Cafodd Gwynoro Jones ei ethol i gynrychioli Caerfyrddin yn Nhŷ'r Cyffredin yn 1970. Mae llys wedi clywed bod y cyn-Aelod Seneddol Llafur a darlledwr wedi cyffwrdd menyw yn amhriodol ar drên rhwng Llundain a de Cymru yn 2024.
Mae’r cyn-wleidydd a’r darlledwr, Gwynoro Jones, wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar drên Great Western yn 2024. Cafodd Mr Jones, sy’n 83 o Orseinon, ei ethol i gynrychioli Caerfyrddin yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1970 a 1974.
Ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn ei erbyn dywedodd yr erlyniad ei fod wedi cyffwrdd braich a phen-ôl y fenyw. Mae Mr Jones yn gwadu’r cyhuddiad yn ei erbyn.
Wrth agor yr achos yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd yr erlynydd, Georgia Donohue, fod yr ymosodiad honedig wedi digwydd ar drên oedd yn teithio rhwng Llundain ac Abertawe mewn cerbyd dosbarth cyntaf.
Yn ôl yr achwynwr fe wnaeth Mr Jones
“rwbio”ei braich.
“O'n i'n teimlo'n lletchwith iawn, yn anghyfforddus”, meddai.
Gwynoro Jones yn cyrraedd y llys yn Abertawe ddydd Llun

Roedd Mr Jones yn siglo ei ben ac yn codi ei freichiau o’r doc wrth glywed ei thystiolaeth.
Fe welodd y rheithgor ddeunydd camera cylch cyfyng yn dangos Mr Jones yn eistedd ar y trên a chyffwrdd braich y fenyw.
Yn ôl yr erlyniad fe wnaeth y cyn-AS
“dapio”ei phen-ôl, gan adael clais.
Clywodd y llys fod Mr Jones wedi prynu dwy botel fach o win coch ar y trên.
Yn gwisgo siwt golau, roedd Mr Jones yn chwerthin o’r doc wrth weld y deunydd CCTV.
Mae'n gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn, a dywedodd ar y pryd ei fod yn cynnal
“sgwrs gwrtais”gyda'r fenyw.
Key Facts
- Cafodd Gwynoro Jones ei ethol i gynrychioli Caerfyrddin yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1970 a 1974.
- Mae wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar drên Great Western yn 2024.
- Dywedodd yr erlyniad iddo gyffwrdd braich a phen-ôl y fenyw.
- Mae Mr Jones yn gwadu'r cyhuddiad.
- Gwrandewyd ar yr achos yn Llys y Goron Abertawe.







