Cyngor Sir Penfro yn cadarnhau cau dwy ysgol gynradd
Mae Cyngor Sir Penfro wedi pleidleisio i gadarnhau penderfyniadau blaenorol i gau dwy ysgol gynradd, er bod yr awdurdod yn wynebu her gyfreithiol bosib gan Esgobaeth Tyddewi ar ddyfodol un o'r ddwy ysgol.
Mewn cyfarfod arbennig yn Neuadd y Sir ddydd Llun, roedd y cynghorwyr yn ystyried dyfodol dwy o ysgolion bach y sir - Ysgol Clydau ym mhentref Tegryn yn y gogledd, a Ysgol Maenorbŷr yn y de.
Apêl emosiynol dros gadw Ysgol Clydau
Wrth annerch y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Iwan Ward, yr aelod lleol dros Degryn, mai'r ysgol oedd
"curiad calon"y gymuned, ble roedd y
"Gymraeg a diwylliant Cymraeg yn cael eu meithrin".
Mewn apêl emosiynol, dywedodd y Cynghorydd Ward bod yna gyfle i gynghorwyr ddangos bod
"lleisiau pobl leol yn bwysig."
Dywedodd y Cynghorydd Huw Murphy y byddai ysgolion eraill dan fygythiad pe bai'r cynghorwyr yn cefnogi'r argymhelliad i gau Ysgol Clydau.
Dim ond 15 o ddisgyblion fyddai wedi bod ar gofrestr Ysgol Clydau ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi.

Wrth gefnogi'r argymhelliad i gau, dywedodd y Cynghorydd John Davies bod sefyllfa Clydau yn
"symptom o'r darlun ehangach"a'r dirywiad yn niferoedd disgyblion yng nghefn gwlad a'r
"diboblogi"oedd bellach yn digwydd.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am addysg, mai dim ond 15 fyddai ar gofrestr Clydau ym mis Medi pe bai'n aros ar agor.
Fe bleidleisiodd 30 o blaid cau Ysgol Clydau, roedd 21 yn erbyn, ac fe wnaeth un ymatal.
Plant Maenorbŷr yn cael eu haddysgu mewn neuadd bentref ers tân
Mae 21 o ddisgyblion yn cael eu haddysgu mewn neuadd bentref yn Jameston ers i dân ddifrodi Ysgol Maenorbŷr.
Plant Maenorbŷr wedi gorfod cael eu haddysgu mewn neuadd bentref yn Jameston ers i dân ddifrodi'r ysgol bron i bedair blynedd yn ôl.
Fe wnaed addewid yn wreiddiol i ailadeiladu'r ysgol.
Mae'r ysgol ym Maenorbŷr yn un gwirfoddol a reolir - sydd yn golygu bod yna gysylltiad agos gyda'r Eglwys yng Nghymru - er ei bod hi'n cael ei hariannu gan y cyngor.

Her gyfreithiol gan Esgobaeth Tyddewi
Cyn y cyfarfod, roedd Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi wedi anfon llythyr cyfreithiol at y cyngor yn galw ar yr awdurdod i ailadeiladu'r ysgol ac yn eu cyhuddo o gynnal proses ymgynghori ddiffygiol.
Mae'r esgobaeth wedi bygwth achos cyfreithiol ac adolygiad barnwrol os ydy'r cyngor yn bwrw ymlaen gyda'r broses o gau'r ysgol.
Apêl i 'wneud y peth iawn'
Yn y cyfarfod, fe rybuddiodd y Cynghorydd Phil Kidney na fyddai'r esgobaeth yn
"barod i ildio"ac y gallai hyn
"gostio llawer iawn o arian i'r awdurdod".
Fe alwodd ar ei gyd-gynghorwyr i
"wneud y peth iawn a chadw Maenorbŷr ar agor".
Dywedodd cynghorydd annibynnol arall, Jamie Adams, ei fod yn teimlo bod
"uwch swyddogion wedi ei fethu"ar y mater, yn sgil y bygythiad cyfreithiol gan yr esgobaeth.
Mynnodd yr aelod cabinet dros addysg, Paul Miller, taw
"ei unig ddiddordeb oedd lles y plant a'u haddysg".
Ychwanegodd bod cost addysgu plant Maenorbŷr rhyw £3,300 y pen yn uwch na'r cyfartaledd ar draws Sir Benfro.
Ymgyrch dros gadw Ysgol Clydau
Dywedodd y Cynghorydd Ceidwadol Aled Thomas, sydd yn gadeirydd y grŵp ar ddyfodol ysgolion, bod
"rhaid meddwl am y plant"wrth bleidleisio a rhoi
"diogelwch a sefydlogrwydd"iddyn nhw.
Yn ôl Paul Miller, mae'r bygythiad cyfreithiol gan yr Esgobaeth yn cynrychioli
"un ochr"mewn dadl sydd yn parhau, a bydd y cyngor sir yn cymryd
"cyngor cyfreithiol"cyn ymateb.
Fe alwodd y Cynghorydd Huw Murphy am ymchwiliad i'r sefyllfa yn ymwneud ag Ysgol Maenorbŷr.
Wrth grynhoi'r drafodaeth, dywedodd y Cynghorydd Miller ei fod yn gwneud beth oedd yn meddwl oedd orau i'r plant, a taw'r prif gymhelliad oedd addysg y disgyblion.
Fe bleidleisiodd 30 o blaid yr argymhelliad i gau, roedd 23 yn erbyn ac fe wnaeth pedwar ymatal eu pleidlais.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
Rhybudd am ddirywiad cefn gwlad oherwydd llai o ddisgyblion






