Apêl wedi achosi gofid pellach i deuluoedd mewn galar
Mae Darren Wheatley a Teresa Hall yn dweud bod gwrandawiad apêl wedi achosi gofid pellach iddyn nhw, yn sgil ymdrech aflwyddiannus cyn-berchennog cwmni teithiau padlfyrddio i leihau ei dedfryd am achosi marwolaethau pedwar person.
Bu farw Paul O'Dwyer, Andrea Powell, Morgan Rogers a Nicola Wheatley ar ôl mynd ar daith badlfyrddio mewn "amodau eithriadol o beryglus" ar Afon Cleddau Wen yn Hwlffordd, Sir Benfro yn Hydref 2021.
Fe wnaeth Nerys Bethan Lloyd - cyn-heddwas 39 oed o Bort Talbot - bledio'n euog ym Mawrth 2025 i ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol, ac fe gafodd ei charcharu am 10 mlynedd a chwe mis.
Roedd hi wedi apelio yn erbyn y ddedfryd honno, ond fe wnaeth tri barnwr yn y Llys Apêl wrthod ei honiad bod y ddedfryd "yn amlwg yn ormodol".
Dywedodd gŵr Nicola ei fod yn ei ddagrau ddydd Gwener yn clywed y penderfyniad, tra bod mam Morgan yn dweud ei bod eisiau i Lloyd adael y teuluoedd i alaru mewn heddwch.

Manylion y digwyddiad a'r ymchwiliad
Yn Rhagfyr 2022 daeth adroddiad gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) i'r casgliad bod y ddamwain yn "drasig ac y gellir bod wedi ei hosgoi".
Yn ei gwrandawiad dedfrydu yn Ebrill 2025, clywodd Llys y Goron Abertawe nad oedd Lloyd â'r profiad a'r cymwysterau angenrheidiol ar gyfer arwain teithiau fel yr un aeth o'i le ar 30 Hydref 2021.
Roedd grŵp o saith o bobl ar y daith y diwrnod hwnnw - oedd yn cael ei harwain gan Nerys Lloyd a Mr O'Dwyer - pan aeth nifer ohonyn nhw i drafferthion ar gored mewn amodau "peryglus".
Cafodd Morgan Roberts a Nicola Wheatley eu canfod yn farw yn y fan a'r lle, tra bod corff Mr O'Dwyer wedi'i ganfod ymhellach i lawr yr afon.
Fe gafodd Andrea Powell ei hachub o'r dŵr, ond bu farw chwe diwrnod yn ddiweddarach.

Effaith y gwrandawiad apêl ar deuluoedd y dioddefwyr
Roedd Morgan Rogers yn 24 oed pan fu farw, a dywedodd ei mam Teresa Hall, 57, bod y gwrandawiad apêl wedi ychwanegu at ei gofid.
"Does 'na jest ddim diwedd i'r peth," meddai.
"Dyw hi [Lloyd] ddim yn gadael i unrhyw un gael unrhyw dawelwch. Nid y bobl sydd wedi marw, ac nid ni - does neb yn gallu cael heddwch.
"Rydyn ni wedi cael dedfrydau oes. Dyw ein dedfryd ni ddim am fynd i ffwrdd - rydw i wedi colli fy merch am byth."
Morgan oedd unig ferch Teresa, ac roedd yn ddirprwy reolwr archfarchnad ac yn paratoi i ymuno â'r gwasanaeth tân ar adeg y digwyddiad.
"Dim ots faint rydw i'n llefain, dim ots pa mor ddig ydw i, dyw hi byth am gerdded trwy'r drws 'na eto," meddai Teresa.
"Rwy' jest yn gobeithio y bydd hi [Lloyd] nawr yn ildio a gadael i ni gael rhyw heddwch. Dyna'r oll dwi eisiau."
Dywedodd Teresa mai Morgan oedd "y golau ym mywydau pawb"

Fe wnaeth Teresa a gŵr Nicola Wheatley, Darren, wylio'r gwrandawiad apêl yn Llundain o adref ar eu gliniaduron.
Dywedodd Darren fod y cyfan wedi bod yn brofiad "ofnadwy".
"Nes i dorri lawr a llefain pan ddywedon nhw fod yr apêl wedi cael ei gwrthod," meddai.
"Roedd teimlad o ryddhad, gofid, nerfau, ac roedd e fel pe bai pwysau wedi cael ei godi eto - fel 12 mis yn ôl pan gafodd hi ei dedfrydu."
Bywyd teuluoedd y dioddefwyr
Saith a dwy oed oedd plant Nicola Wheatley pan fu farw yn 2021.

Roedd Nicola yn arbenigwr gwybodaeth ar wenwynau, ac wedi derbyn padlfwrdd ar ei phen-blwydd yn 40 oed ychydig wythnosau ynghynt.
Dywedodd ei gŵr ei bod hi'n gyffrous am fynd ar y daith oedd yn cael ei rhedeg gan gwmni Nerys Lloyd - Salty Dog Co.
Roedd plant Nicola a Darren yn saith a dwy oed ar y pryd, a dywedodd Darren ei fod yn byw gyda'r boen o wybod fod ei wraig wedi colli allan ar weld eu plant yn tyfu'n hŷn.
"Roedd e'n ofnadwy - fe chwalodd y teulu yn llwyr," meddai.
Dywedodd Darren, o Bontarddulais, ei fod yn ddig bod Lloyd wedi apelio yn erbyn ei dedfryd.
Dywedodd ei fod yn teimlo bod hynny'n dangos ei bod ond yn meddwl am ei hun: "Mae hi'n haerllug."
"Dwi'n dyheu na fyddai hi erioed wedi nabod Nicola. Ond mae'n enw na fydda i'n anghofio am weddill fy oes."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






