Etholaeth Ceredigion Penfro: Her Ddaearyddol a Gwleidyddol
Mae etholaeth Ceredigion Penfro yn ymestyn dros 80 milltir o hyd, gan gynnwys ardaloedd gwledig a threfol, ffermydd a phorthladdoedd, a chymunedau Cymraeg a di-Gymraeg. Bydd y cymysgedd hwn yn cynnig her sylweddol i'r gwleidyddion fydd yn ei chynrychioli o fis Mai ymlaen.
Gyda llai na mis i fynd tan y diwrnod pleidleisio, mae iechyd yn cael ei ystyried yn un o'r prif bynciau gan nifer o etholwyr y buom yn siarad â hwy.
Mae'r etholaeth yn cwmpasu siroedd Ceredigion a Sir Benfro, ac yn cynnwys dau o brif ysbytai Bwrdd Iechyd Hywel Dda - Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Gyda tua 200,000 o bobl yn byw yn yr etholaeth sydd dros 80 milltir o hyd, mae mynediad at wasanaethau cyfagos yn bwysig i etholwyr.
Barn Pobl Ceredigion Penfro ar Etholiad y Senedd
Yn adnabyddus fel un o drefi mwyaf poblogaidd a lliwgar Ceredigion, mae Aberaeron tua 16 milltir o'r ysbyty agosaf yn Aberystwyth.
I Meinir Harries, sydd yn ei 60au ac yn dod o Bennant, iechyd yw pwnc allweddol yr etholiad.
"Mae eisiau i fwy aros yng Ngheredigion," meddai.
"Maen nhw'n siarad ambyti symud yr uned strôc ym Mronglais, a fi'n credu bod hwnna yn bwysig i ni gadw achos mae e'n cynrychioli Ceredigion a lan yn Powys.
"Rwy'n gryf yn teimlo y dylsen nhw aros ar agor."

Meinir Harries yn teimlo'n gryf am gadw uned strôc arbenigol yn Ysbyty Bronglais.
Ar y stryd, wrth fwynhau ei baned, roedd Alfor Jones am gadw ei oed yn gyfrinach, ond roedd yn barod i rannu ei farn ar bwnc pwysig iddo yn yr etholiad.
"Dwi'n deall dim o'r health service wedi mynd. Mae e yn wael nawr," meddai.
"Ewch lan i'r syrjeri yn Aberaeron [i weld]."

Alfor Jones o Aberaeron hefyd am roi blaenoriaeth i iechyd wrth bleidleisio.
Ar hyd yr arfordir, mae tref Aberteifi ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Benfro.
Ar y stryd fawr, roedd Mary a Martin Williams o Dalsarn yn cysgodi rhag y glaw. Fel eraill, roedd penderfyniad diweddar i israddio'r gwasanaeth strôc yn Ysbyty Bronglais yn bwysau ar feddwl Mary.
"Mae e'n bwysig i gael Bronglais ar agor, mae pobl yn trafeili yn bell," meddai.
"Mae'n bwysig iawn i iechyd pobl bod dim eisiau trafeili yn bell i gael unrhywbeth sydd eisiau."
Bydd Mary yn pleidleisio yn yr etholiad, ond mae Martin eisoes wedi penderfynu na fydd e'n gwneud.

Mary yn bwriadu pleidleisio, tra bod Martin wedi penderfynu peidio.
"Dwi ddim yn credu bod dim un o' nhw damaid yn well na'i gilydd - tatws o'r un rhych yw'r cwbl," meddai Martin.
Er hynny, mae Martin yn mynegi dymuniad i weld mwy o fuddsoddiad mewn adnewyddu ffyrdd, gan nodi bod "stad rhai o'r hewlydd yn warthus".
Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld elfennau rhyngweithiol. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)
Dros bwy alla i bleidleisio yn fy ardal i?
Er mwyn rhoi gwybodaeth am unrhyw etholiadau yn eich ardal chi, mae'r BBC yn cydweithio â'r Comisiwn Etholiadol ac yn anfon eich data personol atynt. Hysbysiad Preifatrwydd Data (Yn agor mewn tab porwr newydd)
Rhowch god post preswyl llawn yng Nghymru i gael gwybod
Mae problem gyda'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni nes ymlaen.
Mae Amaethyddiaeth yn Bwysig i Etholaeth Ceredigion Penfro
Mae 6.1% o bobl etholaeth Ceredigion Penfro yn gweithio ym myd amaeth, llawer uwch na chyfartaledd Cymru o 1.9%.
Does dim syndod felly bod cefn gwlad ar frig y rhestr o bynciau sydd yn bwysig i aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Hermon ger Crymych.
"Dwi'n credu bod amaeth yn bwysig iawn," meddai Owain Howells, 23 o Gwm Gwaun.
"Maen nhw wedi cael dwy flynedd anodd gyda'r treth a'r plannu coed a dwi'n credu bod e'n bwysig - pwy bynnag sydd yn dod mewn nesaf - i ganolbwyntio ar amaeth a gwneud yn siŵr bod ein amaeth ni yng Nghymru yn ddiogel."

Cefn gwlad yn bwysig iawn i Gwenno, Gruffudd, Dyfan, Owain ac Elen - aelodau'r ffermwyr ifanc yn Hermon.
I Gruffudd Williams, 24, sy'n byw yn Glôg, prisiau olew a thanwydd yw'r prif bryder.
"Chi'n gweld nhw'n mynd lan yn barod," meddai.
"Gobeithio 'neith y bobl iawn y pethau synhwyrol i gadw prisiau lawr a chadw'r economi i fynd."
Cysylltwch â ni
Yn ymarfer ar gyfer eu heisteddfod ddwl, dyfalu'r dôn oedd tasg yr aelodau.
Roedden nhw'n dweud mai blaenoriaethu'r iaith Gymraeg ac addysg fyddai'n taro'r nodau cywir iddyn nhw yn ystod yr etholiad.
"Ambell i blaid sydd yn siarad am y Gymraeg fel priority ar gyfer eu plaid nhw," meddai Gwenno James, 21 o Grymych.
"A hefyd, trio cael yr iaith Gymraeg yn fwy o ran o brentisiaethau," ychwanegodd ei brawd, Dyfan, sy'n 16.
"Fi'n gwneud lot o'r gwaith teipo yn Saesneg. Annog yr iaith Gymraeg trwy brentisiaethau. Bydde hwnna yn annog lot o bobl, fel fi."
Addysg fydd yn dal sylw Elen o Grymych yn ystod yr etholiad.
Cael "digon o gyllideb i gadw ysgolion ar agor yn yr ardal", yw dymuniad Elen, 17 sy'n ddisgybl chweched dosbarth.
"Mae'n rhaid i ni gael athrawon mewn neu bydd dim dyfodol i addysg, yn enwedig yn y Gymraeg."

Bydd y rhestr lawn o'r ymgeiswyr i'w gweld ar ôl i'r cyfnod enwebu gau ar 9 Ebrill.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau Cysylltiedig
Straeon Perthnasol
- Dy Lais: Beth yw barn pobl Treorci cyn etholiad y Senedd?
- 'Pam ydw i'n cael pleidleisio yn etholiadau San Steffan ond nid Cymru?'
- Comisiwn Etholiadol yn galw am etholiad Senedd 'heb gamdriniaeth'




