Skip to main content
Advertisement

A oes angen cartref swyddogol i Brif Weinidog Cymru?

Mae galw am gartref swyddogol i Brif Weinidog Cymru wedi ailddechrau ar ôl i Rhun ap Iorwerth anghofio allwedd i'w fflat ar noson etholiad. Mae'r sefyllfa'n cael ei hystyried yn anghyson o gymharu â'r DU a'r Alban, gyda dadl am statws cyfartal i Brif Weinidog Cymru.

·4 min read
10 Downing Street

Oes angen i Brif Weinidog Cymru gael cartref swyddogol?

A ddylai Prif Weinidog Cymru gael llety parhaol, fel 10 Downing Street i Brif Weinidog y DU?

Mae gan Brif Weinidog y DU ei gartref swyddogol yn Downing Street, ac mae gan Brif Weinidog Yr Alban Bute House, ond nid oes gan Brif Weinidog Cymru gartref swyddogol. Mewn sgwrs ar bodlediad Gwleidydda, soniodd y cyflwynydd a newyddiadurwr Vaughan Roderick am y digwyddiad pan oedd yn rhaid i Rhun ap Iorwerth archebu ystafell funud olaf mewn gwesty Premier Inn ar noson yr etholiad, ar ôl iddo anghofio allwedd i'w fflat yng Nghaerdydd, tra oedd yn Sir Fôn.

Mae'r stori hon wedi ailddechrau'r ddadl ynghylch sefydlu cartref swyddogol i Brif Weinidog Cymru.

Yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, mae'r sefyllfa yng Nghymru yn "wallgof" ac yn seiliedig ar y syniad mai "dim ond pobl o'r de-ddwyrain sy'n medru bod yn Brif Weinidog".

Mae Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog cyntaf Cymru i ddod o etholaeth yng ngogledd y wlad.

Beth yw'r cefndir?

Tra bod gan John Swinney, Prif Weinidog yr Alban, gartref swyddogol yn Bute House yng Nghaeredin, a Kier Starmer yn Rhif 10 Downing Street, nid yw Prif Weinidog Cymru yn derbyn cartref swyddogol gan y wladwriaeth.

Mae'n ymddangos bod y rheswm dros hyn yn deillio o ganlyniad agos y refferendwm dros ddatganoli yn 1997.

Yn ôl y sôn, roedd un o benseiri datganoli a chyn-ysgrifennydd Cymru, Ron Davies, yn erbyn y syniad o greu llety i'r Prif Weinidog yng Nghymru, gan ei fod yn awyddus i osgoi dod â rhodres San Steffan i Gymru.

Wrth i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei gynllunio, roedd yna ymdrech i osgoi gwneud pethau a allai fod yn wrthwynebus i farn y cyhoedd, yn dilyn mwyafrif mor fregus.

Cyn datganoli, mae'n debyg bod yna fflat i Ysgrifennydd Cymru ym Mharc Cathays.

Bute House ydy llety swyddogol Prif Weinidog Yr Alban

Bute House
Disgrifiad o’r llun, Bute House ydy llety swyddogol Prif Weinidog Yr Alban

Dros y blynyddoedd, mae galwadau cyson wedi bod i sefydlu llety swyddogol i Brif Weinidog Cymru.

Ad (425x293)

Yn 2021, yn ystod y cyfnod clo, roedd pryderon am ddiogelwch y Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, gan fod protestwyr yn casglu tu allan i'w gartref preifat.

Ar y pryd, awgrymodd cynghorydd ar Gyngor Caerdydd, Joe Carter, y gallai Mansion House gael ei ddefnyddio fel lleoliad posib i Brif Weinidog Cymru.

Roedd y tŷ hwn yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd ac yn arfer bod yn gartref i Faer Caerdydd tan 1995.

Yn siarad ar raglen Sharp End ITV yn 2021, dywedodd Mark Drakeford:

"Bydd yna ddiwrnod pan fydd y prif weinidog yn dod o ogledd Cymru, a bydd yn rhaid i'r person hwnnw aros yng Nghaerdydd am dipyn o'u bywyd gwaith.
Mae'n un peth i wneud e [swydd y Prif Weinidog] dy gartref dy hun, fel dwi'n ei wneud, ond mater hollol wahanol os nad oes gyda chi rywle allwch chi gael fel base eich hun."

Gwleidydda: Amser i Lywodraethu

Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn trafod goblygiadau canlyniad hanesyddol etholiad y Senedd.

Mae dros 200 o filltiroedd rhwng Senedd Cymru a swyddfa Rhun ap Iorwerth yn Llangefni ar Ynys Môn - taith o dros bedair awr a hanner mewn car.

Fel Aelod o'r Senedd, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth alw am lety swyddogol i'r Prif Weinidog.

Fodd bynnag, yn ôl Vaughan Roderick, byddai newid y drefn yn beth hynod o amhoblogaidd i'w wneud.

"Does 'na ddim un gwleidydd dan haul yn mynd i wneud yr achos dros gael tŷ," meddai.

Ychwanegodd Richard Wyn Jones:

"Dwi'n derbyn dyw hyn ddim yn bwynt poblogaidd i'w wneud, ond mae'r syniad mai dim ond o dde-ddwyrain Cymru mae'r Prif Weinidog yn dod yn ymarferol... ma' angen i hwnna stopio."

'Statws cyfartal â'u cymheiriaid'

Dywedodd Llywodraeth Cymru:

"Mae'r Prif Weinidog o'r farn ers tro fod gan Lywodraeth Cymru a'i weinidogion statws cyfartal â'u cymheiriaid yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
Mae'n canolbwyntio ei sylw ar weithredu cynllun 100 diwrnod y llywodraeth ar frys.
Matter i'r Ysgrifennydd Parhaol yw adeiladau ac ystâd weinyddol Llywodraeth Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News