Gyrrwr beic trydan yn osgoi carchar ar ôl taro dyn arall yn anymwybodol
Cafodd Sam Bevan ei adael â chyfergyd difrifol a thoriadau i'w wyneb yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mae dyn a blediodd yn euog i yrru'n beryglus ar ôl taro cerddwr gyda beic trydan yng Nghasnewydd wedi cael dedfryd o 12 mis o garchar wedi ei ohirio.
Roedd Jordan Willetts, 35, wedi cyfaddef gyrru'n beryglus, gyrru heb drwydded a pheidio ag aros yn dilyn y gwrthdrawiad fis Tachwedd y llynedd.
Cafodd Sam Bevan ei daro'n anymwybodol ar Rodfa Fairoak cyn i'r gyrrwr adael y safle.
Cafodd Willetts ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mercher.
Cafodd deunydd CCTV ei ganfod o Sam Bevan [dillad gwyn] yn cael ei daro gan y beic trydan.
Roedd y llys wedi clywed yn flaenorol fod Willetts yn gyrru i'r cyfeiriad anghywir ar hyd stryd unffordd pan darodd Mr Bevan.
Cafodd Mr Bevan ei adael â chyfergyd difrifol a thoriadau i'w wyneb wedi'r gwrthdrawiad wrth iddo groesi Rodfa Fairoak ar 11 Tachwedd 2025.
Aeth Mr Willetts at yr heddlu o'i wirfodd ddeuddydd ar ôl y digwyddiad.
Dilynwch y newyddion
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
Gyrrwr beic trydan yn pledio'n euog ar ôl taro dyn arall yn anymwybodol




