Skip to main content
Advertisement

Corff dyn wedi’i ganfod yn Llyn Geirionydd, Nyffryn Conwy

Mae corff dyn wedi cael ei ganfod yn Llyn Geirionydd ger Llanrwst. Mae teulu'r dyn oedd ar goll wedi cael gwybod, medd Heddlu'r Gogledd.

·1 min read
Llyn Geirionydd (ar 8 Gorffennaf)

Mae corff dyn wedi cael ei ganfod mewn llyn yn Nyffryn Conwy. Fe ddaeth Heddlu'r Gogledd â'r cyhoeddiad ddydd Mercher, ar ôl i dîm tanddwr fod yn chwilio yn ardal Llyn Geirionydd ger Llanrwst.

Cafodd y llu eu galw yno'n wreiddiol ddydd Sul yn dilyn pryderon bod dyn ar goll. Er nad yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yma, mae teulu'r dyn oedd ar goll wedi cael gwybod am y farwolaeth.

Advertisement

Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn meddwl am y teulu yn ystod

"yr amser anodd yma"
.

Ble mae Llyn Geirionydd?

Mae Llyn Geirionydd yn rhan o Barc Coedwig Gwydir ac mae'n cael ei reoli'n rhannol gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sydd â maes parcio, toiledau ac ardal bicnic ar y lan.

Pynciau cysylltiedig

Mae'r digwyddiad yn ymwneud â maes poblogaidd yng nghefn gwlad Nyffryn Conwy, ger Llanrwst, ac mae'r ymchwiliad wedi bod yn canolbwyntio ar yr ardal o amgylch y llyn.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News