Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn Cymeradwyo Bendith Parhaol i Briodasau Un Rhyw
Mae corff llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi cymeradwyo ymgorffori bendith i briodasau a phartneriaethau sifil o'r un rhyw yn barhaol.
Daw hynny yn dilyn mesur dros dro gafodd ei gyflwyno yn 2021, oedd yn caniatáu bendithio priodas neu bartneriaeth sifil cwpl o'r un rhyw mewn seremoni eglwysig.
Fe wnaeth sawl ffigwr blaenllaw o fewn yr Eglwys yng Nghymru, gan gynnwys esgobion Llanelwy a Llandaf, ddatgan eu cefnogaeth i'r mesur cyn iddo gael ei basio.
Bydd offeiriaid unigol dal yn gallu dewis peidio cynnig y fendith i gyplau o'r un rhyw os ydyn nhw'n dymuno.
'Cam tuag at edifeirwch'
Ym mis Medi 2021 mewn pleidlais hanesyddol, fe wnaeth corff llywodraethol Yr Eglwys yng Nghymru gefnogi caniatáu bendithio priodas neu bartneriaeth sifil cyplau un rhyw mewn gwasanaeth eglwysig, ond am gyfnod arbrofol.
Ar y pryd dywedodd y sefydliad bod y penderfyniad
"yn gam tuag at edifeirwch yn sgil hanes o fewn yr Eglwys sydd wedi cythreulio ac erlid pobl hoyw a lesbiaidd".
Mae'r cyfnod arbrofol o bum mlynedd yn dod i ben ddiwedd 2026.
Mewn pleidlais mewn cyfarfod yn Venue Cymru Llandudno ddydd Iau, fe wnaeth y corff llywodraethol bleidleisio o blaid gwneud y trefniant yn un parhaol.
Bydd nawr angen ymgorffori gwasanaeth bendithio awdurdodedig ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil o'r un rhyw yn y Llyfr Gweddi Gyffredin.
Yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal cyfarfodydd i drafod priodas un rhyw
Yr Eglwys yng Nghymru i fendithio cyplau un rhyw
Mae'r corff llywodraethol yn cynnwys 143 o aelodau sydd wedi eu rhannu yn dair urdd - esgobion, clerigwyr ac aelodau lleyg.
Mewn pleidlais o gorff llywodraethol yr eglwys yn Venue Cymru Llandudno ddydd Iau, fe wnaeth yr aelodau bleidleisio'n gryf o blaid ymgorffori'r fendith yn barhaol.
Er mwyn pasio, roedd angen mwyafrif o ddau draean gan bob un o'r tair Urdd - esgobion, clerigwyr ac aelodau lleyg.
Fe bleidleisiodd aelodau lleyg o 48 i 8 o blaid (gyda dau yn atal eu pleidlais), gyda chlerigwyr yn pleidleisio o 32 i 7 (gyda phump yn atal eu pleidlais), cyn i'r esgobion gadarnhau fod y mesur wedi pasio heb wrthwynebiad.
Safbwynt enwadau crefyddol eraill
O ran yr enwadau eraill, mae'r Undodiaid wedi cefnogi cydraddoldeb llwyr i bobl LHDTC+ ers 1970, a chapel Undodaidd ym Manceinion oedd y man addoli cyntaf i gofrestru fel lle i gynnal partneriaethau sifil.
I'r Bedyddwyr ac Annibynwyr, mater i bob eglwys unigol yw cynnal priodas neu wasanaeth bendithio, ac mae amrywiaeth barn rhwng gwahanol gynulleidfaoedd ar y mater.
Bu trafodaeth ar y mater o fewn Eglwys Bresbyteraidd Cymru dros ddegawd yn ôl, ond penderfynu glynu at y traddodiad o briodas heterorywiol yn unig wnaed bryd hynny.
Mae ei chwaer eglwys, y Methodistiaid (Wesleaidd), yn priodi cyplau un rhyw ers 2014, ond gyda chymal cydwybod i weinidog a fyddai yn gwrthod dilysrwydd y gwasanaeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






