Skip to main content
Advertisement

Plant dan 16 oed i gael eu gwahardd ar TikTok, Snapchat ac Instagram

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gwaharddiad ar gyfer plant dan 16 oed rhag defnyddio TikTok, Snapchat ac Instagram i ddiogelu pobl ifanc rhag niwed ar-lein. Bydd Llywodraeth Cymru'n asesu oblygiadau'r mesurau hyn ar faterion datganoledig.

·3 min read
Pedair merch ifanc yn edrych ar ffonau symudol

Gwaharddiad ar gyfer plant dan 16 oed ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol

Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi cynllun i wahardd plant dan 16 oed rhag defnyddio rhai o brif lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys TikTok, Snapchat ac Instagram.

Logos rhai o brif apiau'r cyfryngau cymdeithasol ar sgrin ffôn symudol

Mae gweinidogion hefyd yn ystyried gosod cyrffyw cyfryngau cymdeithasol i blant hŷn, ond ni fydd manylion pellach ar gael tan fis nesaf.

Mae'r mesurau hyn yn rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiogelu pobl ifanc rhag niwed ar-lein a mynd i'r afael â'r arfer o sgrolio ar ffonau gyda'r hwyr.

Ymgynghoriad a gynhaliwyd yn gynharach eleni, a dderbyniodd dros 116,000 o ymatebion, awgrymodd bod 85% o rieni yn credu bod risgiau cyfryngau cymdeithasol yn fwy na'r buddion.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "asesu'n ofalus oblygiadau cyhoeddiad Llywodraeth y DU".

'Dwi'n deall dibyniaeth': Y rhieni sy'n brwydro am gyfyngiadau ar ffonau

Yn ystod cynhadledd i'r wasg fore Llun, dywedodd y Prif Weinidog nad yw'r cyhoeddiad yn "ar chwarae bach".

"Nid yw'r cynllun heb ei gostau, fel petai'r cyfryngau cymdeithasol heb ddod ag unrhyw fudd o gwbl i bobl ifanc".
"Ond mae'n glir i mi taw gwaharddiad llawn yw'r dewis cywir".

'Fel codi ffens o gwmpas y môr'

Cyflwynwyd y gwaharddiad cyntaf o'r fath yn Awstralia i blant dan 16 oed ym mis Rhagfyr 2025, ac mae ffynonellau o fewn y llywodraeth yn disgrifio cynllun y DU fel "Australia-plus".

Advertisement

Yn ôl y newyddiadurwr Awstraliad Andy Bell, mae nifer y cyfrifon cyfryngau cymdeithasol wedi gostwng tua un miliwn, ond mae llawer o'r rheiny'n gyfrifon ffug neu "ychydig" o gyfrifon defnyddwyr ifanc go iawn.

Dywedodd wrth raglen Dros Frecwast fod y canran o bobl dan 16 oed sy'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol wedi gostwng o 84% i 78%, gan nodi bod gostyngiad wedi bod ond nad yw wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

"Wedi dweud hynny, nid yw llywodraeth ffederal Awstralia wedi mynnu ei fod yn llwyddiant ysgubol.
Mae'r gweinidog [sy'n gyfrifol am faterion cyfathrebu] Annika Wells wedi dweud mae'r gwaharddiad 'wedi codi ffens o gwmpas y môr' - dyna gryfder y cyfryngau cymdeithasol a'r safle cry' sy' ganddyn nhw yn ein cymdeithas ni."

Safbwynt Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn asesu effaith y cyhoeddiad ar faterion sydd wedi eu datganoli ac sy'n cael eu penderfynu ym Mae Caerdydd.

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru:

"Rydym wedi ymroddi i warchod pobl ifanc ar-lein a byddwn yn parhau i adolygu'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg.
Ochr yn ochr ag unrhyw gyfyngiadau mae angen i ni hefyd ganfod cyfleoedd i sicrhau y gall pobl ifanc drin a chael mynediad i wybodaeth ar-lein yn ddiogel.
Bydd angen i ni asesu'n ofalus oblygiadau cyhoeddiad Llywodraeth y DU i ystyriaeth yr effeithiau, yn enwedig ar faterion datganoledig fel addysg, iechyd a lles."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News