Hyfforddwr ceffylau yn cael ei ddedfrydu am ymosod ar ddyn
Bydd Evans Williams yn cael ei ddedfrydu ar 14 Ebrill.
Mae hyfforddwr ceffylau 54 oed wedi cael ei ganfod yn euog o ymosod ar ddyn oedd yn cerdded ci ar ei dir.
Fe wnaeth Richard Evan Rhys Williams - sy'n cael ei adnabod fel Evan - daro Martin Dandridge sawl gwaith gyda ffon hoci yn ystod yr ymosodiad yn Llancarfan, Bro Morgannwg, ym mis Rhagfyr 2024.
Fe wnaeth Williams dorri braich Mr Dandridge, 72, yn ystod y digwyddiad.
Cymerodd awr a 45 munud i reithgor ganfod Williams yn euog o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 14 Ebrill.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan y dyddiad hwnnw, ond dywedodd ei fargyfreithiwr wrth y llys ei fod yn gwybod ei fod mewn perygl o wynebu cyfnod dan glo.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Hyfforddwr yn ofni y byddai ci rhydd yn dychryn ei geffylau - achos llys
- Hyfforddwr ceffylau 'wedi curo pensiynwr gyda ffon hoci' - achos llys







