Adaregwyr o bob cwr o'r Deyrnas Unedig yn heidio i Gaernarfon i weld crëyr prin
Fe heidiodd cannoedd o adaregwyr o bob cwr o'r Deyrnas Unedig i Gaernarfon dros y penwythnos er mwyn gweld math o grëyr sy'n cynefino yn ne Ewrop, Affrica a rhannau o Asia.
Mae'n debyg mai dyma'r tro cyntaf i'r Crëyr riff gorllewinol (Western reef heron/ Egretta gularis) gael ei weld yn y DU.
Roedd yr adaregwr lleol o Gaernarfon, Simon Houston-Roberts yn gwylio adar yn Y Foryd fore Sadwrn 6 Mehefin pan welodd yr aderyn llwyd-las gyda phen du a gwddf wen am 10.40 y bore.
"Ro'n i jest yn mynd allan am dro i local patch fi, Y Foryd ac o'ni jest lwcus i weld crëyr bach tywyll yn hedfan drosta fi ar y lan.
Ar ôl cael look gwell o'ni meddwl mae hwn yn rwbath prin."

Adnabod yr aderyn
Mae Simon yn adaregwr gyda degawdau o brofiad a gyda dealltwriaeth ddofn o adar Y Foryd fel un sy'n cyfrif adar yno'n fisol. Ond sut oedd yn siŵr mai'r Crëyr riff gorllewinol oedd wedi ei weld?
"Dwi'n lwcus achos dwi wedi bod i ffwrdd i weld adar yng ngorllewin Affrica a'r Dwyrain Canol felly dwi'n gyfarwydd efo species fel yma.
Felly dwi'n defnyddio'r wybodaeth 'sgen i yn fy mhen a fy mhrofiad. Mae wyneb du yn brin iawn ond mae yna grëyr o ogledd America sy'n debyg iawn sef y Little blue heron ond mae ganddyn nhw rinweddau gwahanol os wyt ti'n edrych yn fanwl.
Rhaid mynd drwy'r broses ruling out i fod yn siŵr. Fe ymunodd Crëyr bach (Little egret) â'r Western reef heron felly roeddwn yn medru cymharu maint a strwythur y ddau grëyr i gadarnhau.
Yna ro'n i'n reit sicr fod fy gut feeling yn iawn ac mai Western reef heron oedd o fy mlaen. Maen nhw'n drawiadol iawn."

Adarwyr yn heidio i Gaernarfon
Ers i Simon rannu'r newyddion bod yr aderyn yng Nghaernarfon ar grŵp WhatsApp i adaregwyr lleol, mae'r newyddion wedi hedfan i bob cornel o'r Deyrnas Unedig.
Erbyn prynhawn dydd Sadwrn roedd tua 300 o adaregwyr yng Nghaernarfon, gydag o leiaf 50 yn chwilio am y crëyr ar ddydd Sul hefyd.
O fwydo'n y mẁd yn yr harbwr ger Cei Llechi, i nythu yn y coed dros Bont yr Aber, i hedfan uwchlaw caeau Morfa Dinlle, i ddychwelyd i'r Foryd unwaith eto, a chael ei weld yn hedfan dros Gastell Caernarfon, mae'r Crëyr riff gorllewinol wedi denu naturieithwyr, ffotograffwyr ac artistiaid i'r dref.

Un fu'n ei wylio'n yr harbwr ger Wal yr Anglesey ar ddydd Sul oedd yr adaregwr a'r artist o Ynys Môn, Richard Partis.
Pan sgwrsiodd Cymru Fyw â Richard am 6 yr hwyr nos Sul, roedd eisoes wedi bod yn gwylio'r crëyr ers 7.30 y bore.
"Ro'n i'n gwybod bod pobl wedi ei weld yn bwydo'n yr harbwr ben bore, yna fe aeth i'r coed pan ddaeth y llanw i mewn.
Felly mae wedi bod yn hedfan yma ac acw drwy'r dydd. Do'n i erioed wedi gweld y math yma o grëyr o'r blaen.

Dwi wedi gweld tua 50 o adaregwyr yma heddiw, llawer iawn o twitchers o Essex.
Mae gwylio adar fel swydd lawn amser iddyn nhw. Fe benderfynodd rhai o Essex deithio i Orkney ar ôl cael diweddariad am aderyn yno. Dwi wedi clywed bod rhai eraill am aros yma dros nos.
Dwi wedi bod yn darlunio'r crëyr hefyd. Mae ganddo wddf hir, ond mae'n anodd dal hynny pan mae â'i wddf yn ei blu. Fydda i'n ei beintio'n llwyd-las ar ôl mynd adref.
Mae pawb wedi bod yn barchus iawn, ac yn cadw pellter rhag amharu ar yr aderyn."

Ymateb yr adarwr Iolo Williams
Roedd y naturiaethwr Iolo Williams ar fordaith bywyd gwyllt ac yn ffilmio'r gyfres gyfredol o Springwatch pan glywodd fod Crëyr riff gorllewinol yng Nghaernarfon.
"O'n i'n gwybod fod Simon wedi ffeindio'r aderyn a bod rhai o'r adaregwyr lleol wedi ei weld o'n syth.
'Wan bod y newyddion allan mae o am ddenu adaregwyr ar draws Prydain achos dyma'r cofnod gynta ym Mhrydain erioed i'r aderyn yma.
Dwi wedi gweld yr aderyn yn lle mae o fod. Mae o'n aderyn smart, dros ei gorff i gyd yn ryw lwyd-las hyfryd. Da iawn i'r adaregwr lleol, penigamp Simon Houston-Roberts."

Mae'r crëyr wedi ei ganfod yng Nhaernarfon lai na phythefnos ers i Gymru gofnodi'r diwrnodau poethaf erioed i fis Mai pan gyrhaeddodd y tymheredd dros 32C yn Sir y Fflint a Chaerdydd.
Ond dyw Iolo ddim yn cysylltu gweld y crëyr yma yng Nghymru gyda newid hinsawdd ar hyn o bryd.
"Ti wastad am gael aderyn sy'n cael ei chwythu allan ar ei ffordd, neu fynd ar goll am ba bynnag reswm.
Mae o wedi digwydd ers i gofnodion ddechra', dwi'm yn sicr bo' hwn yn arwydd o newid hinsawdd, un aderyn yn cyrraedd,
'Dan ni wedi cael cofnod cynta' ym Mhrydain erioed am lawer aderyn. 30 mlynedd yn ôl rwan roedd yna fath o dingoch sy'n gyffredin ym Mynyddoedd yr Atlas yng ngogledd Affrica sef Moussier's redstart yn Sir Benfro.
Tua 15 mlynedd yn ôl oedd yna Ehedydd du (sy'n cynefino yng ngogledd-ddwyrain Ewrop) wedi cael ei ddarganfod yn Ynys Lawd ar Ynys Môn a rheiny oedd y cofnodion cyntaf o'r adar yna ym Mhrydain.
Felly mae hyn yn digwydd o dro i dro ond pur anaml mae'r cofnod cyntaf yn cael ei weld yng Nghymru.
'Dan ni wedi cael gwyntoedd cynnas, weddol gryf o'r de felly dwi'n meddwl fod y crëyr wedi mynd allan i'r môr, wedi mynd ar goll ac wedi cael ei gario yma.
Maen nhw yn gallu hedfan dros dipyn o bellter felly dwi'm yn siŵr os ydi rhywun wedi stopio a'i gofnodi o'n stopio'n Sbaen, yn Ffrainc, ym Mhortiwgal, ond yn sicr dyma'r tro cynta' iddo gael ei gofnodi ym Mhrydain.
Mae ardal Y Foryd ac aber Afon Seiont yn llefydd gwych iddo fo achos mae o'n bwydo'n debyg iawn i'r Creÿr bach, yn edrych am bysgod bychan a bwyta rheina mae o."
Y cam nesaf i Simon Houston-Roberts yw ysgrifennu adroddiad i'r British Birds Rarities Committee (BBRC) er mwyn iddyn nhw gadarnhau ei ganfyddiad.
Ar ôl i'r pwyllgor gadarnhau bydd y Crëyr riff gorllewinol a welwyd yng Nghaernarfon yn cael ei ychwanegu at restr swyddogol The British List.
Tan hynny, fe gysylltodd adaregwr lleol arall â Cymru Fyw'n dweud bod y crëyr dal yng Nghaernarfon ar hyn o bryd, ac mae'n parhau i ddenu ymwelwyr o bell ac agos i'w pharchu a'i mwynhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






