Dedfryd oes am lofruddio a chladdiad o dan bridd a phlanhigion
Mae dyn wedi cael dedfryd oes yn y carchar am lofruddio ei wraig a chladdu ei chorff o dan bridd a phlanhigion yng ngardd ei gartref.
Cafodd Paria Veisi, 37, o ardal Cathays yng Nghaerdydd, ei lladd ar 12 Ebrill 2025 a chafodd ei chorff ei ddarganfod yn ardal Pen-y-lan wythnos yn ddiweddarach ar 19 Ebrill.
Fe wnaeth Alireza Askari, 42, o Ben-y-lan, bledio'n euog i lofruddio ei wraig, er bod y ddau wedi gwahanu, drwy ei thrywanu sawl gwaith, mewn gwrandawiad ym mis Ionawr.
Bydd Askari yn treulio o leiaf 26 mlynedd dan glo cyn y bydd modd ystyried ei ryddhau.

Barnwr yn disgrifio'r achos fel 'lofruddiaeth mewn gwaed oer'
Dywedodd y barnwr Mrs Ustus Stacey wrth Askari fod yr achos yn un o "lofruddiaeth mewn gwaed oer".
"Fe wnaethoch chi lofruddio eich gwraig drwy gynllun oedd wedi'i baratoi o leiaf fis ynghynt," meddai.
"Fe wnaethoch chi ddenu Paria i mewn i'r tŷ lle gwnaethoch chi ei thrywanu bedair gwaith. Ni chafodd hi unrhyw gyfle i amddiffyn ei hun.
"Gwnaethoch chi bopeth yn eich gallu i guddio'r llofruddiaeth, dinistrio tystiolaeth a rhwystro ymchwiliad heddlu De Cymru."
Ychwanegodd bod Askari wedi lladd ei wraig "oherwydd ei bod hi eisiau ysgariad" a'i fod wedi gwneud hynny "heb unrhyw edifeirwch".
Dedfryd i'r modryb am wyrdroi cwrs cyfiawnder
Cafodd Maryam Delavary, a wnaeth helpu i lanhau'r lleoliad wedi'r llofruddiaeth, ei dedfrydu i bum mlynedd a chwe mis am wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Dywedodd y barnwr nad oedd hi'n derbyn bod iechyd meddwl Askari wedi cyfrannu at y lofruddiaeth a'i fod wedi "ceisio chwarae'r cerdyn anabledd yn sinigaidd".
Dywedodd y barnwr "roeddech chi law yn llaw gydag ef" ac "roeddech chi ynddo gyda'ch gilydd ac wedi cynnig cymorth parod" wrth gyfeirio at Delavary.
Ychwanegodd fod y dystiolaeth yn erbyn y ddau yn "llethol".
Dywedodd pe na bai'r heddlu wedi gweithredu mor gyflym fod "posibilrwydd gwirioneddol y gallai corff Paria fod wedi cael ei ddinistrio neu ei halogi" fel na ellid ei adnabod.
Gwybodaeth ychwanegol a chysylltiadau
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Dyn yn cyfaddef trywanu ei wraig i farwolaeth a'i gadael mewn gardd
- Dau yn y llys ar ôl marwolaeth menyw, 37, gafodd ei thrywanu
- Heddlu'n trin diflaniad dynes o Gaerdydd fel achos o lofruddiaeth







