Galw am Baratoi'r Gadwyn Gyflenwi Leol ar gyfer Wylfa Newydd
Mae cwmni arbenigol mewn peirianneg niwclear yn rhybuddio bod angen i'r gadwyn gyflenwi leol fod yn barod cyn gynted ag y bo modd ar gyfer gorsaf ynni newydd Wylfa, neu bydd y swyddi a'r cytundebau yn mynd i gwmnïau y tu fas i Gymru.
Dywedodd Craig Rogers, rheolwr-gyfarwyddwr cwmni Tenet, sydd â swyddfa ym mharc gwyddoniaeth M-Sparc ger Gaerwen, Ynys Môn:
"Os nad ydych chi'n adeiladu'r sgiliau yn gynnar, bydd y gwaith yn mynd i lefydd sydd eisoes wedi paratoi ac yn barod fel Sheffield, neu Fryste neu tu hwnt.
Bydd hi'n anodd iawn cael y cytundebau gwaith yna'n ôl."
Ym mis Tachwedd 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd gorsaf ynni newydd yn cael ei chodi yn Wylfa ar Ynys Môn.
Bydd yr orsaf yn cynnwys math newydd sbon o dechnoleg niwclear sef adweithyddion modiwlar bach (SMR).
Dyma'r tro cyntaf i'r rhain gael eu codi yn y Deyrnas Unedig.
Mae gwrthwynebwyr yn mynnu mai buddsoddiad mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy - gwynt, tonnau, llanw - sydd ei angen ar Ynys Môn.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a chwmni Great British Energy - Nuclear i weld sut y gallwn gefnogi piblinell o weithwyr medrus yn y dyfodol yn Ynys Môn ac ar draws Cymru".
Gobaith i'r Gymuned Leol
"Oherwydd datblygiadau newydd mawr gyda Wylfa, dwi'n gobeithio gallu aros yn fy nghymuned," meddai Jac Jones
Mae Jac Jones, 18 oed, o Langefni, yn gobeithio bydd y pwerdy newydd yn arwain at swydd a gyrfa iddo yn lleol.
Mae Jac yn brentis gyda Tenet - daeth ar brofiad gwaith gyda'r cwmni pan oedd yn yr ysgol yn astudio ar gyfer Safon Uwch.
"Oherwydd datblygiadau newydd mawr gyda Wylfa, dwi'n gobeithio gallu aros yn fy nghymuned," meddai.
"Mae hyn yn brilliant i'r ardal. Bydd o hefyd yn dod a mwy o bobl a sgiliau yn ôl yma."

Hanes a Pharatoi'r Diwydiant Niwclear ar Ynys Môn
Mae'r diwydiant niwclear ar Ynys Môn wedi cael hanes hir, heriol a chymhleth ar adegau.
Roedd gorsaf ynni niwclear gwreiddiol Wylfa yn cynhyrchu trydan o 1971 tan iddi gau yn 2015 ac wedyn dechreuodd proses hir o ddadgomisiynu.
Ar ei phrysuraf roedd Wylfa, oedd yn eiddo i Magnox, yn cyflogi dros 1,400 o bobl a nifer fawr ohonyn nhw o gymunedau gogledd Ynys Môn.
Yn 2012 prynwyd Horizon gan gwmni Siapaneaidd Hitachi a'r bwriad oedd creu hyd at 6000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu a 1,200 o swyddi tymor hir.
Ond fe wnaeth y cwmni dro pedol a pheidio â bwrw ymlaen â'r cynlluniau hyn yn 2020.
"Mae lot o'r gwaith 'danni ni wedi'i wneud yn flaenorol yn sylfaen cadarn iawn, iawn i ni nawr," meddai Gwenllian Roberts
Yn 2024, prynwyd safle Wylfa gan Lywodraeth ddiwethaf y DU, ac yn ddiweddarach fe'i clustnododd fel "dewis cyntaf o ran safle ar gyfer gorsaf bŵer niwclear gigawat fawr".
Fe fu sawl tro yn hanes y safle ond mae hynny wedi helpu i baratoi ar gyfer y prosiect niwclear newydd, yn ôl Gwenllian Roberts, Uwch-gyfarwyddwr datblygiadau masnachol gyda grŵp colegau Llandrillo Menai.
"Ry ni wedi bod yma o'r blaen, mi wnaethon ni weithio'n agos iawn, iawn efo Horizon a Hitachi a'r gadwyn gyflenwi, felly mae lot o'r gwaith yna ydyn ni wedi'i wneud yn flaenorol yn sylfaen cadarn iawn, iawn i ni nawr," meddai.

Angen Cychwyn Cynnar ar Hyfforddiant a Sgiliau
Wrth bwyso a mesur y cyfleoedd o'r diwydiant niwclear yn yr ardal mae Huw Brassington, rheolwr Swyddfa Cymru gyda chwmni Tenet, yn dweud bod angen cychwyn yn sydyn i hyfforddi a meithrin sgiliau.
"Roedd tua 260 o geisiadau am gynllun prentisiaethau gan ein cwmni ni yn Warrington, ond dim ond tua chwech yng Nghymru," meddai.
"Mae'n cymryd pum mlynedd i greu peiriannwr da," meddai Huw Brassington

Fe fydd safle Wylfa yn lleoliad ar gyfer adeiladu'r tri adweithydd modiwlar bychan (SMR) Rolls Royce cyntaf i'w hadeiladu yn y Deyrnas Unedig - ac mae lle i hyd at wyth maes o law.
Corff cyhoeddus Great British Energy - Nuclear, fydd yn gyfrifol am yr adeiladu gyda buddsoddiad gwerth £2.5 biliwn o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Y bwriad yw dechrau'r gwaith eleni, a'r gobaith yw cynhyrchu trydan erbyn canol y 2030au.
Wrth ymateb i'r amserlen, dywedodd Gwenllian Roberts:
"Ry ni'n sefyll yn barod iawn, iawn i weithio'n agos efo GBE-N, ac efo Rolls-Royce i sicrhau bod ni'n cael gweithlu a'r sgiliau gradd flaenaf. Y flaenoriaeth ydy bod yna fudd yn lleol."
Dywedodd Huw Brassington:
"Mae'n cymryd pum mlynedd i greu peiriannwr da. Ry'n ni di dechrau dwy flynedd yn ôl gydag ein prentisiaid. Dyw'r cyfleoedd yma ddim 'di bod yn yr ardal ers degawdau."
"Rwy'n gobeithio bod yn rhan o brosiect Wylfa a chyfrannu at rywbeth sy'n fawr iawn nid yn unig i ogledd Cymru ond i Brydain i gyd," meddai Huw Williams

Denill Talent a Chynnal Sgiliau Lleol
Yn ogystal â meithrin talent newydd mae'r cwmni yn cael help grantiau i ddenu pobol yn ôl i'r ynys sydd â sgiliau angenrheidiol.
Mae Huw Williams, o Ben Llŷn yn wreiddiol, ond wedi gweithio yng Nghaerdydd am 15 mlynedd.
Roedd dod yn ôl wastad yn fwriad iddo, ond mae'n cyfaddef mai bwriad hir dymor oedd hynny efallai, ar ôl ymddeol.
Bellach mae'n gweithio fel cynllunydd peirianyddol i Tenet yn eu swyddfa yn Gaerwen.
"Rwy'n gobeithio bod yn rhan o brosiect Wylfa a chyfrannu at rywbeth sy'n fawr iawn nid yn unig i ogledd Cymru ond i Brydain i gyd," meddai.
Ysgolion a Chyflogwyr yn Paratoi'r Dyfodol
Mae ysgolion fel Ysgol Brynrefail yn Llanrug eisoes yn siarad â chyflogwyr a phartneriaethau lleol ynglŷn â chymwysterau angenrheidiol a sgiliau.
Dywedodd y pennaeth Dylan Jones:
"Mae gyda ni waith i wneud mewn ysgolion i hybu'r syniad fod cyfleoedd fel prentisiaethau yr un mor bwysig a cyfleoedd academaidd a mynd i brifysgol."
Mae rhai o ddisgyblion blwyddyn 13 yr ysgol hefyd a'u golygon ar y dewisiadau newydd posib.
Mae Seren eisoes wedi cael blas ar waith yn y diwydiant niwclear ar ôl bod ar brofiad gwaith ym mhwerdy Dinorwig.
"O weld bod cyfleoedd degree apprenticeships mewn cwmnïau, mae hyn yn rhywbeth faswn i yn ystyried oherwydd ry'ch chi yn cael gradd yn y diwedd ond ar yr un pryd yn cael profiad," meddai.
Un arall sy'n gobeithio y bydd y swyddi newydd yn help i gadw pobl ifanc fel fe yn lleol yw Ifan.
"Mae mwy o fuddsoddiad yn golygu bod mwy o gyfleoedd ar gael i helpu fi i aros yn yr ardal yn hytrach na mynd i Loegr neu'r Alban i chwilio am swydd o bosib."


Newidiadau yn Opsiynau Addysg a Gyrfa
'Dwi bendant yn ystyried prentisiaethau'
Dywed Ynyr bod datblygiadau newydd fel Wylfa ynghyd a'r cyhoeddiad y gallai dros 3,400 o swyddi newydd ddod i'r gogledd yn sgil datblygu Parth Twf Deallusrwydd Artiffisial neu AI wedi peri iddo ailystyried ei opsiynau i'r dyfodol.
"Byddwn i wedi edrych fwy na thebyg ar fynd i Brifysgol ond nawr dwi yn bendant yn ystyried prentisiaethau mewn maes fel peirianneg," meddai.
Gwrthwynebiad a Phryderon ynghylch y Prosiect
Yn y gorffennol mae grŵp ymgyrchu mudiad PAWB (Pobl Atal Wylfa-B) wedi codi cwestiynau ynglŷn â faint o swyddi a fydd yn cael eu creu gan y bydd y "darnau yn cael eu creu ymhell o Ynys Môn" ac yn dadlau mai "mwy priodol fyddai buddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy".
Yn y cyfamser mae nifer o fusnesau lleol yn rhybuddio fod y cloc yn tician a bod angen sicrhau fod y gweithle mewn lle er mwyn cwrdd â'r galw am sgiliau yn yr ardal.
Rhybudd Craig Rogers o gwmni Tenet yw bod yna beryg:
"os na fyddwn ni yn gweld buddsoddi cynnar mewn prentisiaethau a hynny law yn llaw a chefnogi busnesau lleol, fe fydd pobl yn ennill eu cyflog yn yr ardal yn yr wythnos ac yn gwario'u harian tu fas i Gymru dros y penwythnos".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Ystyried gogledd Cymru ar gyfer safle sy'n 'bwysig i ddiogelwch ynni Prydain'
- Cadarnhad y bydd pwerdy niwclear newydd yn cael ei adeiladu ym Môn








