Newid Hinsawdd yn Codi Pwysau ar Wasanaethau Brys
Mae newid hinsawdd yn ychwanegu pwysau ar wasanaethau brys eisoes, yn ôl adroddiad diweddar.
Mae angen i lywodraeth newydd Cymru wneud mwy i baratoi'r wlad ar gyfer cyfnodau o wres eithafol, sychder a llifogydd, medd corff cynghori newid hinsawdd y DU.
Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol y DU yn galw am fesurau oeri mewn ysbytai a chartrefi gofal, buddsoddiad ychwanegol mewn atal llifogydd, a sefydlogi domenni glo.
Rhybuddiodd Undeb y Frigâd Dan fod llifogydd a thanau gwair eisoes yn rhoi pwysau mawr ar ddiffoddwyr tân, tra bod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn disgrifio diffyg paratoad fel "esgeulusdod ar raddfa eang".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i wella parodrwydd ein cenedl ar gyfer effeithiau newid hinsawdd".
Hafau Poethaf ar Gofnod a Newid Tymhorau
Fe sychodd cronfeydd dŵr yn ystod cyfnod hir o dywydd poeth yn 2022.

Fe brofodd Cymru ei haf poethaf ar gofnod yn 2025, wedi haf poethaf blaenorol yn 2022 pan gyrhaeddodd y tymheredd 37.1°C ym Mhenarlâg, Sir y Fflint.
Mae'r 10 mlynedd cynhesaf ar gofnod i gyd wedi digwydd ers dechrau'r 2000au.
Mae'r adroddiad yn rhagweld y bydd hafau poethach yn dod yn fwy cyffredin, gyda chyfnodau estynedig o dywydd cynnes iawn, neu heatwaves, yn para o leiaf wythnos erbyn canol y ganrif.
Heb amddiffyn pobl fregus, bydd marwolaethau gormodol o ganlyniad i wres yn cynyddu o 1,400-3,000 y flwyddyn ar hyn o bryd i 3,000-10,000 erbyn 2050 ar draws y DU.
Os na fydd cynhesu byd eang yn cael ei gyfyngu, mae'r ffigurau'n debygol o gynyddu'n sylweddol, gyda hyd at 18,000 o farwolaethau'n gysylltiedig â gwres yn flynyddol erbyn 2100 gyda 4°C o gynhesu, ac ardaloedd o Gymru'n addas ar gyfer mosgitos sy'n gallu lledaenu afiechydon.
Mesurau Oeri a Diogelwch Gwaith
Mae galw am osod mesurau oeri mewn ysbytai, cartrefi gofal ac ysgolion, gan gynnwys systemau awyru, caeadau, llenni tywyll a phlannu coed i ddarparu cysgod.
Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu "uchafswm tymheredd cenedlaethol ar gyfer safleoedd gwaith" i ddiogelu gweithwyr a hyrwyddo mwy o fesurau oeri.
Heriau mewn Cartrefi Gofal
Gall fod yn anodd iawn i breswylwyr a staff cartrefi gofal yn ystod tywydd poeth, medd Sandra Evans.

Yn Nhŷ Gofal Bryn Seiont Newydd, Caernarfon, dywedodd y rheolwraig Sandra Evans eu bod yn ffodus i gael uned awyru yn y lolfa sy'n helpu'r preswylwyr.
"Ond dwi yn gwybod mewn cartrefi eraill dydyn nhw ddim mor ffodus i gael yr unedau yma - a dwi'n gwybod 'sa fo'n costio ffortiwn 'sa hyn yn rhywbeth sa'r cartrefi gyd yn gorfod cael," meddai.
"Mae'n gallu bod yn ofnadwy o stressful," yn ystod cyfnodau estynedig o dywydd poeth eithafol a "phobl yn gallu mynd yn irritable," eglurodd.
"'Da ni'n trio cadw'r morâl yn uchel, cau'r blinds, ice creams ac ati".
Blaenoriaethu Oeri mewn Cartrefi Gofal ac Ysbytai
Mae angen blaenoriaethu ffyrdd o oeri cartrefi gofal ac ysbytai, medd yr adroddiad.

Llifogydd a Bygythiadau Eraill
Mae llifogydd yn bygwth mawr i Gymru, gyda 245,000 o eiddo mewn perygl o ganlyniad i law eithafol a lefelau'r môr yn codi.
Mae llithriadau o dommeni glo hefyd yn peri pryder, er bod ymdrechion diweddar i sefydlu cofrestr o hen domenni a sefydlu awdurdod newydd i'w diogelu wedi cael eu canmol.
Bydd cyfuniad o sychder a thywydd gwlyb eithafol yn anoddach i ffermwyr, gan effeithio ar gynhyrchu bwyd, tra bydd tymhorau tanau gwair yn para'n hirach ac yn fwy heriol.
Diffoddwyr Tân 'ar y Rheng Flaen'
Mae'r sefyllfa'n cynyddu'r pwysau ar wasanaethau brys fel criwiau tân, meddai'r adroddiad.
Dywedodd Sion Slaymaker, pennaeth corfforaethol ymateb brys i Wasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru, fod newid hinsawdd "eisoes yn cael effaith sylweddol ar ein gwaith".
"Mae natur y digwyddiadau [llifogydd a thanau gwyllt] yn lot mwy difrifol na mae wedi bod, yn effeithio ardaloedd lot mwy eang ac yn golygu bod angen i ni ddefnyddio mwy o adnoddau nac yn y gorffennol," meddai.
"Mae'n bryder gwirioneddol i ni - y'n ni'n ymwybodol bod y galw ar ein gwasanaethau yn debygol o gynyddu ymhellach os na fydd camau yn cael eu cymryd a dwi'n credu bod gan bawb ran i'w chwarae yn hynny i leihau effaith newid hinsawdd ac i addasu."
Disgrifiodd Gareth Tovey o Undeb y Frigad Dân ddiffoddwyr tân fel gweithwyr "ar rheng flaen yr argyfwng newid hinsawdd" gan alw am fuddsoddiad ychwanegol i gefnogi'r gwasanaethau.
Paratoadau Cymru ar gyfer Newid Hinsawdd
Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, nad yw Cymru'n paratoi'n ddigonol ar gyfer effeithiau newid hinsawdd.
"Byddai'n esgeulusdod ar raddfa eang i barhau i anwybyddu'r angen i baratoi rhag y storm tra bod gennym ni gyfle," meddai.
Yn ôl Shea Buckland-Jones o WWF Cymru, mae "cyfle allweddol" i lywodraeth newydd Cymru "flaenoriaethu gweithredu ar yr hinsawdd a natur" yn eu can diwrnod cyntaf.
"Mae'r adroddiad yn gwneud yn glir nad yw cynlluniau presennol Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn addas i bwrpas," meddai.

Neges o Obaith
Mae adroddiad diweddar y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn diweddaru'r wybodaeth a'r cyngor a ddarparwyd bum mlynedd yn ôl ynghylch effaith cynhesu byd eang ar y DU.
Defnyddir y wybodaeth i lunio asesiadau risg a chynlluniau addasu gan lywodraethau'r DU.
Dywedodd y Farwnes Brown, cadeirydd pwyllgor addasu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, fod "ein bywydau, ein tirweddau a'n cartrefi dan bwysau cynyddol o'r newid yn yr hinsawdd".
"Mae'r atebion yn bodoli, a thechnolegau sydd wedi'u profi ar gael nawr i helpu'r DU i addasu yn effeithiol. Gyda'r penderfyniadau a'r gweithrediadau cywir, gallwn ni warchod pobl a'r llefydd ry'n ni'n eu caru."
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr adroddiad yn "rhoi cyngor clir ar y risgiau a'r cyfleoedd sy'n deillio o'n hinsawdd sy'n newid a'r camau mae angen i ni gymryd i addasu".
"Rydym yn croesawu ei neges bod yn rhaid i ni fod yn obeithiol a sylweddoli manteision gweithredu er gwaethaf yr heriau difrifol sydd o'n blaenau.
"Rydym wedi ymrwymo i wella parodrwydd ein cenedl ar gyfer effeithiau hinsawdd ac yn gwybod, drwy weithredu nawr, y gallwn adeiladu dyfodol teg a gwydn o ran hinsawdd i Gymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






