Skip to main content
Advertisement

Mam 'byth am dderbyn' ymddiheuriad llofrudd ei mab

Cafodd David Braddon ymddiheuro i fam Conner Marshall wrth iddo gael tair blynedd a saith mis ychwanegol am droseddu yn y carchar.

·3 min read
David Braddon

Cafodd David Braddon, 38, sydd o Gaerffili, ymddiheuro i fam Conner Marshall yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, wrth iddo gael dedfryd ychwanegol am droseddu tra oedd e'n y carchar. Cafodd Braddon, a laddodd Conner Marshall, 18, mewn ymosodiad ym Mhorthcawl yn 2015, dair blynedd a saith mis ychwanegol dan glo, a bydd y cyfnod hwnnw'n cael ei ychwanegu at yr isafswm o 20 mlynedd roedd e eisoes yn gorfod ei dreulio yn y carchar.

Roedd Nadine Marshall, mam Conner, yn bresennol yn y gwrandawiad, a chafodd ganiatâd i ddarllen datganiad yn y ddedfryd ddydd Gwener. Yn ystod yr achos, gweiddodd Braddon o'r doc ei fod yn sori am yr hyn a ddigwyddodd.

Nadine Marshall
Disgrifiad o’r llun, Cafodd Nadine Marshall ganiatad i ddarllen datganiad yn y dedfrydu ddydd Gwener

Yn gynharach eleni fe wnaeth Braddon gyfaddef iddo fod â ffôn symudol yn ei feddiant yn y carchar a'i fod wedi defnyddio'r ddyfais i roi cyfarwyddiadau i dri pherson ar sut i symud arian rhwng cyfrifon banc. Y bobl hynny oedd ei fam Karen Graham, 57, ei gyn-bartner Gemma Phillips, 41, a'r cyn-swyddog carchar Claire Jones, 38.

Clywodd y llys fod cyfanswm o dros £50,000 wedi cael ei symud mewn gwahanol daliadau. Daeth y troseddu i'r amlwg pan dderbyniodd swyddog yng Ngharchar Parc neges yn gofyn iddo fynd i gyfarfod â charcharor penodol. Gwrthod y cais wnaeth y swyddog dan sylw a chafodd y mater ei gyfeirio at awdurdodau'r carchar a'r heddlu.

Mae mam Conner Marshall wedi dweud ei bod 'wedi teimlo bob emosiwn'

Fe ddaeth Nadine Marshall i wybod am droseddau diweddaraf Braddon drwy ddarllen erthygl ar y we. Cafodd Ms Marshall ganiatâd i ddarllen datganiad dioddefwr gan y barnwr, er nad oedd hi'n ddioddefwr uniongyrchol yn yr achos dan sylw.

Advertisement
Conner Marshall
Disgrifiad o’r llun, Bu farw Conner Marshall yn 2015

Dywedodd Ms Marshall:

"Roedd fy mol i'n troi a ro'n i'n teimlo'n sâl [pan welodd hi'r newyddion], yn gweld lluniau o fy mab wedi ei anafu yn fy mhen unwaith eto,"

"Dwi'n meddwl fy mod i wedi teimlo bob emosiwn posib; sioc, gofid, pryder a dicter."

O'r doc fe weiddodd David Braddon:

"Dwi'n sori, rydw i wir yn sori. Mi ydw i."

Cafodd Braddon ei ddedfrydu i dair blynedd a saith mis am fod â ffôn yn ei feddiant a'r defnydd o eiddo anghyfreithlon. Cadarnhaodd y barnwr y byddai'r cyfnod hwn yn cael ei ychwanegu at yr isafswm o 20 mlynedd yr oedd eisoes yn gorfod ei dreulio dan glo.

Cafodd Claire Jones a Gemma Griffiths eu dedfrydu i ddwy flynedd a naw mis o garchar, tra bod Karen Graham wedi cael dedfryd o flwyddyn a chwe mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News