Mae bachgen 16 oed a drywanodd athrawes yn ei phen yn Sir Benfro wedi ei gael yn ddieuog o geisio llofruddio. Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y bachgen, nad oes modd ei enwi oherwydd ei oed, wedi cynllwynio'r ymosodiad yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau gan fynd â chyllell i'r ysgol a sicrhau bod yr athrawes ar ei phen ei hun.
Ar ôl ystyried am ychydig dros bedair awr fe ddyfarnodd y rheithgor o fwyafrif bod y bachgen yn ddieuog o geisio ei llofruddio. Ond penderfynodd y rheithgor bod y bachgen yn euog o anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon. Bydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Medi.
What happened during the attack?
Clywodd y llys fod Vicki Williams wedi cael ei thrywanu yn ei phen a'i bod wedi cael anafiadau i'w bysedd a'i chefn hefyd.

Cafodd y bachgen ei arestio yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ar 5 Chwefror, ac fe blediodd yn ddieuog i'r holl gyhuddiadau.
Yn ei thystiolaeth, dywedodd yr athrawes, Vicki Williams, fod y bachgen wedi ei dilyn i mewn i'w hystafell gan ofyn am help gyda'i waith hanes, cyn
"hyrddio"ati gyda chyllell cegin fawr.
What did the boy tell the court?
Roedd y bachgen, oedd yn 15 oed ar y pryd, yn mynnu nad oedd bwriad i'w thrywanu. Dywedodd wrth y llys bod y gyllell wedi
"mynd i bobman"wedi i Ms Williams weld rhywbeth yn ei fag ysgol a gorchymyn iddo i'w dynnu allan.
Bu'r ddau, meddai, yn
"ymladd am ryw 10 eiliad"wrth iddo wrthod rhoi'r arf iddi, gan nad oedd eisiau mynd i drwbl am ddod â chyllell i'r ysgol. Dywedodd na welodd y gyllell yn cyffwrdd â phen Ms Williams, ond ei fod yn derbyn fod hynny wedi digwydd.
Cafodd Ms Williams ei chludo i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, cyn dod adref y noson honno.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







