ei angen.
Mae cydnabyddiaeth hefyd fod angen newidiadau i "drwsio system sydd wedi torri". Yn ogystal, mae nifer o'r polisïau iechyd yn debyg i rai gafodd eu cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig yn ddiweddar, gan gynnwys lleihau'r pwysau ar unedau brys a chynyddu defnydd y gwasanaeth iechyd o dechnoleg ddigidol.

Mae ymrwymiad i ostwng rhestrau aros, ond nid yw'r maniffesto yn cynnwys unrhyw dargedau penodol ar gyfer hynny.
Tactegau ymgyrchu
Mae arweinydd y blaid, Nigel Farage, yn dweud bod y bleidlais ar 7 Mai yn "refferendwm" ar arweinyddiaeth Syr Keir Starmer fel prif weinidog y DU. Mae Reform yn cyflwyno etholiad y Senedd fel modd i gyflawni ei nod yn San Steffan.
"Mae pobl Cymru eisiau Nigel yn Rhif 10," meddai Dan Thomas.
O ble ddaw'r arian?
Nid oedd costau gyda'r maniffesto. Dywedodd y felin drafod cyllid, y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol, y gallai addewid y blaid i dorri 1c oddi ar bob punt ar bob band o dreth incwm Cymru gostio £371m yn 2026/27.
Dywedodd David Phillips o'r sefydliad y byddai pobl sy'n darllen addewidion Reform yn cael eu "maddau am deimlo ymdeimlad o déjà vu".
"Mae'r tebygrwydd rhwng maniffesto Reform UK a maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon yn drawiadol," meddai.
Nid oedd Reform wedi "wynebu'n llawn" realiti faint sydd gan Lywodraeth Cymru i'w wario, ychwanegodd. Dywedodd David Phillips y byddai toriadau treth "yn debygol o olygu toriadau mewn o leiaf rhai gwasanaethau a ddefnyddir gan aelwydydd".
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Farage y bydd "rhestr o gostau" yn cael ei chyhoeddi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Edrych yn ôl: Reform yn cyhoeddi maniffesto etholiad y Senedd
- Reform yn blaenoriaethu Cymry ar gyfer tai cymdeithasol







