Mae Susan yn gofalu am ei gŵr, Terry, yng Nghaernarfon
Mae'r pwysau a'r straen sydd ar ofalwyr di-dâl "ddim yn deg o gwbl", yn ôl dynes o Wynedd sy'n gofalu am ei gŵr yn ddi-dâl ers dros ddegawd.
Mae Susan Rendell, 74, yn dweud ei bod yn gweithio "dros 80 awr yr wythnos" erbyn hyn, "dim gwyliau... dim diwrnod off... a dwi ddim yn siŵr pa mor hir y bydd hi'n bosib i fi gario 'mlaen heb respite".
Daw hyn wrth i nifer o ofalwyr di-dâl ddweud eu bod nhw'n cael eu gwthio i'r eithaf gan system sy'n methu â'u cydnabod na'u cefnogi.
Yn ôl adroddiad Seneddol mae gofalwyr yn gorfod ymladd am gymorth, ac mae "prinder difrifol" o wasanaethau ar eu cyfer.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwerthfawrogi'r gwaith "hanfodol" mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud ac yn "adnabod" y pwysau sydd ar lawer.
Gofalu wedi 'dinistrio' Mam
Mae Susan yn gofalu am ei gŵr Terry, sydd â Parkinson's fasgiwlar ers 2012 ac wedi cael strôc ers hynny.
Erbyn hyn, mae'n golygu bod rhaid iddi "wneud bob dim iddo".
"Mae'n double incontinent, mae o just yn medru sefyll i wneud transfer o gadair i gadair.
"Dio'm yn yfed so bob amser dwi'n gofyn iddo yfed neu bwydo fo mae'n bwyta yn iawn ond rhaid i fi dorri pob dim mewn darnau bach.
"Mae'n methu siarad rŵan ond mae'n gwybod beth sy'n digwydd."
Mae hi wedi gallu ei adael am gyfnodau yn y tŷ o'r blaen ond ar ôl iddo ddisgyn o'i gadair a gorfod cael cymorth parafeddygon i'w godi, dydy hi ddim yn gwneud hynny'n aml.
"Dwi'n dal i bicio allan ond mae bob amser yng nghefn fy meddwl be' sy'n digwydd pan dwi'n dod yn ôl."
Mae'n dweud ei bod bellach yn gofalu am 80 awr yr wythnos heb seibiant, sy'n gwneud iddi ystyried a fydd yn gallu parhau.
"Dwi wedi sbio ar mam fi yn gwneud yr un un job [gofalu am rywun] a mi ddaru fo ei dinistrio hi… 'oedd hi mewn cyflwr mor wael ar ôl gwneud o ac oedd o ddim yn deg o gwbl."
Mae Susan a Terry yn cael rywfaint o gymorth gofalwyr erbyn hyn, ond dywedodd Susan mai yr hyn hoffai fwyaf ydy cael seibiant go iawn o dro i dro.
"Llynedd ges i dair wythnos i ffwrdd… un wythnos mewn canolfan dementia, ond dio'm yn dioddef o dementia, a mi ddaru hynny gostio £1,481."
Ychwanegodd mai "wythnos i ffwrdd bob tri i bedwar mis" fyddai'n ddelfrydol, ac er bod cynlluniau ar waith i roi seibiant - "sy'n gret", meddai - "tydyn nhw ddim yn trefnu alternative care… rhaid i chdi y carer drefnu hyn a wedyn gei di holiday bach".

'Dwi'n poeni am bob dim fel gofalwr di-dâl fy ngŵr a'r plant'
'Gofalu am Dad 24/7 wedi fy ngadael mewn lle tywyll iawn'
Gofal a gwaith: 'Mam a merch ydan ni, nid gofalwr a chlaf'
Mae nifer o ofalwyr di-dâl wedi dweud eu bod nhw'n cael eu gwthio i'r eithaf gan system sy'n methu â'u cydnabod na'u cefnogi.
Mae adroddiad gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wedi canfod bod gofalwyr wedi gorfod "ymladd" ac "erfyn" am gymorth y mae ganddynt hawl iddo, gydag "ychydig iawn o welliant" ers 2019.
Mae iechyd corfforol a meddyliol gofalwyr yn dirywio, yn ôl yr ymchwil, gyda rhai'n sôn am unigrwydd, blinder ofnadwy a meddyliau hunanladdol.
Mae dros 310,000 o bobl yng Nghymru yn darparu gofal di-dâl, ac ym mis Mawrth 2024, dim ond 4,924 oedd â chynllun cymorth.
Dywedodd rhai gofalwyr eu bod wedi aros misoedd am asesiad, heb unrhyw wasanaethau ar gael ar ddiwedd y broses.
Clywodd yr ymchwiliad hefyd fod "prinder difrifol" o wasanaethau seibiant gofal yn bodoli mewn rhannau o Gymru.
Roedd cyfrifoldebau gofalu Ffion wedi creu anawsterau yn yr ysgol
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod gofalwyr ifanc yn arbennig yn colli addysg, yn aml yn orbryderus ac yn colli cyfleoedd ar gyfer gwaith, bywyd cymdeithasol ac addysg uwch.
Un o'r rheiny ydy Ffion Haf Scott o Wrecsam, sydd wedi bod yn helpu i ofalu am ei mam ers ei bod hi'n 4 oed.
"Mae wedi bod yn anodd iawn ond i fi dyna ydi normal fi, dyna be dwi wedi dod i arfer efo.
"So dwi ddim yn gwybod beth rydw i wedi colli allan arno a nes i dal gael plentyndod, mae wedi bod yn anodd, ond dwi wedi datblygu nifer fawr o sgiliau."
"Pethau fel mynd allan efo ffrindiau" oedd hi'n colli allan arnyn nhw, "byth yn gallu mynd ar dripiau ysgol a'r petha' yna".
"O'n i'n methu allan ar ysgol lot achos o'n i'n arfer edrych ar ôl fy chwaer."

Roedd Ffion yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

Yn yr ysgol uwchradd y profodd yr heriau mwyaf, meddai, a hynny nes iddi gael cynllun arbenigol i'w helpu.
"Ro'n i yn yr ysgol uwchradd yn rhan amser so nes i ddim gwneud opsiynau fi, jest wedi gwneud y pynciau craidd.
"Ond wedyn o'n i'n llwyddiannus yn cael 6 B yn TGAU ... a rŵan dwi yn y chweched a dwi wedi cael mewn i brifysgol so dwi'n meddwl bod fi wedi bod yn eitha' llwyddiannus er yr holl heriau dwi wedi eu hwynebu."
Sicrhau bod mwy o bobl yn deall y sefyllfa sydd bwysicaf, meddai Ffion.
Dydy athrawon ddim yn gwybod digon, meddai, a dywedodd na ddylai gofalwyr ifanc orfod "egluro ei hun 70 gwaith yn ystod eu hamser yn yr ysgol, mae'n eitha' stressful a mae'n gyfrifoldeb arall ar ben pob peth".
"Definitely hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn llefydd fel siopau, doctoriaid a fferyllfeydd… i gyd o'r pethau yna."
Er yr heriau, mae Ffion yn pwysleisio na fyddai hi'n newid ei phrofiad:
"Dwi'n caru Mam a fy chwaer a dwi ddim yn flin efo nhw, dwi ddim yn teimlo fel fy mod i wedi colli allan… mae wedi gwneud fi pwy ydw i a baswn i byth yn cymryd hynna'n ôl."
Gofalwyr 'yn cael eu methu'
Mae'r adroddiad yn gwneud 35 o argymhellion i lywodraeth nesaf Cymru, gan gynnwys ystyried cymorth ariannol penodol i Gymru ar gyfer gofalwyr.
Mae hefyd eisiau i'r llywodraeth ei gwneud yn haws adnabod gofalwyr di-dâl i feddygon a'r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, a darparu mwy o gymorth i bobl ifanc sy'n gofalu am aelodau o'r teulu.
"Mae'n deg dweud bod gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn cael eu methu," meddai Mabon ap Gwynfor, aelod o'r pwyllgor ac AS Plaid Cymru.
"O'dd yr adroddiad yma'n un pwerus iawn yn edrych ar anghenion gofalwyr di-dâl, a'r ffordd maen nhw'n cael eu methu, nad ydy'r gefnogaeth yna ar eu cyfer nhw, nad ydy'r asesiadau ar eu cyfer nhw o blant i oedolion, a bod angen cryfhau a gwella'r gefnogaeth er mwyn iddyn nhw fedru cynnal y cymorth yna i'w hanwyliaid nhw."
Gyda chyn lleied o ofalwyr yn cael asesiad am gymorth, ychwanegodd fod "rhaid gweld hynny'n gwella" a bod y pwyllgor yn "gofyn i'r llywodraeth i weithredu".
Llywodraeth yn 'cydnabod y pwysau'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwerthfawrogi'r gwaith "hanfodol" mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud ac yn "cydnabod" y pwysau sydd ar lawer.
"Mae gan awdurdodau lleol eu cyllid craidd i ddarparu cymorth i ofalwyr," ychwanegodd y llefarydd, gan ddweud bod y llywodraeth yn gwella'r sefyllfa drwy roi £13m eleni ar gyfer "cyngor ychwanegol a gwasanaethau lles i ofalwyr, seibiannau byr a chymorth ariannol brys".
Mae Plaid Cymru wedi dweud mai gofalwyr di-dâl ydy "asgwrn cefn ein system iechyd a gofal" sy'n haeddu gwell cefnogaeth.
Dywedodd Reform bod "gofalwyr yn chwarae rôl allweddol wrth gadw ein system ofal i weithio".
Mae'r Ceidwadwyr yn dweud bod gofalwyr yn aml yn cael trafferth cael cefnogaeth, ac y byddent yn cyflwyno mesurau i "sicrhau eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi".
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion wedi cael cais am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




