Rhai o drigolion Caerfyrddin fu'n lleisio eu barn ar gostau byw
Mae mwy o bobl yn defnyddio gwasanaeth banc bwyd yng Nghwm Tawe oherwydd cynnydd yn y costau byw, yn ôl gwirfoddolwyr.
Mae Brian Jones wedi gwirfoddoli ym manc bwyd y Pantri ym Mhontardawe ers dros 10 mlynedd, gan ddweud mai cost ynni yw prif bryder pobl ar hyn o bryd a bod "prisiadau bwyd ddim yn mynd i lawr."
"Yn aml iawn ni'n cael mamau sy'n dod pan mae plant yn yr ysgol achos dydyn nhw ddim eisiau i blant gwybod pa mor anodd mae pethau".
"Mae rhai yn gweithio llawn amser ond dal ddim yn gallu darparu bwyd i'w teuluoedd."
Mae'r ffigyrau diweddaraf, a gyhoeddwyd fore Mercher, yn dangos bod chwyddiant wedi codi i 3.3% yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth - i fyny o 3% ym mis Chwefror.
Dywedodd Brian Jones fod llawer sy'n defnyddio'r banc bwyd yn gweithio llawn amser.

O ganlyniad i'r rhyfel yn Iran, mae teuluoedd ar draws Cymru'n wynebu heriau ariannol, gyda gwirfoddolwyr yn nodi cynnydd yn y defnydd o'r gwasanaeth.
Mae nifer yr oedolion sydd wedi derbyn cymorth o'r banc bwyd wedi cynyddu dros 10% rhwng 2023 a 2025.
Yn ogystal, mae nifer y plant sy'n derbyn cymorth o'r banc bwyd wedi cynyddu dros 18% dros yr un cyfnod.
Ychwanegodd John James, sy'n gwirfoddoli yno, fod mwy o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth na erioed o'r blaen:
"Ddydd Mawrth diwetha' rhwng y plant a'r oedolion oedd dros 40 o bobl yma".
Barn rhai o drigolion Caerfyrddin ar y mater
Er bod digon o bobl yn siopa yng nghanol dref Caerfyrddin, dywed rhai bod "rhaid meddwl ddwywaith" cyn gwario.
"Ni'n bwyta llai o siocled, ma' rheina'n ddrud" meddai Aeronwy Dowty, 80, o Lanybydder. "Y treats bach, s'mo ni'n cael y treats fel o'n i, mae'n rhy gostus."
"Ni ddim yn gallu gwario cymaint â beth o'n i."
Mae Desni O'Driscoll, 59 o Benygroes, yn mynegi pryder y bydd prisiau'n parhau i gynyddu.
"Bydde'n i ddim yn prynu'r pethau fwyaf drud bydde'n i'n edrych am y rhataf sy' gael, ac edrych ar bris per pound a phethau fel 'na."
"Ychydig o flynyddoedd yn ôl bydde'n i wedi pigo rhywbeth lan, ond mae siopa wedi mynd yn fwy o broblem nawr."

Yn ôl Guto Ifan bydd "argyfwng" costau byw dros y flwyddyn nesaf
Yn ôl arolwg a gomisiynwyd gan y BBC ym mis Mawrth, cafodd costau byw eu rhestru ymysg y tri phrif fater sy'n poeni pobl gan 61% o'r ymatebwyr.
Fodd bynnag, dywedodd Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru fod yr hyn mae pleidiau'n ei addo yn debygol o gymryd "blynyddoedd i ehangu" tra bod yr argyfwng yn debygol o ddigwydd yn ystod y flwyddyn nesaf.
"Mae'n debygol bydd y cynlluniau mwyaf trylwyr yn cael eu tanseilio'n gynnar iawn yn ystod y Senedd nesaf."
Dywedodd hefyd fod ymchwil yn awgrymu bod "safonau byw ymhell islaw 'na beth oedden ni wedi disgwyl cyn yr argyfwng ariannol yn 2007" a bod "incymau pobl mewn termau real heb adfer nôl at lefel 2021 eto."

Pleidiau'n wynebu 'ansicrwydd' economaidd
Er gwaethaf addewidion y pleidiau yn etholiad y Senedd, dywedodd Guto Ifan y bydd "rhaid i'r ymateb mawr ddod o Lywodraeth Prydain."
"Mae'n eithaf eironig mae'r pleidiau'n dod mas â'r maniffestos ar hyn o bryd, ond maen nhw'n wynebu ansicrwydd sylfaenol ynghylch yr amodau economaidd cyllidol fyddan nhw'n wynebu petai nhw'n ffurfio llywodraeth."
Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig: "Mae'r cap pris ynni wedi gostwng £117, mae'r toriad treth tanwydd o 5c wedi'i dorri ac mae aelwydydd Cymru sy'n defnyddio olew gwresogi yn cael eu cefnogi."
Sut fyddai'r pleidiau'n datrys y broblem?
Gyda un arbenigwr yn rhagweld "argyfwng" costau byw dros y flwyddyn nesaf, mae'r cwestiwn yn codi sut y byddai pleidiau'n ymateb pe baent yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn addo "torri treth incwm 1c drwy leihau gwastraff, gwella mynediad at ofal plant, a chefnogi teuluoedd sy'n gweithio drwy ganiatáu i neiniau a theidiau gael eu talu i ofalu am blant. Byddem hefyd yn gosod cap o 5% ar gynnydd yn y dreth gyngor oni bai bod refferendwm lleol yn ei gefnogi."
Mae gan Reform Cymru "gynllun i dorri trethi a chapio codiadau treth gyngor i leddfu'r pwysau ar bobl sy'n gweithio."
Yn ôl Llafur Cymru: "Mae cymorth ymarferol i fynd i'r afael â chostau byw yw un o'n prif flaenoriaethau. Bydd Llafur Cymru yn gostwng prisiau bysiau, yn gostwng biliau ynni, ac yn ehangu gofal plant... Byddwn hefyd yn sicrhau codiad cyflog i'r gweithwyr sy'n cael y cyflog isaf."
Dywedodd Plaid Cymru: "Bydd ein cynnig gofal plant cyffredinol, pan fydd wedi'i gyflwyno'n llawn, yn werth mwy na £30,000 ym mhedair blynedd gyntaf bywyd plentyn". Byddwn hefyd yn cyflwyno mesurau newydd i helpu pobl â chostau tai, gan gynnwys gosod rhent teg fel nad yw pobl yn wynebu cynnydd annheg neu ormodol."
Byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn "cyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf hael o unrhyw blaid yn yr etholiad hwn" ac yn "diwygio trethi busnes fel y gallwn dyfu economi Cymru a sicrhau bod pobl yn cael eu talu'n briodol am ddiwrnod caled o waith."
Mae'r Blaid Werdd wedi cael cais am ymateb.







