Skip to main content
Advertisement

Heddlu'n canfod ail gorff caiaciwr coll ym Mhwllheli

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod ail gorff y caiaciwr coll ym Mhwllheli wedi ei ganfod, ar ôl i gorff Connor Parfitt gael ei ddarganfod yn Aberystwyth ddydd Sul.

·2 min read
Simon a Connor

Mae'r heddlu sy'n chwilio am ddau gaiaciwr a aeth ar goll ym Mhwllheli dros wythnos yn ôl wedi darganfod ail gorff. Cafodd Connor Parfitt a Simon Wilson eu gweld ddiwethaf ger traeth Hafan Y Môr tua 18:30 ddydd Mawrth 21 Gorffennaf.

Cafodd corff Mr Parfitt ei ganfod ar draeth yn Aberystwyth ddydd Sul, ac mae Heddlu'r Gogledd bellach wedi cadarnhau fod corff Mr Wilson hefyd wedi ei ganfod. Dywedodd y llu fod swyddogion wedi derbyn adroddiadau bod corff yn y môr ger Llwyngwril, Gwynedd am tua 19:20 nos Fawrth.

Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai corff Mr Wilson oedd hwnnw, a bod ei deulu a'r crwner wedi cael gwybod.

Pa wybodaeth a roddodd yr heddlu?

Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson ei fod yn

"cydymdeimlo'n arw gyda theulu Simon ar yr adeg hynod anodd yma".

Ychwanegodd:

"Nid dyma'r canlyniad roedd unrhyw un ohonom wedi gobeithio ei weld, gan gynnwys y timau chwilio.

"Diolch i'r holl asiantaethau, gwirfoddolwyr ac aelodau'r cyhoedd sydd wedi helpu gyda'r gwaith chwilio.

Advertisement

"Gofynnwn yn garedig fod pobl yn parchu hawl teuluoedd Simon a Connor am breifatrwydd."

Beth arall a ddywedwyd am yr achos?

Mae'r digwyddiad wedi arwain at bryder am ddau gaiaciwr sydd ar goll o Bwllheli ers dydd Mawrth. Mae'r chwilio wedi cynnwys sawl asiantaeth, gwirfoddolwyr ac aelodau o'r cyhoedd, ac mae'r heddlu wedi diolch i bawb a gyfrannodd i'r gwaith hwnnw.

Canfod corff caiaciwr coll a'r chwilio'n parhau am ail ddyn. Pryder am ddau gaiaciwr sydd ar goll o Bwllheli ers dydd Mawrth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

## Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News