Codiadau Treth Cyngor yn 2026
Bydd biliau treth cyngor ym mhob awdurdod yng Nghymru yn codi o fis Ebrill 2026, gyda chynnydd cyfartalog o 4.9% wedi i'r 22 awdurdod lleol gymeradwyo eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026/27.
Y cynnydd mwyaf fydd ym Mro Morgannwg a Chonwy, lle bydd y dreth yn codi 6.5%, tra bod Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu'r cynnydd isaf o 3.5% yn unig.
Er bod y rhan fwyaf o incwm cynghorau lleol yn tarddu o grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru, ac mae trethi busnes hefyd yn cyfrannu, mae treth gyngor yn dal i gyllido cyfran sylweddol o wasanaethau lleol.
Mae cynghorau sir Cymru yn gyfrifol am ddarparu ystod eang o wasanaethau statudol, gan gynnwys casglu sbwriel, gofal cymdeithasol i oedolion a phlant, addysg, tai cymdeithasol a chynnal a chadw ffyrdd.
Er y pwysau cynyddol ar gynghorau ledled Cymru, mae treth gyngor yn un o'r biliau mwyaf y mae aelwydydd yn eu derbyn bob blwyddyn.
Wedi'i sefydlu yn y 1990au cynnar, mae'r dreth wedi bod yn destun beirniadaeth ers tro am ei fod yn seiliedig ar brisiau eiddo yn hytrach na gallu pobl i dalu.
O dan y rheolau presennol, mae unrhyw un sy'n methu talu bil misol yn atebol i dalu'r bil llawn ar ôl pythefnos yn unig.
Fodd bynnag, o fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd y cyfnod hwn yn cael ei ymestyn i ddeufis, ar ôl i Lywodraeth Cymru gyflwyno newidiadau i'r rheolau.
Yn ogystal, bydd yn ofynnol i gynghorau ymyrryd yn gynnar a gwella cyfathrebu gyda phobl sy'n cael anhawster talu.
Mae rhai trigolion tlotach hefyd yn gymwys i gael cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a arweiniodd at filiau llai i 256,489 o gartrefi erbyn Mawrth 2025.
'Angen system decach'
Er bod cymorth ar gael, mae galwadau am ddiwygio'r system gyfan.
Mae Dr Steffan Evans, Prif Weithredwr Sefydliad Bevan, yn mynegi barn bendant bod y system bresennol yn annheg.
"Mae'r dreth gyngor yn cyfri fel canran uwch o incwm pobl yn y mannau tlotaf yng Nghymru", meddai.
"Dyw e ddim yn dreth sy'n dilyn pa mor gyfoethog ydy pobl, mae fe'n un o'r rheina lle mae'r tlotaf yn talu cyfran uwch [o'u hincwm] na phobl mwy cyfoethog na nhw."
Ychwanegodd Dr Evans:
"Mae cynlluniau at 2028 i edrych ar ail fandio, fi'n credu byddai hwnna yn gam ymlaen ac yn gwneud y dreth yn agosach at werth cyfredol tai.
"Ond mae angen edrych ar y system yn y tymor hir o ran ystyried incymau lleol hefyd a nid jyst costau tai."
Ei neges i'r Llywodraeth ar ôl yr etholiadau ym mis Mai yw i ystyried ail fandio yn 2028, ond wedyn i "gyflwyno system decach sy'n ystyried lefelau incwm a chyfoeth yn ehangach".
Mae Dr Evans yn nodi nad yw'n syndod bod cynnydd mewn treth gyngor, gan fod y pwysau ar gynghorau lleol yn uchel iawn ac maent wedi teimlo'r angen i godi'r dreth.
"Oherwydd y dewis arall yw torri gwasanaethau sylfaenol mae pobl yn dibynnu arnyn nhw yn eu cymunedau.. dyna pam mae angen system decach."

Ymateb y Pleidiau
Llafur Cymru wedi nodi bod gan Gymru "eisoes y system dreth gyngor decaf yn y DU" ac o fis Ebrill ymlaen bydd "mwy o amser i aelwydydd i ofyn am gymorth".
Mae un o bob pum aelwyd yn derbyn cymorth i dalu eu biliau, ac mae gan y blaid fwriad i wneud y dreth hyd yn oed yn decach.
Plaid Cymru wedi bod yn gweithredu mewn trafodaethau cyllideb diweddar i atal codiadau anfforddiadwy yn 2026-27 drwy sicrhau codiad mwy yn y setliad sy'n cael ei ddarparu i awdurdodau lleol.
Pe baent yn ffurfio llywodraeth, bydden nhw'n gweithredu polisïau i sicrhau bod pobl yn cael mwy o arian yn eu pocedi, gan gynnwys gweithio gyda chynghorau lleol ar ddiwygiadau yn y dyfodol.
Reform a'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig capio codiadau treth gyngor ar 5%, gan wneud yn ofynnol i gynnal refferendwm os yw cyngor yn bwriadu cynnydd mwy.
Dywed Reform os bydd cynghorau'n trin cynnydd o 4.99% fel targed, ni fyddant yn ofni gostwng hynny ymhellach oherwydd bod cadw biliau'n isel yn bwysig i bobl ledled Cymru.
Byddai'r Blaid Werdd yn disodli'r dreth gyngor, a yntau'n cael ei ystyried yn annheg i lawer, gyda threth gwerth tir decach fel bod y rhan fwyaf o bobl yn talu llai tra bod perchnogion eiddo cyfoethocaf yn cyfrannu mwy.
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn nodi bod cynghorau'n cael eu gorfodi i wario rhannau mawr o'u cyllidebau ar ofal cymdeithasol, a byddai eu cynlluniau i ddiwygio gofal cymdeithasol yn lleihau'r pwysau ar gyllid awdurdodau lleol.
Pynciau Cysylltiedig
Straeon Perthnasol
Y dreth gyngor: Dyled pobl Cymru i gynghorau yn codi i £263m







