Cyhuddiad o Geisio Llofruddio yn Abertawe
Mae dyn 35 oed wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl digwyddiad ar stryd yn Abertawe ddydd Gwener.
Mae Bokan Qadiri, o Flaenymaes, Abertawe, wedi ei gyhuddo o wneud bygythiadau i ladd a bod ag arf ymosodol mewn man cyhoeddus hefyd.
Daw'r cyhuddiadau yn dilyn adroddiad fod dyn â chyllell yn ceisio ymosod ar ddyn arall ar Heol San Helen yn ardal Sandfields y ddinas fore Gwener.
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud bod y ddau ddyn yn adnabod ei gilydd a bod y digwyddiad yn cael ei drin fel achos unigol.
Yn ôl yr heddlu, cafodd Qadiri ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun.
Dywedodd yr heddlu nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r achos.
"Rydym yn deall y gall digwyddiadau o'r fath beri pryder i'r gymuned, ond nid oedd hwn yn ymosodiad ar hap ac nid oedd unrhyw risg ehangach i'r cyhoedd," meddai Heddlu De Cymru.






