Trywanu Bachgen 17 Oed ar Ynys y Barri
Collodd bachgen 17 oed ei goes ar ôl cael ei drywanu ar Ynys y Barri fis Mai.
Cyhuddiad yn erbyn Dyn 18 Oed o Gaerdydd
Mae dyn 18 oed o Gaerdydd wedi cael ei gyhuddo o anafu bwriadol yn dilyn achos o drywanu yn Y Barri ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.
Bu rhaid i fachgen 17 oed fynd i'r ysbyty ar ôl cael ei drywanu yn ei goes ar 25 Mai.
Dywedodd Heddlu De Cymru ei fod wedi colli ei goes yn sgil yr ymosodiad a'i fod yn cael gofal dwys yn yr Ysbyty Athrofaol.
Manylion y Cyhuddiad a'r Achos Llys
Mae Idris Ahmed o ardal Glan yr afon y brifddinas, wedi cael ei gyhuddo o drywanu yn fwriadol ac o fod ag arf miniog yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Mi fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd sadwrn 6 Mehefin.
Ymchwiliad yr Heddlu a Gofynion am wybodaeth
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Cysylltu â Chymru Fyw
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Ap Cymrufyw
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






