Heddlu'n Canfod Tyfiant Canabis ym Mhlas Glynllifon
Mae Heddlu'r Gogledd wedi datgelu eu bod wedi canfod "tyfiant sylweddol" o ganabis ar ôl cynnal cyrch cyffuriau ym Mhlas Glynllifon ger Caernarfon.
Dywedodd y llu eu bod wedi gweithredu gwarant o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau yn y plasty hanesyddol ddydd Mawrth.
Mae'r adeilad rhestredig Gradd I wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd.
Mae'r heddlu yn rhybuddio'r cyhoedd i gadw draw o'r lleoliad wrth i'w hymholiadau barhau.
Ymholiadau am Berchnogaeth yr Adeilad
Mae'r heddlu yn gwneud ymholiadau am berchnogaeth yr adeilad.

Dywedodd Arwel Hughes, uwch arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru, eu bod "wedi cael gwybodaeth bod 'na dyfiant canabis sylweddol yn yr adeilad".
"Ddoe [dydd Mawrth] 'da ni wedi gweithredu ar warant a 'da ni wedi mynd mewn i'r eiddo a darganfod sawl 'stafell efo tyfiant canabis ynddyn nhw."
"'Da ni'n edrych ar 12 'stafell i gyd, a'r meintiau yn amrywio."
"Mae gennym ni arbenigwr rŵan wedi'i benodi i'r achos yma, a'i waith o fydd mynd 'rownd a darganfod faint o blanhigion 'da ni'n sbïo arnyn nhw."
Does neb wedi'u harestio eto, meddai, gan ychwanegu bod gan yr heddlu "waith o'n blaenau i ymchwilio a thrio darganfod pwy sy' tu ôl i'r fenter yma".
Dywedodd fod yr heddlu yn gwneud ymholiadau am berchnogaeth yr adeilad, ac "yn amlwg mi fyddan ni'n awyddus iawn i siarad gyda'r perchennog".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




