Skip to main content
Advertisement

Myfyrwyr gofal iechyd yn wynebu diffyg swyddi yng Nghymru

Mae myfyrwyr gofal iechyd yng Nghymru yn wynebu diffyg swyddi, gan arwain at siom a straen. Mae rhai wedi cael eu hannog i wneud cais dramor, tra bod gwasanaethau'n wynebu heriau ariannol a gweithredol.

·6 min read
Chloe Hurst

Diffyg swyddi ffisiotherapi a pharafeddygol yng Nghymru

Mae Chloe yn dweud nad oes unrhyw swyddi ffisiotherapi Band 5 ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae myfyrwyr sy'n astudio graddau ym maes gofal iechyd yn mynegi teimladau o siomedigaeth, rhwystredigaeth a straen oherwydd diffyg swyddi yn eu meysydd.

Ddechrau'r mis, dywedodd myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf o raddau gwyddor parafeddygol eu bod wedi cael cyngor i wneud cais am swyddi yng Nghanada, Seland Newydd ac Awstralia.

Mae hyn wedi digwydd ar ôl i Wasanaeth Ambiwlans Cymru gyhoeddi na fyddant yn recriwtio parafeddygon newydd eleni oherwydd problemau ariannol a gweithredol.

Mae sawl myfyriwr wedi cysylltu â'r BBC i rannu eu profiadau, gan gynnwys rhai sy'n cael "nosweithiau di-gwsg yn crio" ac eraill sydd wedi rhoi'r gorau i weithio yn y sector gofal iechyd yn llwyr.

Dydd Llun, cyhoeddodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru y bydd rhaglenni gwyddoniaeth barafeddygol yn cael eu hoedi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf er mwyn "gwella'r cyfleoedd am swyddi i'r graddedigion presennol".

Cynghori parafeddygon newydd i symud dramor gan ddiffyg swyddi yng Nghymru

'Torcalonnus bod prinder swyddi nyrsys ar ôl gweithio 2,300 awr i hyfforddi'

'Cymru ddim yn barod i ymdopi â phoblogaeth sy'n heneiddio'

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn gweithio gyda phrifysgolion, byrddau iechyd a graddedigion i ddod o hyd i swyddi i bobl.

Mae Chloe Hurst, 20 oed o Bowys, sy'n astudio ffisiotherapi ym Mhrifysgol Caerdydd, yn mynegi siom fawr.

Dywedodd nad oes unrhyw swyddi ffisiotherapi Band 5 ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, er bod swyddi fel arfer ar gael yn y cyfnod yma.

Yn lle hynny, mae graddedigion wedi cael eu hannog i wneud cais am swyddi Band 3 a 4, sef rolau nad oes angen gradd ar eu cyfer.

Ychwanegodd fod hyd yn oed y swyddi hyn yn brin.

"Mae'n fater o aros 'ac nid oes llawer y gallwn ni ei wneud amdano mewn gwirionedd,'" meddai Chloe.

Chloe Hurst
Disgrifiad o’r llun, Mae'n fater o aros "ac nid oes llawer y gallwn ni ei wneud amdano mewn gwirionedd," meddai Chloe

Fel un sydd wedi derbyn bwrsariaeth GIG Cymru, mae Chloe'n teimlo'n rhwystredig na allai wneud cais am swyddi ar draws y ffin yn Lloegr.

"Dwi'n berson sy'n hoffi bod adref, felly ar wahân i'r elfen ariannol, roedd yn beth mawr - fi'n symud o ardal wledig i ddinas.
Felly i wybod fy mod i wedi rhoi fy hun drwy hynny i efallai beidio â chael swydd ar y diwedd, mae hynny'n bwysicach i mi na'r ochr ariannol."

Dywedodd y byddai'n gwneud cais am unrhyw beth, hyd yn oed y tu allan i ofal iechyd, dim ond "i ddangos fy mod i'n trio" ac mae'n gobeithio y bydd penaethiaid bwrsariaethau yn caniatáu iddi wneud cais am swyddi heb ystyried y lleoliad.

"Mae'n fater o aros nawr meddai, 'ac nid oes llawer y gallwn ni ei wneud amdano mewn gwirionedd'."

Emma yn rhoi'r gorau i swydd llawn amser i astudio nyrsio

Fe wnaeth Emma Coomer, 41 oed o Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, roi'r gorau i swydd llawn amser gyda chyflog da ac oriau rheolaidd mewn meddygfa i astudio am radd nyrsio ym Mhrifysgol De Cymru.

Dywedodd bod ei phrofiad wedi bod yn "ofnadwy ac mor siomedig".

"Gadawais i'r swydd achos fy mod i eisiau bod yn nyrs, ond mae jugglo shifftiau a phenwythnosau, a cholli pethau gyda'r plant wedi bod yn anodd," meddai'r fam i ddau.

Ad (425x293)

Esboniodd ei bod wedi dweud wrth ei hun drwy gydol y profiad,

"mi fydd o werth o a bydd gen i swydd dda, cyflog da - dwi 'di bod yn trio creu bywyd gwell i ni".

Ond wrth gyrraedd diwedd ei chwrs, pan fydd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr mewn meysydd eraill swyddi'n aros amdanynt, dywedodd Emma ei bod hi ac eraill yn ansicr ynghylch eu dyfodol.

"Dywedon nhw i ni beidio â chynhyrfu," meddai.

"Wneith hyn droi llawer o bobl i ffwrdd o nyrsio, a bydd y gwasanaeth iechyd mewn sefyllfa hyd yn oed yn waeth nag yw e ar y funud."

Emma Coomer
Disgrifiad o’r llun, Fe wnaeth Emma roi'r gorau i swydd llawn amser gan feddwl y byddai nyrsio'n rhoi bywyd gwell i'w phlant

'Nosweithiau di-gwsg yn crio'

Dywedodd myfyrwraig o'r de ei bod hi hefyd "yn y tywyllwch" o ran cael swydd ar ddiwedd ei chwrs.

"I fi, fydd o wedi bod yn bum mlynedd o fy mywyd dwi wedi'i roi i'r neilltu, lle dwi ddim wedi gallu prynu tŷ, ddim wedi gallu cael plant, oherwydd fy mod wedi rhoi hyn yn gyntaf," meddai.

"Mae'n achosi llawer o ofid... Mae fy mhartner yn ceisio dweud wrtha' i fydd popeth yn iawn ond dwi'n cael nosweithiau di-gwsg yn crio."

Fe wnaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gadarnhau na fyddai parafeddygon sydd newydd gymhwyso yn cael cynnig swyddi eleni oherwydd "materion ariannol a gweithredol".

Dywedodd Carl Kneeshaw, cyfarwyddwr pobl yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru, fod y gwasanaeth yn "llywio tirwedd ariannol a gweithredol anodd".

Ambiwlans

Mae sefyllfa debyg yn ymddangos mewn meysydd gofal iechyd eraill, gyda Choleg Brenhinol y Bydwragedd yn mynegi pryder mawr y gallai hyd at hanner yr holl raddedigion nyrsio newydd gael eu gadael heb waith.

Mewn datganiad blaenorol, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i sicrhau bod "ein buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant iechyd yn cael ei gefnogi gan gyfleoedd gwaith o bwys".

Ychwanegodd eu bod yn "gweithio'n agos" gyda'r awdurdodau perthnasol a phrifysgolion i "ymateb i'r heriau yma a chefnogi graddedigion".

Sefyllfa 'bryderus iawn' yn y GIG

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod y pwysau ar y GIG a rhestrau aros hir yn creu sefyllfa "bryderus iawn", gan nodi y byddai'r blaid yn datgan "argyfwng iechyd" pe baent yn dod i rym ar ôl yr etholiad.

Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fod camreoli'r GIG yn gadael graddedigion mewn limbo, gan ddweud fod "cenhedlaeth wedi'i bradychu".

Dywedodd Reform fod y llywodraeth ddiwethaf wedi "bradychu" gweithwyr gofal iechyd newydd ac wedi gwastraffu arian trethdalwyr, tra bod y Blaid Werdd wedi mynegi "cydymdeimlad mawr â myfyrwyr gofal iechyd".

Dywedodd Llafur Cymru eu bod "wedi ymrwymo" i sicrhau bod "talent sy'n hyfforddi yng Nghymru yn aros yng Nghymru", ac y byddan nhw'n "recriwtio, hyfforddi a chadw'r staff y mae'r GIG eu hangen trwy gynllun gweithlu hirdymor".

Plaid Cymru wedi addo creu strategaeth genedlaethol ar gyfer cynllunio'r gweithlu iechyd, fel na fydd myfyrwyr yng Nghymru'n cael eu gorfodi i adael y wlad lle roeddent yn bwriadu cael gyrfa.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News