Skip to main content
Advertisement

Mudiad Meithrin yn cyflwyno camau i leddfu pwysau ar wirfoddolwyr cylchoedd meithrin

Mae Mudiad Meithrin wedi cyhoeddi adroddiad newydd i leddfu pwysau ar wirfoddolwyr cylchoedd meithrin, gan archwilio opsiynau llywodraethiant a chynyddu cefnogaeth i sicrhau cynaliadwyedd a datblygiad y sector.

·4 min read
Logo'r Mudiad Meithrin

Adroddiad newydd i gefnogi gwirfoddolwyr cylchoedd meithrin

Mae Mudiad Meithrin wedi cyhoeddi adroddiad sydd â'r nod o geisio tynnu pwysau rheoli cylchoedd meithrin oddi ar wirfoddolwyr.

Yn dilyn cyfnod o holi gwirfoddolwyr cylchoedd, mae adroddiad newydd yn edrych ar sawl opsiwn wrth ddatblygu sut mae cylchoedd meithrin yn cael eu rheoli yn y dyfodol.

Yn gynharach eleni, fe wnaeth sawl gwirfoddolwr ddweud wrth BBC Cymru fod y rôl yn medru bod yn

"lot o gyfrifoldeb, lot o faich" ac yn gallu bod yn "lot o boen meddwl"
.

Dywedodd Dr Catrin Edwards, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin fod mynd i'r afael â'r pwysau cynyddol mae rhai gwirfoddolwyr a phwyllgorau yn profi

"yn parhau yn flaenoriaeth"
.

'Lleddfu pwysau' ar gylchoedd meithrin yn flaenoriaeth - pennaeth newydd

Agor cylch meithrin yn wirfoddol yn 'dorcalonnus o galed'

Fis Mawrth eleni, mi wnaeth sawl gwirfoddolwr mewn cylchoedd meithrin siarad â BBC Cymru gan ddweud ei bod hefyd yn her sylweddol ceisio denu pobl i ymuno â'r pwyllgorau oherwydd y pwysau.

Gwirfoddolwyr sy'n gwasanaethu ar bwyllgorau cylchoedd meithrin, a nhw sy'n gyfrifol am faterion ariannol, diogelu plant a chyflogi staff.

Mae cynlluniau newydd Mudiad Meithrin yn edrych yn fanwl ar sawl opsiwn, gan ystyried symud y llywodraethiant tuag at reolaeth ganolog fel un opsiwn.

Mae'r cymorth tymor byr yn cynnwys datblygu pecyn cymorth estynedig, a chynyddu cymorth ar lawr gwlad mewn cylchoedd.

Mae angen moderneiddio mewn ymateb i sawl her o fewn y sector gofal plant, yn ôl prif weithredwr Mudiad Meithrin, Dr Catrin Edwards

Catrin Edwards, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin
Disgrifiad o’r llun, Mae angen moderneiddio mewn ymateb i sawl her o fewn y sector gofal plant, yn ôl prif weithredwr Mudiad Meithrin, Dr Catrin Edwards

Ddydd Llun, fe gyhoeddodd Mudiad Meithrin adroddiad er mwyn gosod cyfeiriad ar gyfer dyfodol rheoli a llywodraethu cylchoedd meithrin ar draws Cymru.

Cafodd grŵp gorchwyl a gorffen ei sefydlu er mwyn edrych ar fodelau amgen i'w hystyried.

Yn ôl Mudiad Meithrin, mae'r adroddiad newydd

"yn adeiladu ar gryfderau'r model gwirfoddol presennol ac yn edrych ar gyfleoedd i'w gryfhau, ei ddiweddaru a'i wneud yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol"
.

Ychwanegodd eu Prif Weithredwr, Dr Catrin Edwards, fod yr angen i'r mudiad foderneiddio er mwyn wynebu heriau cynyddol ar draws y sector gofal plant.

Advertisement

"Mae mynd i'r afael ar y pwysau cynyddol mae rhai gwirfoddolwyr a phwyllgorau yn profi yn parhau yn flaenoriaeth,"
meddai.

Dywedodd fod hynny wrth iddyn nhw

"baratoi'r Mudiad a'n haelodau at ddarparu gofal plant sy'n ymateb i anghenion gofal plant rhieni a gofalwyr, nawr ac yn y dyfodol"
.

"Nod y gwaith pwysig yma yw sicrhau bod Cylchoedd Meithrin yn parhau i chwarae rhan allweddol yn natblygiad y Gymraeg.

Mae'r newid hwn yn hanfodol i sicrhau bod ein cylchoedd yn parhau'n gynaliadwy ac yn gallu cyflawni'r weledigaeth o gynnig profiadau blynyddoedd cynnar o ansawdd a rhoi'r cyfle i bob plentyn yng Nghymru chwarae, dysgu a thyfu drwy'r Gymraeg."

Barn Gwirfoddolwyr

Cafodd holiadur ei rannu ag aelodau o bwyllgorau cylchoedd meithrin ar draws Cymru.

  • 66% o aelodau pwyllgor eisiau lleihau'r nifer o oriau maen nhw'n gwirfoddoli;
  • 49.1% o aelodau pwyllgor yn dymuno cael cefnogaeth datblygu busnes; a
  • 40.4%, yn dymuno bod yn rhan o rwydwaith sirol, gan ddod ag arbenigedd a phrofiad at ei gilydd ar raddfa fwy.

Wrth i'r sector gofal plant dyfu a datblygu, mae'r adroddiad yn amlinellu fod angen cryfhau'r gefnogaeth a moderneiddio'r dull mae'r pwyllgorau yn gweithredu.

Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy wella'r gefnogaeth i wirfoddolwyr a chryfhau llywodraethiant.

Wrth edrych tua'r dyfodol, mae'r adroddiad yn archwilio tri opsiwn ar gyfer llywodraethiant cylchoedd yn y dyfodol:

  • Parhau gyda'r model pwyllgorau rheoli gwirfoddol, ond gyda chefnogaeth ychwanegol;
  • Mabwysiadu byrddau llywodraethu, gyd gwahaniaeth clir rhwng llywodraethu a rheolaeth ddydd-i-ddydd; a
  • Symud tuag at reolaeth ganolog gan Mudiad Meithrin.

Y bwriad gan Mudiad Meithrin ydi cyflwyno pecyn cymorth estynedig o fis Medi 2026 fel cam cyntaf, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r buddsoddi newydd yn cynnwys cynyddu'r gefnogaeth lawr gwlad i gylchoedd meithrin a chynnal arolwg cenedlaethol er mwyn ceisio deall maint a natur heriau i bwyllgorau.

Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan:

"Rwy'n falch o gefnogi Mudiad Meithrin wrth iddo barhau i ddatblygu a moderneiddio, gan gryfhau ei allu i gefnogi a thyfu darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.

Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod Cylchoedd Meithrin yn parhau wrth galon ein cymunedau, gan ddarparu profiadau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg o'r safon uchaf i blant a'u teuluoedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News