Skip to main content
Advertisement

Dedfryd o 18 Mis o Garchar Wedi'i Ohirio i Gyn-Gynhyrchydd BBC am Ddelweddau Anweddus o Blant

Dylan Dawes, cyn-gynhyrchydd BBC, wedi cael dedfryd o 18 mis o garchar wedi'i ohirio ar ôl cael ei ganfod yn euog o feddu ar ddelweddau anweddus o blant yn 2022.

·2 min read
Dylan Dawes

Dylan Dawes yn cyrraedd y llys ar ddyddiad blaenorol cyn iddo wynebu ei ddefryd

Mae cyn-gynhyrchydd BBC, Dylan Dawes, wedi cael dedfryd o 18 mis o garchar wedi'i ohirio ar ôl cael ei ganfod yn euog o feddu ar, neu greu lluniau anweddus o blant.

Yn 2022, canfuwyd dros 6,200 o ddelweddau anweddus o blant ar bedair dyfais yng nghartref Dylan Dawes, sydd yn 50 oed ac yn byw yng Nghaerdydd.

Ymhlith y delweddau anweddus roedd bron i 200 o luniau o Gategori A, sef y categori mwyaf difrifol o ddelweddau o'r fath.

Ym mis Ebrill 2026, cafodd Dawes ei ganfod yn euog o dri chyhuddiad o feddu ar ddelweddau anweddus o blentyn yn ei feddiant yn 2022, yn ogystal â thri chyhuddiad arall o greu delweddau anweddus o blant rhwng 2006 a 2022.

Ad (425x293)

Yn Llys y Goron Casnewydd, fore Iau, cafodd ddedfryd o 18 mis o garchar wedi'i ohirio am ddwy flynedd.

Dilynwch a Chysylltwch

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap i gael y newyddion diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau Cysylltiedig a Straeon Perthnasol

Cyn-gynhyrchydd BBC yn euog o fod â delweddau anweddus o blant.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News