Skip to main content
Advertisement

Perchnogion ail gartrefi a phobl leol yn teimlo pwysau'r ddadl dai

Bev Hooper a Rhodri Lewis react to Wales’ second-home debate, with council tax premiums, housing costs and local concerns over community life.

·6 min read
Bev Hooper

Mae Bev Hooper wedi berchen ar fwthyn yn Abersoch am 30 o flynyddoedd, tra bod Rhodri yn awyddus iawn i brynu ei gartref cyntaf yn Sir Benfro. Er bod eu sefyllfaoedd yn wahanol, mae'r ddau yn dweud bod y ddadl barhaus ynghylch ail gartrefi'n effeithio arnyn nhw a'u bywydau.

Roedd yn rhaid i fwy na 24,000 eiddo dalu treth gyngor ail gartrefi yng Nghymru rhwng 2023-24, yn ôl data'r llywodraeth. Dywedodd Llywodraeth Cymru mai eu huchelgais yw "i bawb yng Nghymru gael mynediad at dai o ansawdd da, am gost fforddiadwy, yn yr ardal gywir iddyn nhw."

Llai o incwm gyda ni a mwy o gostau

Mae Bev Hooper, 67, o Sir Efrog wedi cael cysylltiad â Gwynedd drwy gydol ei hoes, a hithau gyda theulu o'r ardal ac atgofion melys o ymweld â'r ardal yn ystod ei phlentyndod.

Penderfynodd brynu cartref tair ystafell wely gyda'i chwaer ar Benrhyn Llŷn 30 mlynedd yn ôl.

"Yn y dyddiau hynny, roedden ni'n talu 50% o dreth gyngor oherwydd dim ond 50% o'r flwyddyn roedden ni yno," meddai.

Ers 2023 mae ail gartrefi yng Ngwynedd wedi bod yn destun premiwm treth gyngor o 150%, gan adael Bev a'i theulu yn wynebu penderfyniad anodd. Yn 2023-2024, roedd gan Wynedd y gyfran uchaf o ail gartrefi yng Nghymru sef 8.3%, yn ôl data Llywodraeth Cymru.

"Byddai'n torri fy nghalon yn llwyr gorfod gwerthu ond mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ystyried," meddai, gan egluro ei bod hi a'i chwaer bellach yn wynebu bil treth gyngor blynyddol o tua £7,000.
"Dyw'r twristiaid ddim yn teimlo fel bod croeso, dyw perchnogion yr ail gartrefi ddim yn teimlo fel bod croeso," meddai.

Fel teulu roedden nhw wedi gobeithio y byddai'r ail gartref ar yr arfordir yn lle i ddod â'u plant a mwynhau eu hymddeoliad.

"Nawr ein bod ni wedi ymddeol, mae llai o incwm gyda ni," meddai cyn esbonio eu bod yn gwario mwy "cyn belled ag y mae'r bwthyn yn y cwestiwn".
"Mae'n rhaid i chi gwestiynu pa mor bosib fydd hi'n ariannol ei gadw i fynd yn ein hymddeoliad."

Dywedodd cyngor Gwynedd yn y gorffennol eu bod yn "cymryd camau i gynyddu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy, i liniaru effaith nifer fawr o ail dai a llety gwyliau tymor byr".

Mae Mared Llywelyn yn ymgyrchu yn ei hardal leol

Y ddadl i nifer yw pan fydd gan ardal gyfran uchel o ail gartrefi, gall bywyd cymunedol a diwylliant ddioddef.

Mae data gan Gyngor Gwynedd yn awgrymu bod 30% o eiddo ym Mhen Llŷn yn dai gwyliau.

"Pan ma' pobl yn cael eu prisio allan o'r farchnad, mae pobl yn cael eu gwythio allan o'u cymunedau," meddai Mared Llywelyn o grŵp Hawl i Fyw Adra.

"Prif nod Hawl i Fyw Adra ydy sicrhau fod pobl leol a phobl ifanc yn enwedig yn gallu fforddio byw yn eu cymunedau eu hunain, yn hytrach na cael eu prisio allan o'r farchnad dai."

Mared Llywelyn
Disgrifiad o’r llun, Mae Mared Llywelyn yn ymgyrchu yn ei hardal leol

Gobaith Rhodri yw bydd prisiau tai yn gostwng dros y blynyddoedd nesaf

Mae Rhodri Lewis yn awyddus iawn i brynu tŷ yn ei sir enedigol, Sir Benfro, ardal lle amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru fod 6.5% o'r holl dai yn ail gartrefi yn 2023-24.

"Dwi'n teimlo bod e'n anodd iawn i bobl ifanc i fynd a phrynu tai yn enwedig yng ngorllewin Cymru," meddai'r dyn 23 oed.

Ar ôl dychwelyd o'r brifysgol i'w bentref, mi oedd Rhodri wedi synnu wrth edrych ar gostau tai.

"Roedd yn rhaid i mi symud yn ôl i mewn gyda mam a dad, yn anffodus," meddai.

Mae Rhodri yn siaradwr Cymraeg ac fel llawer o bobl eraill, dywedodd ei fod yn poeni y gall diffyg tai fforddiadwy i bobl leol effeithio ar yr iaith.

"Mae twristiaeth yn wych i ni am dri mis o'r flwyddyn yn yr haf," meddai.
"Ond yna'r wyth, naw mis arall, lle nad oes gan lawer o'r ail gartrefi, er enghraifft, bobl ynddynt, mae'n lladd y gymuned am weddill y flwyddyn."

Mae Rhodri yn bwriadu teithio yn y dyfodol agos ac yn gobeithio y bydd yn gallu fforddio ei gartref cyntaf ar ôl dychwelyd.

Rhodri Lewis
Disgrifiad o’r llun, Gobaith Rhodri yw bydd prisiau tai yn gostwng dros y blynyddoedd nesaf

Advertisement

Pentrefwyr yn 'falch' o'u gwaith i ddiddymu polisi ail gartrefi Gwynedd

Llai o ail gartrefi ar ôl codi treth Cyngor Gwynedd

Erthygl 4: Diddymu rheol ail dai Gwynedd ar ôl dyfarniad Uchel Lys

Dywedodd Carol Peet, sy'n gwerthu eiddo yn Sir Benfro, ei bod hi'n credu bod yna ddwy farchnad dai'n bodoli mewn rhai ardaloedd: un i bobl leol ac un ar gyfer ail gartrefi.

"Yr ateb amlwg, dwi'n meddwl, dwi i wedi bod yn ei rannu am y 25 mlynedd diwethaf, yw atal tai o dan bris cyfartalog eiddo yn yr ardal honno, sydd ar hyn o bryd tua £250,000, rhag cael eu gwerthu fel ail gartrefi," meddai.
"Dyna'r tai y gall teuluoedd ifanc lleol eu fforddio, nid y tai miliwn o bunnoedd y mae perchnogion ail gartrefi yn eu prynu."

Ychwanegodd fod nifer o fythynnod twristaidd yn wych ar gyfer gwyliau ond yn "hollol anymarferol" ar gyfer byw'n llawn amser gan eu bod nhw "yn oer, yn llaith ac yn dywyll yn y gaeaf".

Dywedodd, er bod ail gartrefi yn "hollol hanfodol" i'w heconomi leol yn Arberth, ei bod hi'n deall yr angen am dai fforddiadwy i bobl leol.

Beth yw'r rheolau o ran berchen ar ail gartref?

Mae modd i gynghorau ar draws Cymru ychwanegu premiwm o hyd at 300% ar filiau treth y cyngor am gartref ychwanegol nad yw'n cael ei ddefnyddio fel llety gwyliau am o leiaf 182 diwrnod o'r flwyddyn.

Ar hyn o bryd, mae'r premiwm yn 150% yng Ngwynedd a Cheredigion, gyda Sir Benfro yn gosod swm o 125%.

Ers 2023, mae rhaid i leoliadau hunanarlwyo fod ar gael am 252 diwrnod a'u rhenti am 182 o ddiwrnodau bob blwyddyn, dros sawl blwyddyn, er mwyn cael talu trethi annomestig yn lle'r dreth gyngor uwch.

Rhybuddiodd corff diwydiant yng Nghymru y gallai'r polisi yma arwain at "ddileu twristiaeth".

Ar draws y ffin, yn Lloegr, mae'n rhaid i eiddo hunanarlwyo fod ar gael i'w gosod am o leiaf 140 o ddiwrnodau'r flwyddyn - a'u rhenti am 70 o ddiwrnodau.

Ym mis Medi 2024, Gwynedd oedd yr awdurdod cyntaf i gyflwyno gofyniad am ganiatâd cynllunio i droi eiddo preswyl yn ail gartref neu'n llety gwyliau - sy'n cael ei alw'n Erthygl 4.

Flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd y mesurau hynny eu diddymu mewn dyfarniad cyfreithiol.

Dywedodd llywodraeth Cymru: "Rydym yn benderfynol o roi ffocws newydd ar fater ail gartrefi a gweithio gydag awdurdodau lleol i adolygu effeithiolrwydd mesurau presennol."

Dywedodd y bydd cynllun peilot yn Nwyfor, Gwynedd, sy'n edrych ar sut i fynd i'r afael â phroblemau gydag ail gartrefi, yn llywio'r adolygiad hwn i helpu i asesu pa gamau sydd eu hangen.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News