Cwest i farwolaeth Endaf Telford Jones
Cafodd y cwest i farwolaeth Endaf Telford Jones ei gynnal yn Llys y Crwner, Caernarfon.
Mae'r cwest wedi clywed bod mecanig o Ynys Môn wedi marw o ganlyniad i ddamwain ym mis Mawrth 2025.
Roedd Endaf Telford Jones, 49 o Engedi, yn gweithio ar y pryd ar fferm rhwng Y Fali a Chemaes.
Mewn datganiad, dywedodd ei wraig ei fod yn
"weithiwr mor galed... fyddai yn gwneud unrhyw beth i'w deulu"
Daeth y rheithgor i'r casgliad fod Mr Endaf Telford Jones wedi marw o ganlyniad i ddamwain ac achos ei farwolaeth oedd asffycsia o ganlyniad i gael ei wasgu (crushed asphyxia).
Roedd Endaf Telford Jones yn gweithio ar dractor yn Fferm Hafoty yn Rhyd-wyn ger Porth Swtan.

Manylion y digwyddiad ar y fferm
Clywodd y cwest fod Mr Jones yn gweithio ar dractor yn Fferm Hafoty yn Rhyd-wyn ger Porth Swtan ar ddiwrnod ei farwolaeth.
Mrs Enid a Jane Hughes - mam a merch oedd yn berchen ar y fferm, a dyn o'r enw Gareth Taylor oedd yn gyfrifol am redeg y fferm o ddydd i ddydd.
Clywodd y cwest fod DJS Hydraulics, cwmni sy'n arbenigo mewn peiriannau fferm, wedi derbyn galwad gan Mr Taylor i anfon rhywun i'r fferm i edrych ar dractor oedd yn gollwng hylif hydrolig.
Cafodd Endaf Jones ei anfon i'r fferm ar 12 Mawrth 2025.
Clywodd y cwest ei fod wedi cyrraedd y fferm y bore hwnnw, ac wedi cyfarfod â Mr Taylor, a wnaeth ddangos y tractor iddo.
Dyma pryd y gwelodd nad oedd oddeutu pedair peipen hydrolig yn addas bellach ac angen eu newid.
Ar ôl dangos y tractor iddo, clywodd y cwest fod Mr Taylor wedi gadael y safle.
Yn ddiweddarach, am 10:47 y bore hwnnw, fe adawodd Mr Endaf Telford Jones y safle a mynd i safle'r cwmni yn Amlwch.
Aeth yno i gael peipiau hydrolig newydd i'r tractor oedd a llwythwr (loader) arno ar y pryd.
Fe gyrhaeddodd Mr Jones yn ôl yn fferm Hafoty gyda'r cydrannau am 11:55.
Digwyddiad tragwyddol ar y fferm
Wrth roi tystiolaeth ddydd Mercher, dywedodd Mr James William Benton - un o ymchwilwyr yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) fod aelod o staff cwmni DJS Hydraulics ar safle'r cwmni ym Mangor wedi derbyn galwad gan Mr Endaf Jones, lai na hanner awr yn ddiweddarach am 12:19.
Un o'i gydweithwyr, Mr Robert Holland, dderbyniodd yr alwad, sy'n dweud nad yw'n cofio llawer o'r hyn gafodd ei ddweud ar yr alwad.
Clywodd y cwest fod yr alwad yma yn anodd iddo i'w deall, a bod Mr Holland yn credu ei fod wedi clywed Mr Jones yn dweud rhywbeth tebyg i
"ambiwlans".
Fe geisiodd ei ffonio yn ôl, ond dywedodd ei fod wedi methu cael ateb.
Yn ddiweddarach, fe dderbyniodd aelod arall o weithwyr y cwmni, Dafydd Hughes, oedd i ffwrdd o'r gwaith y diwrnod hwnnw, ond yn digwydd byw yn ardal y fferm, alwad ffôn yn gofyn iddo fynd draw yno.
Fe gyrhaeddodd Mr Dafydd Hughes, fferm Hafoty yn ddiweddarach gan ddarganfod Mr Jones yn farw yno wedi'i wasgu rhwng bloc falf dau ar y tractor a'r llwythwr oedd wedi'i osod ar flaen y tractor.
Dywedodd Mr Benton o'r HSE:
"Fe wnaeth Mr Jones newid nifer o'r pibellau hydrolig yn llwyddiannus cyn ei farwolaeth. Er hynny, ychwanegodd fe wnaeth Mr Jones gamgymryd fod un o'r pibellau wedi ei gwagio, pan nad oedd wedi.
Rwy'n credu fod y lle'r oedd Mr Endaf Jones yn sefyll ar yr adeg pan wnaeth o ddatgysylltu un o'r falfiau wedi achosi, yn anffodus, iddo gyfangu arno ei hun.
Nododd ei fod hefyd o bosib wedi camgymryd lliwiau'r falfiau.
Aeth ymlaen i ddweud fod Mr Jones yn dechnegydd oedd â llawer iawn o brofiad a nifer o gymwysterau.
Byddai'r llwythwr ar y tractor, oedd ar y pryd yn wynebu'r llawr wedi codi "yn sydyn" yn ôl Mr Benton."
Daeth y rheithgor i'r casgliad fod Mr Endaf Telford Jones wedi marw o ganlyniad ddamwain ac achos ei farwolaeth oedd asffycsia o ganlyniad i gael ei wasgu (crushed asphyxia).
Canlyniad archwiliad postmortem
Cafodd archwiliad postmortem ei gynnal gan batholegydd y Swyddfa Gartref Dr Brian Rogers.
Dywedodd Dr Rogers fod ychydig iawn o dystiolaeth yn dangos fod Mr Jones wedi profi anafiadau allanol, ond fod yr anafiadau mewnol yn niferus.
Nododd fod yna orlenwad mewnol (internal congestion) ar lawer o'r organau mewnol gan gynnwys yr ymennydd a'r ysgyfaint.
Nododd fod Mr Endaf Jones wedi marw o ganlyniad i asffycsia o ganlyniad i gael ei wasgu (crushed asphyxia).
'Diwrnod gwaethaf fy mywyd'
Clywodd y cwest ddatganiad ysgrifenedig a gafodd ei ddarllen ar ran Mrs Rhian Jones, gwraig Endaf Telford Jones.
Dywedodd:
"O oed ifanc roedd yn well gan Endaf weithio ar beiriannau.
Roedd yn fachgen hyfryd, ond bob amser yn fudr" oherwydd ei waith.
Aeth ymlaen i ddweud fod Endaf yn llawn balchder ers dod yn dad.
"Roedd yn weithiwr mor galed a dim ond isio darparu ar gyfer ei deulu. Roedden nhw'n meddwl byd o'u tad, ac roedd yntau yn caru ei blant.
Byddai yn gwneud unrhyw beth i'w deulu."
Ychwanegodd Mrs Jones fod ei diweddar ŵr wastad yn tynnu coes am gael ymddeol o'i waith pan oedd yn hanner cant oed.
Ond dywedodd,
"'naeth o erioed gyrraedd ei hanner cant".
"Y diwrnod ges i'r gnoc yna ar y drws oedd diwrnod gwaethaf fy mywyd"
Diolchodd y crwner cynorthwyol Sarah Riley i bawb oedd yn bresennol, gan ddymuno pob lwc i aelodau o deulu Mr Endaf Telford Jones oedd yn bresennol wrth symud ymlaen yn y dyfodol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






