Skip to main content
Advertisement

Mam yn galw am newid llwyr i'r gwasanaeth prawf ar ôl marwolaeth ei mab

Mae Nadine, mam Conner Marshall, yn galw am newid llwyr i'r gwasanaeth prawf a'r system gyfiawnder ar ôl i droseddwr gael ei erlyn am droseddu tra dan glo heb i'r teulu gael gwybod ymlaen llaw.

·4 min read
David Braddon

Ymgyrchu i wella cefnogaeth i ddioddefwyr

Mae Nadine, mam Conner Marshall, wedi bod yn ymgyrchu i wella'r gefnogaeth i ddioddefwyr ers marwolaeth ei mab 11 mlynedd yn ôl.

Mae mam dyn a lofruddwyd mewn ymosodiad erchyll, dirybudd ym Mhorthcawl dros ddegawd yn ôl, yn galw am ailedrych llwyr ar sut mae'r gwasanaeth prawf a'r system gyfiawnder yn gweithredu.

Roedd David Braddon, y gŵr a lofruddiodd Conner Marshall, yn y llys ddechrau mis Mawrth, wedi iddo droseddu eto tra oedd dan glo.

Daeth Nadine Marshall i wybod am hyn drwy ddarllen erthygl ar y we.

"Do'dd dim cliw 'da fi na neb yn y teulu bod hyn wedi digwydd," meddai.

Mae'r weinyddiaeth gyfiawnder yn cydnabod y gall fod yn ofidus i deuluoedd weld troseddwyr yn ymddangos yn y cyfryngau heb rybudd, ac maen nhw'n ymchwilio i gwynion Nadine Marshall.

'Dyw e ddim yn ddigon da'

Esboniodd Ms Marshall sut y daeth i wybod am drosedd pellach David Braddon.

"Nes i godi a jyst edrych ar y ffôn fel chi'n neud, a nes i weld notification i 'weud bod rhywbeth wedi postio, nes i glicio fe a gweld llun o David Braddon.
"O'n i'n llefen. O'n i jyst ddim yn gwybod be' i 'neud, pwy i gysylltu gyda."

Nadine yw rhan o'r Cynllun Cymorth i Ddioddefwyr. Fel rhan o'r cynllun, mae dioddefwyr i dderbyn gwybodaeth ar adegau allweddol yn ystod dedfryd y troseddwr.

Pan fydd Swyddog Cyswllt y Dioddefwyr yn cael gwybod am stori bosibl yn y cyfryngau, mae modd iddyn nhw drosglwyddo'r wybodaeth i'r dioddefwr os yw'n berthnasol.

Advertisement

Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod hyn wedi digwydd yn yr achos hwn.

"Bydden i wedi hoffi, ac wedi disgwyl cael gwybod am y newid yn y sefyllfa 'ma - dyw e ddim yn ddigon da," meddai Nadine Marshall.

Dywedodd Nic Parry ei bod hi'n anodd dewis a dethol pa wybodaeth ddylai gael ei rhannu.

Ond gyda chynifer wedi cofrestru i fod yn rhan o'r cynllun, mae 'na bwysau ar y system, fel mae Nic Parry, cyn-farnwr Llys y Goron yn esbonio.

"Y cwestiwn ydy, lle ma' pen draw hyn?" dywedodd.
"Beth sydd wedi digwydd fan hyn mae'n debyg ydy bod y carcharor wedi camymddwyn yn y carchar ac mae'n cael ei erlyn oherwydd hynny.
"Ydy hynny'r math o wybodaeth fydde chi'n rhannu? Hynny yw, oes dyletswydd i fynd mor bell â hynny?
"Dydy hi ddim yn hawdd. Mae 'na filoedd yn manteisio ar y cynllun yma, ond wrth gwrs, ar ddiwedd y dydd mae hon wedi dioddef trychineb enbyd, ac oherwydd hynny yn sicr, fydd yna edrych manwl i weld a allai pethe fod wedi eu gwneud yn well."
Nic Parry
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd Nic Parry ei bod hi'n anodd dewis a dethol pa wybodaeth ddylai gael ei rhannu

'Ofnadwy o grac'

Doedd teulu Conner Marshall ddim yn gwybod fod Braddon yn cael ei gadw yng Ngharchar y Parc, tua 10 milltir o'r fan lle cafodd Conner ei lofruddio.

"Does dim un gair i allu egluro be' fi'n teimlo," meddai Ms Marshall.
"Fi'n teimlo'n grac, ofnadwy o grac. Dwi'n teimlo bod y strwythur, eto, wedi gadael ni lawr.
"Mae e jyst yn tanlinellu i fi bod dioddefwyr ddim yn bwysig, yn y strwythur cyfiawnder ar hyn o bryd.
"Dwi'n teimlo'n siomedig a dwi mo'yn atebion. Fi mo'yn i'r system cyfiawnder a gwasanaeth prawf wrando a newid pethe yn llwyr."

Ymateb y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder:

"Roedd yr hyn a ddigwyddodd i Conner Marshall yn erchyll, ac mae'n meddyliau ni gyda'i deulu a'i ffrindiau.
"Ry'n ni'n gwbod ei bod hi'n gallu bod yn bryderus iawn i ddioddefwyr i weld troseddwyr yn ymddangos yn y cyfryngau heb rybudd ac rydym ni'n ymchwilio i'r cwynion gan Nadine Marshall.
"O dan y Cynllun Cyswllt â Dioddefwyr, rhoddir gwybod i ddioddefwyr am ddatblygiadau allweddol yn ymwneud â dedfryd y troseddwr."

Mae Nadine wedi bod yn ymgyrchu i wella'r gefnogaeth i ddioddefwyr ers marwolaeth ei mab 11 mlynedd yn ôl, ac fe fydd y gwaith hwnnw yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News