Cafodd corff Aled Glynne Davies, 65, ei ddarganfod ger canolfan hwylio Bae Caerdydd ar 4 Ionawr 2023. Mae gweddw un o gyn-olygyddion BBC Cymru wedi ennill yr hawl i ailgynnal cwest i farwolaeth ei gŵr, er mwyn iddi dderbyn ei dystysgrif marwolaeth yn ddwyieithog.
Roedd y newyddiadurwr a chynhyrchydd, fu'n olygydd ar Radio Cymru yn ystod ei yrfa gyda BBC Cymru, wedi mynd ar goll Nos Galan. Daeth cwest, a gafodd ei gynnal ym mis Tachwedd 2024, i'r casgliad iddo farw'n ddamweiniol ar ôl disgyn i Afon Taf tra'n pasio dŵr, ac iddo foddi.
Mae ei wraig, Afryl Davies, wedi ymgyrchu dros gael cydnabyddiaeth ddwyieithog o farwolaeth ei gŵr, gan ddweud bod hynny'n adlewyrchu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn ei fywyd. Daeth cadarnhad gan y crwner brynhawn Iau fod marwolaeth Mr Davies bellach wedi'i gofnodi'n ddwyieithog "fel y byddai ef, ei wraig a'i deulu yn dymuno".
Derbyn tystysgrifau marwolaeth Cymraeg yn 'frwydr am gyfiawnder'
Aled Glynne Davies wedi marw'n ddamweiniol ar ôl syrthio i afon - cwest
Roedd Afryl Davies wedi dweud iddi orfod aros misoedd i dderbyn y dystysgrif, cyn sylweddoli ei fod yn uniaith Saesneg. Ar y pryd fe ddywedodd wrth BBC Cymru iddi gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru leol yn gofyn i'w newid, ond iddi gael ymateb gan y brif swyddfa yn dweud eu bod yn "gwrthod ei chyfieithu hi".
"'Does 'na ddim camgymeriad wedi cael ei wneud' - dyna ydy'r llinell maen nhw'n defnyddio drosodd a throsodd - 'There is no clerical error,"
dywedodd Afryl Davies yn 2025.
Ychwanegodd fod yr ymateb wedi ei "brifo... dydy fy iaith i ddim yn gamgymeriad".
Er bod y cwest gwreiddiol wedi ei gynnal yn Gymraeg, dywedodd y crwner Kate Robertson yn y gwrandawiad ddydd Iau mai'r bwriad oedd cofrestru marwolaeth Mr Davies yn ddwyieithog, a bod tystysgrif marwolaeth ddwyieithog i ddod wedi hynny.
"Ni ddigwyddodd hyn,"
meddai, ac felly'r unig opsiwn oedd diddymu'r cwest.
"Fe gytunodd yr Uchel Lys i ddiddymu'r cwest, er mwyn agor eto i sicrhau tystysgrif ddwyieithog ar gyfer Ms Davies."
Mewn gwrandawiad byr yn Llys Crwner Pontypridd fe amlinellodd y crwner achos marwolaeth Aled Glynne Davies.
Dywedodd Kate Robertson ei bod am ddiolch yn fawr iawn i Ms Davies am ei "hamynedd a'i hymrwymiad" drwy gydol y "broses hir a rhwystredig".
Ychwanegodd fod marwolaeth Aled Glynne Davies bellach wedi'i gofnodi'n ddwyieithog fel y byddai ef, ei wraig a'i deulu yn dymuno.
Mae BBC Cymru yn deall nad oes unrhyw achos arall o'r fath lle mae cwest wedi'i ail-gynnal er mwyn galluogi cyhoeddi tystysgrif marwolaeth ddwyieithog, er nad oes cadarnhad swyddogol mai hwn yw'r achos cyntaf erioed.
Mae'r mater hefyd wedi cael ei godi yn San Steffan, gyda galwadau am newid y gyfraith er mwyn sicrhau nad yw teuluoedd Cymraeg yn wynebu rhwystrau ychwanegol oherwydd bod angen cwest.
Brwydr hir, rhwystredig a chreulon
Mewn datganiad y tu allan i'r llys ym Mhontypridd ddydd Iau, fe ddiolchodd Ms Davies i bawb sydd wedi ei chefnogi drwy'r "frwydr hir, rhwystredig a chreulon".
"Dwi wedi bod yn yr Uchel Lys dwywaith ac wythnos diwethaf, o'r diwedd, fe lwyddon ni yn ein cais i gael diddymu cwest Aled.
"Dyna pam dwi yn fan hyn heddiw... Doedd gen i ddim dewis arall. Doedd rhesymu a synnwyr cyffredin ddim wedi gweithio.
"Dwi wedi siomi efo'n gwleidyddion, dwi wedi gofyn a gofyn am gael cyfarfod i egluro fy sefyllfa bersonol i, a sefyllfa ein hawl ni i gael tystysgrifau dwyieithog.
"Ar ôl amser i brosesu, mi fydda i'n gweithio'n galed efo fy Aelod Seneddol i gael deddfwriaeth i roi'r hawl cyfreithiol i ni gael tystysgrifau dwyieithog.
"Mi fysa Aled eisiau tystysgrif ddwyieithog iddo fo, ond mi fysa fo hefyd eisiau'r hawl yna gan bobl eraill."
Mae angen sicrhau nad yw'r un teulu arall yn gorfod mynd trwy'r un profiad â Ms Davies, meddai Osian Llywelyn
Yn siarad ar raglen Dros Ginio ddydd Iau, dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn na ddylai "unrhyw deulu orfod brwydro i gael y dystysgrif yma'n ddwyieithog, ac i gael y cyfiawnder a'r tegwch yna".
"Be' mae'r achos yma wedi dangos ydy, mae 'na brosesau mewn lle, lle mae modd cael tystysgrif cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, ond pan mae 'na bethau'n mynd o'i le, mae'n anodd cywiro'r mater.
"Mewn materion arferol pan mae rhywun yn derbyn gohebiaeth uniaith Saesneg mae modd mynd i gyswllt â sefydliad a chywiro'r anghyfiawnder hwnnw.
"Mae'r sefyllfa yma yn fwy cymhleth, a be' mae'r achos yma wedi dangos ydy bod angen i ni gryfhau'r trefniadau a'r prosesau yna wrth i ni symud yn ein blaenau, er mwyn sicrhau bod yr un teulu arall yn gorfod mynd trwy'r un profiad."
Tynnu sylw at anghyfiawnder
Yn 2025 dywedodd AS Afryl Davies, Alex Barros-Curtis iddo godi'r mater ar lawr Tŷ'r Cyffredin. Fe wnaeth Hywel Williams a'r diweddar Dafydd Elis-Thomas hefyd ymgyrchu dros newid y gyfraith tra'n Aelodau Seneddol.
Cyn i'r cwest gael ei ailglywed ddydd Iau, dywedodd Mr Barros-Curtis bod ei "feddyliau gydag Afryl Davies a'i theulu cyn yr ail gwest i farwolaeth Aled".
"Mae penderfyniad Afryl wedi tynnu sylw at yr anghyfiawnder mae teuluoedd sy'n siarad Cymraeg yn ei wynebu, sy'n dal i gael eu gwrthod rhag cael y dewis o dderbyn tystysgrifau marwolaeth yn y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
"Ni ddylai unrhyw deulu orfod ymladd i'w hiaith gael ei thrin â'r un parch.
"Byddaf yn dod â'm Bil Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau (Darpariaeth Iaith Gymraeg) yn ôl yn y tymor seneddol newydd.
"Rydw i eisoes mewn trafodaethau â gweinidogion ar y camau nesaf i ailgyflwyno'r diwygiadau hyn.
"Mae'r achos dros newid mor gryf ag erioed, ac rydw i wedi ymrwymo i sicrhau bod gan deuluoedd yng Nghymru'r dewis o dderbyn tystysgrifau yn y Gymraeg, Saesneg neu'n ddwyieithog."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig









