Skip to main content
Advertisement

Pobl leol yn dal lladron petrol ar ôl eu dilyn i draeth yng Ngwynedd

Perchennog gorsaf betrol yng Ngwynedd diolch i bobl leol am ddal lladron petrol a oedd wedi targedu ei garej dair gwaith mewn chwe wythnos. Mae lladradau tanwydd wedi cynyddu 62% yn y DU, gyda'r heddlu'n gweithredu i atal y troseddau hyn.

·5 min read
Judith Troughton

Diolch i'r gymuned am ddal y lladron petrol

Mae Judith Troughton wedi diolch i'r bobl wnaeth helpu i ddal y lladron.

Mae perchennog gorsaf betrol yng Ngwynedd a gafodd ei thargedu gan ladron dair gwaith mewn chwe wythnos wedi dod o hyd i'r bobl sy'n gyfrifol yn dilyn ymdrech gan bobl leol.

Roedd y dynion yn aros ym Mhorthmadog, ac ar ôl eu gweld nhw mewn tafarn, fe wnaeth trigolion ddilyn eu fan i draeth y diwrnod canlynol, a chadw llygad arnyn nhw nes i'r heddlu gyrraedd.

Mae Judith Troughton, 68, sy'n rhedeg Gorsaf Betrol Prysor ger Trawsfynydd, yn dweud ei bod yn mynd yn fwyfwy anodd gwneud bywoliaeth yn sgil y cynnydd ym mhrisiau petrol wedi'r rhyfeloedd yn Wcráin ac Iran.

Disgrifiodd Heddlu Gogledd Cymru "digwyddiadau dim tâl" fel rhai sy'n cael effaith fawr, ac mae'r heddlu wedi rhoi mesurau ar waith gan gynnwys hyfforddiant i staff adnabod ymddygiad troseddol.

Mae lladradau tanwydd wedi cynyddu 62% ar draws y DU dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigyrau'r BBC.

Dywedodd Judith am y dynion, a gyrhaeddodd ei garej mewn dwy fan:

"Fe wnaethon nhw roi petrol yn un ohonyn nhw a wnaeth y ddau yrru i ffwrdd."

Fe wnaeth Judith apêl ar Facebook gyda lluniau o'r cerbydau wedi'r digwyddiad ym mis Ebrill.

Ar ôl gweld ei hapêl, cafodd y dynion eu gweld tu allan i dafarn, ond fe wnaethon nhw adael cyn i'r heddlu gyrraedd.

Cafodd y dynion eu gweld y diwrnod canlynol ar draeth ac fe wnaeth grŵp o bobl leol gadw llygad arnyn nhw nes i'r heddlu gyrraedd.

Dywedodd Judith bod y dynion wedi cyfaddef dwyn o'i garej, a'u bod bellach wedi talu am y petrol.

"Mae pŵer Facebook yn wych," meddai.

"Mae'r gymuned leol yn gefnogol ac mae pobl wastad yn barod i helpu."

Dywedodd Judith fod camerâu ei gorsaf betrol yn dangos gyrrwr car arian yn llenwi'r car heb dalu

CCTV garej prysor
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd Judith fod camerâu ei gorsaf betrol yn dangos gyrrwr car arian yn llenwi'r car heb dalu

Ond nid dyma'r tro cyntaf i ladrad ddigwydd yng Ngorsaf Betrol Prysor.

Mae'r heddlu'n ymchwilio yn dilyn "cyfres o ladradau" mewn nifer o orsafoedd petrol yng Ngwynedd ym mis Ebrill.

Roedd digwyddiad arall yr wythnos diwethaf, ble cafodd y dyn oedd yn gyfrifol ei ddal gan yr heddlu ar ôl cael trafferthion gyda'i gerbyd.

Fe ddychwelodd i'r garej i dalu, gan ddweud ei fod wedi gorfod benthyg arian i dalu am y petrol.

Ad (425x293)

Ychwanegodd Judith ei bod yn drawiadol fod pobl yn troi at ddwyn yn sgil y costau cynyddol, ond dywedodd bod busnesau bach fel ei un hi hefyd yn dioddef.

Pam bod lladrad petrol ar gynnydd?

Mae gyrwyr yn y DU wedi wynebu costau petrol uwch ers dechrau rhyfel yr Unol Daleithiau ac Israel gydag Iran.

Cododd prisiau'n sydyn pan ddechreuodd y gwrthdaro ar 28 Chwefror, gyda chynhyrchu a chludo olew ar draws y Dwyrain Canol yn arafu neu'n dod i ben yn llwyr oherwydd ymosodiadau gyda thaflegrau a dronau.

Mae grŵp moduro'r RAC wedi dweud y gallai prisiau wrth y pwmp barhau i godi os na fydd datrysiad i'r gwrthdaro.

Aeth cost llenwi car teulu arferol â phetrol i fyny tua 34, tra bod tanc o ddiesel 327 yn ddrytach.

'Pobl yn meddwl bod ni'n gwneud lot o bres'

Cafodd Gorsaf Betrol Rhyd-y-mwyn yn Yr Wyddgrug ei thargedu gan ladron tua chwe wythnos yn ôl hefyd.

Dywedodd y perchennog Gemma Newell bod gyrrwr wedi llenwi ei gar gyda gwerth 350 o betrol, gyda'i wyneb wedi cuddio, cyn gyrru i ffwrdd heb dalu mewn car 2 platiau adnabod ffug.

Dywedodd ei bod wedi'i "llorio" gan y profiad a'i bod yn teimlo fel bod "arian a enillwyd trwy waith caled" yn cael ei gymryd yn uniongyrchol o'r busnes.

Ychwanegodd bod y cynnydd ym mhrisiau petrol wedi gwneud yr wythnosau diwethaf yn "wirioneddol heriol".

"Mae'r wyth wythnos diwethaf wedi bod yn gythryblus," meddai.

"Aeth prisiau diesel i fyny 18c y litr un wythnos.

Pan mae rhywun yn gwario 370 ar betrol, mae pobl yn meddwl bo' ni'n gwneud 370, ond ar ôl yr holl gostau... di'o ddim byd."

Beth mae'r heddlu'n gwneud am y peth?

Dywedodd pennaeth y Ganolfan Troseddau Busnes Cenedlaethol fod lluoedd heddlu yn gweithredu ar achosion o'r fath, gan weithio i adnabod troseddwyr, atal pobl rhag parhau i ddwyn, a sicrhau eu bod yn cael eu dal i gyfrif.

"Mae lladrad tanwydd yn tanseilio busnesau a'u gweithwyr," meddai Llywodraeth y DU.

"Mae angen i'r lladron yma wynebu grym llawn y gyfraith."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Heddlu'n ymchwilio i 'gyfres o ladradau' o orsafoedd petrol Gwynedd

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News