Coleg y Cymoedd yn cyflwyno cwrs gofal plant cyfangwbl Gymraeg
Mae gan Goleg y Cymoedd dros 12,000 o ddysgwyr ar draws pedwar campws yn Aberdâr, Rhondda, Nantgarw ac Ystrad Mynach.
Mae Coleg y Cymoedd wedi cyhoeddi lansiad cwrs newydd a fydd yn cael ei gynnal yn gyfangwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y cwrs Gofal Plant Lefel 2 yn dechrau fis Medi ar gampws Nantgarw, ac mae'n gyntaf o'i fath i'r coleg ei gyflwyno yn y Gymraeg yn llawn.
Mae'r coleg yn gobeithio "llenwi bwlch rhanbarthol ar gyfer darpariaeth lefel dau cyfrwng Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru a chefnogi dysgwyr i symud ymlaen i astudiaethau pellach a gyrfaoedd ym maes gofal plant".
Y tiwtor Lois Moremon o Gaerffili sy'n arwain y rhaglen, a dywedodd fod gofal plant yn "sector lle gall gallu siarad Cymraeg wneud gwahaniaeth gwirioneddol".

Mewn datganiad, dywedodd y coleg y bydd y cwrs newydd yn adlewyrchu'r galw cynyddol am sgiliau dwyieithog ar draws y sectorau gofal plant a gofal cymdeithasol. Maent yn nodi y gall medru cyfathrebu'n Gymraeg roi "mantais cyflogadwyedd amlwg" i ddysgwyr sydd eisiau gweithio gyda phlant, teuluoedd a chymunedau.
Mae'r datblygiad hwn yn rhan o ymrwymiad ehangach gan Goleg y Cymoedd i gryfhau'r defnydd o'r Gymraeg ar draws y coleg. Maent hefyd yn cefnogi ymdrechion cenedlaethol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050, gan gyfeirio at ganfyddiadau diweddar gan Gomisiynydd y Gymraeg a oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cryfhau cyfleoedd i ddysgwyr.

Yn ôl Lois Moremon, mae llawer o'u dysgwyr yn "mynd ymlaen i weithio mewn meithrinfeydd, lleoliadau blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymunedol". Mewn lleoliadau o'r fath, mae "ymgysylltu â phlant a theuluoedd yn y Gymraeg yn hynod bwysig".
"Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr astudio a datblygu eu sgiliau proffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg."
Ychwanegodd y byddai hefyd yn "meithrin hyder wrth ddefnyddio'r iaith mewn lleoliadau byd go iawn, gan helpu i agor drysau i gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol".
'Cefnogi uchelgeisiau iaith genedlaethol'
Dywedodd Jonathan Morgan, pennaeth Coleg y Cymoedd:
"Rydyn ni'n falch o'n cwrs galwedigaethol sy'n cael ei gynnig yn gyfan gwbl drwy'r iaith Gymraeg fel rhan o'n hymrwymiad i ehangu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ar draws y coleg.
Mae darparu cyfleoedd i ddysgwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg nid yn unig yn cefnogi uchelgeisiau iaith genedlaethol ond hefyd yn helpu i ddarparu dysgwyr â sgiliau gwerthfawr y mae cyflogwyr yn edrych amdanynt fwyfwy.
Bydd cynnig llwybrau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg o Lefel 2 yn cryfhau'r llwybr dilyniant i ddysgwyr sy'n siarad Cymraeg ac yn cefnogi datblygiad gweithlu dwyieithog ar draws sectorau allweddol.
Bydd ein cwrs gofal plant newydd yn cefnogi dysgwyr i gynnal a meithrin eu sgiliau iaith Gymraeg wrth symud ymlaen i yrfaoedd lle mae cyfathrebu dwyieithog yn cael ei werthfawrogi fwyfwy."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






