Cyfyngiadau ar ddefnydd ffonau symudol mewn ysgolion
Bydd prifathrawon yn cael eu "hannog yn gryf" i gyfyngu ar ddefnydd ffonau symudol gan ddisgyblion ysgol, meddai'r gweinidog addysg, Anna Brychan.
Mae Ms Brychan wedi addo gosod "disgwyliadau cenedlaethol clir ar sut mae ffonau symudol yn cael eu defnyddio mewn ysgolion" i greu amgylchedd dysgu mwy diogel a chanolbwyntiedig.

Er hynny, mae Plaid Cymru wedi dweud na fyddan nhw'n gwahardd ffonau o ysgolion, gan bwysleisio bod rhai plant yn eu hangen am resymau meddygol.
Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod y mwyafrif o athrawon eisiau canllawiau cenedlaethol ar ffonau symudol mewn ysgolion. Yn ôl arolwg y llywodraeth, mae 82% o staff eisiau cyfyngiadau statudol, sef rheolau y mae'n rhaid i bob ysgol eu dilyn.
Dywedodd Anna Brychan ei bod yn cefnogi
"cyflwyno cyfyngiadau clir a chadarn ar y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol"ac y byddai'n dechrau ymgynghori ar reolau ar gyfer ysgolion a chynghorau ym mis Medi.
Yn ei datganiad, dywedodd:
"Dwi am fod yn glir: fel gweinidog cabinet, dwi'n rhoi fy nghefnogaeth lawn i benaethiaid – ac yn eu hannog yn gryf – i gyflwyno cyfyngiadau clir a chadarn ar y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol, hyd at ac yn cynnwys cyfyngiad llwyr ar draws safle'r ysgol."
Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion bolisïau ffonau symudol eisoes, ond nid yw'n glir eto pa mor gyfyngol fydd y canllawiau cenedlaethol ac a fyddant yn cynnwys atal defnydd ffonau gan ddisgyblion yn ystod amser egwyl. Mae rhai ysgolion yn gofyn i ddisgyblion gloi eu ffonau mewn cwdyn ar ddechrau'r dydd.
Mewn gwledydd eraill, megis Lloegr, mae disgwyl i ysgolion atal disgyblion rhag defnyddio ffonau yn ystod gwersi ac mewn amgylchiadau eithriadol. Mae Llywodraeth y DU wedi addo gwaharddiad cyfreithiol ar ffonau mewn ysgolion Lloegr.
Ychwanegodd Brychan:
"Dwi'n ymwybodol y bydd angen gallu gwneud eithriadau bob amser yn achos rhai plant, am resymau meddygol er enghraifft.
Drwy ymgynghori ar y canllawiau ar ddechrau'r flwyddyn ysgol, dwi'n rhoi'r eglurder i ysgolion y maen nhw ei eisiau yn gyflym, ac yn creu amgylchedd dysgu mwy diogel drwy gyfyngu nawr ar yr elfennau sy'n tynnu sylw'r dysgwyr."
Roedd disgwyl i Ms Brychan amlinellu ei blaenoriaethau mewn datganiad i'r Senedd ddydd Mawrth.
Daw hyn ddiwrnod ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol i blant dan 16 oed.
Yn etholiad y Senedd, addawodd Plaid Cymru gyfyngiadau ar ddefnyddio ffonau symudol yn eu maniffesto.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod yr arolwg gweithlu yn dangos "cefnogaeth glir i weithredu cenedlaethol cryfach".
Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Sam Rowlands, bod y blaid
"eisiau ffonau symudol allan o ystafelloedd dosbarth, fel y gall disgyblion ganolbwyntio a gall safonau wella ledled Cymru".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
- Cynnydd o £5,000 i ddenu mwy o athrawon mewn pynciau allweddol
- Plant dan 16 oed i gael eu gwahardd o TikTok, Snapchat ac Instagram
- 'Dwi ddim am wahardd ffonau o'r ysgol, rhaid i blant ddysgu bod yn gyfrifol'






