Disgwyl Her Arweinyddiaeth gan Andy Burnham
Mae disgwyl i Syr Keir Starmer gael ei herio am arweinyddiaeth y Blaid Lafur gan Andy Burnham, wrth i'r cyn-faer Manceinion ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin ar ôl ei fuddugoliaeth yn yr is-etholiad Makerfield.
Cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi mynegi ei farn nad yw'n gweld
"sut gall Keir Starmer ennill ar hyn o bryd"yn erbyn Andy Burnham mewn unrhyw ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Roedd Carwyn Jones yn ymateb ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, wedi i Andy Burnham ennill is-etholiad Makerfield dros nos gyda mwyafrif sylweddol.
Mae disgwyl i'r cyn-faer Manceinion herio Prif Weinidog y DU am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Syr Keir Starmer wedi dweud fore Gwener y bydd yn sefyll mewn unrhyw ornest am yr arweinyddiaeth, os bydd un yn cael ei chynnal yn dilyn buddugoliaeth Andy Burnham yn yr is-etholiad.
Fe enillodd Andy Burnham is-etholiad Makerfield yn gyfforddus gyda 55% o'r bleidlais.

Ymateb Carwyn Jones i'r Her
Cyn gwneud y sylwadau hyn, dywedodd Carwyn Jones:
"Wrth gwrs mae pobl yn mynd i ddweud yn y byd gwleidyddol 'dwi'n mynd i ymladd', mae'n rhaid iddo.
"Anodd i wybod ac i ddweud bydd yn newid yn y dyddiau nesaf, yr orie nesaf heb sôn am yr wythnosau nesa."
Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ai Andy Burnham fydd yn cymryd lle Sir Keir Starmer, dywedodd Carwyn Jones bod hynny'n
"holl bosib".
"Ar hyn o bryd, gyda fe mae'r momentwm os mae e eisiau herio Keir Starmer bydd eitha lot o bobl yn ei gefnogi.
"Y ffaith ei fod wedi bod mor llwyddiannus fel Maer Manceinion, ei fod yn boblogaidd iawn a'r ffaith ei fod wedi curo'r is-etholiad hyn gyda mwyafrif mor fawr.
"Felly i fi, mae'n rhaid i bethau newid o rhan y Llywodraeth Llafur yn San Steffan."
'Yr ysgrifen ar y mur'
Dywedodd AS Llafur Gorllewin Casnewydd ac Islwyn, Ruth Jones wrth BBC Cymru ei bod eisiau i bethau gael eu gwneud mewn modd
"trefnus a llyfn."
"Dwi eisiau gweld trosglwyddiad, ac mae hynny'n golygu Keir Starmer yn camu i'r naill ochr, os oes etholiad i ddigwydd, i adael i bethau symud ymlaen.
"Ond dwi'n meddwl bod angen i rywun ddweud hynny wrth Keir, bod yr ysgrifen ar y mur iddo."
Syr Keir Starmer wedi dweud y bydd yn sefyll mewn unrhyw ornest am yr arweinyddiaeth.

Llongyfarchiadau gan Arweinydd Dros-dro Llafur Cymru
Mae arweinydd dros-dro Llafur Cymru, Ken Skates AS wedi llongyfarch Andy Burnham ar
"ganlyniad gwych"yn is-etholiad Makerfield.
"Roedd yn wych ymuno â chymaint o aelodau ar stepen y drws a chlywed y negeseuon o obaith a hyder dros yr ychydig wythnosau diwethaf," meddai.
Straeon Perthnasol
- Dim cyfarfod rhwng y prif weinidogion y mis hwn wedi'r cyfan
- Gweinidog Llafur o Gymru yn ymddiswyddo ac yn galw ar Keir Starmer i 'wrando'
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






