Penderfyniadau ariannu 'hynod anodd' o'n blaenau - Gweinidog Cyllid
Dywedodd Gweinidog Cyllid Plaid Cymru, Elin Jones AS, nad ydyn nhw "yn mynd i wneud yr un fath a'r llywodraeth flaenorol" wrth drafod y heriau ariannu sy'n wynebu Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu penderfyniadau "hynod anodd" i ariannu ymrwymiadau maniffesto allweddol, gan gynnwys cynnig gofal plant am ddim i holl blant o naw mis i bedwar blwydd oed.
Wrth siarad ar raglen Politics Wales, dywedodd Elin Jones nad oedd y cyhoedd wedi pleidleisio dros "estyniad o bolisïau Llafur" ac nad ydyn nhw "yn mynd i wneud yr un fath a'r llywodraeth flaenorol".
Mae'r llywodraeth newydd wedi dod o dan bwysau cynyddol i egluro sut y bydd yn talu am un o'u prif bolisïau, sy'n debygol o gostio hyd at £400m dros bedair blynedd.
Er iddi gydnabod y bydd "newidiadau i'r gyllideb", ni wnaeth y Gweinidog ymhelaethu ar y manylion ariannu ar gyfer y polisi hwn.
'Heriau' i gynghorau wrth geisio ehangu gofal plant am ddim
Mae galw am symud ymlaen â chynlluniau ar gyfer trydedd groesfan i'r Fenai a chynnal adolygiad i ystyried lleihau baich 'gwaith papur diangen' ar ffermwyr.
Awgrymodd Elin Jones y bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhyddhau yn ystod yr wythnosau nesaf cyn cyhoeddi'r gyllideb atodol ar 23 Mehefin.
Mae'n arferol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cyllideb atodol yn ystod yr haf i adlewyrchu unrhyw newidiadau ariannol yn ystod y flwyddyn ariannol.
Wrth drafod y pwysau ariannol ar Lywodraeth Cymru yn gyffredinol, dywedodd y Gweinidog Cyllid fod y rhagolygon ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn "heriol" gan ychwanegu ei fod yn "debygol, yn fwy heriol nag oeddwn i'n ei ddisgwyl."
Mae'r blaid Lafur Cymreig wedi ymateb drwy eu llefarydd ar gyllid, Huw Thomas AS, gan ddweud:
"Mae'n ffantasi i ddweud nad oedd Plaid Cymru yn ymwybodol o faint yr her ariannol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru."
"Roedd Plaid Llafur Cymru bob amser yn onest am yr her. Dywedodd yr IFS wrtho ni am yr her. Roedd gan Plaid Cymru, hyd yn oed, fynediad at lyfrau (ariannol) y llywodraeth."
'Maniffesto sydd ddim wedi'i gyllido'
Yn ystod yr ymgyrch etholiadol, mae cynrychiolwyr Plaid Cymru wedi nodi y bydd angen ail-flaenoriaethu rhan o'r £7bn a wnaeth y llywodraeth Lafur flaenorol ei wario ar daclo tlodi plant er mwyn ariannu eu cynnig gofal plant.
Gwadodd Elin Jones eu bod yn "datgymalu etifeddiaeth" Llafur ond dywedodd mai "newid gêr ar ble ry' ni o safbwynt cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yw'r hyn dwi am weld".
Ar ôl ennill 43 sedd yn y Senedd yn yr etholiad fis Mai, mae Plaid Cymru chwe sedd yn brin o fwyafrif, gan olygu y bydd rhaid iddynt gydweithio gyda phlaid arall i basio cyllideb.
Awgrymodd arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Llafur Chris Weaver, nad yw'n gyfforddus gyda gweld Aelodau Senedd Llafur yn cefnogi cyllideb pe byddai'r "gwaith ffantasig sydd wedi digwydd yng Nghymru" i fynd i'r afael a thlodi plant "yn cael ei ddatgymalu i dalu am ymrwymiad maniffesto sydd ddim wedi'i gyllido".
'Mae gan bobl Cymru'r hawl i wybod sut bydd yn cael ei ariannu'
Cwestiynwyd amcangyfrif Plaid Cymru o £400m ar gyfer eu polisi gofal plant gan Llyr Powell AS o Reform UK, gan ddweud fod eu "cyfrifon mewnol" yn awgrymu y gallai'r gost fod tua £580m os yw'r nifer sy'n derbyn y cynnig yn cyrraedd y disgwyl.
"Mae hwn yn bolisi pwysig wnaeth Plaid Cymru roi yn flaenllaw ac mae gan bobl Cymru'r hawl i wybod sut bydd yn cael ei ariannu.
"Allwn ni ddim rhoi siec wag iddyn nhw na throsglwyddo'r cyfrifoldeb i arweinydd cyngor pan maen nhw eisoes dan straen."
Yr wythnos hon, amddiffynnodd Sam Rowlands AS o'r Ceidwadwyr benderfyniad y grŵp i gefnogi gwelliant Plaid Cymru mewn pleidlais yn y Senedd ar ofal plant.
"Yn gywir roedd cynnig Plaid Cymru yn beirniadu Reform am iddyn nhw beidio cyfeirio at ofal plant yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad ac yn ymrwymo i gyhoeddi eu ffigyrau cyn gwyliau'r haf. Mi roedda' ni'n teimlo fod hynny'n rhesymol," meddai.
"Be sy'n bwysig yma, wrth gwrs, ydi fod gan rieni beth sicrwydd ar gyfer dyfodol gofal plant, ar gyfer pobl sydd am ddechrau teulu, ac ar gyfer unrhywun sy'n meddwl tyfu eu teulu, dyna'r mater sydd angen ei daclo ar hyn o bryd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






