Protestiadau ar draws Cymru yn erbyn llygredd carthffosiaeth
Dywedodd prif weithredwr Surfers Against Sewage, Giles Bristow, fod system ddŵr Cymru yn "methu'n drychinebus".
Cafodd protestiadau eu cynnal ar draws Cymru ddydd Sadwrn fel rhan o ymgyrch yn erbyn llygredd carthffosiaeth mewn afonydd a moroedd.
Roedd digwyddiadau yng Nghymru mewn llefydd gan gynnwys Abertawe, Llanberis, Porthcawl, Ynys y Barri ac Aberystwyth.
Mae'r elusen amgylcheddol Surfers Against Sewage wedi trefnu'r protestiadau mewn mwy na 50 o draethau, afonydd a llynnoedd ledled y Deyrnas Unedig.
Dywedodd y protestwyr eu bod am weld mwy o weithredu gan lywodraethau a chwmnïau dŵr i fynd i'r afael â'r "argyfwng carthffosiaeth".
Mae arolwg barn newydd a wnaed ar ran yr elusen yn awgrymu bod mwy na hanner pobl y DU yn poeni y bydden nhw'n mynd yn sâl wrth nofio mewn afonydd, llynnoedd a moroedd oherwydd ansawdd gwael y dŵr.
Dywedodd un o bob chwech hefyd (17%) eu bod nhw neu rywun maen nhw'n ei adnabod wedi bod yn sâl oherwydd llygredd carthffosiaeth.
Yn ôl yr elusen, cafodd carthffosiaeth ei rhyddhau dros 100,000 o weithiau gan Dŵr Cymru yn ystod 2025.
Protestwyr lleol yn mynegi pryderon am lygredd
Dywedodd Tomos Barton fod Llyn Padarn yn "bwysig iawn" i'r gymuned leol.
Roedd Tomos Barton o Fethesda ymhlith y rhai oedd yn cefnogi'r brotest yn Llanberis ger Llyn Padarn.
"Dwi'n dod i Lyn Padarn ers dwi'n ifanc iawn, mae'r lle'n bwysig i mi", meddai.
"Mae'n amlwg fod y cwmnïau dwr 'ma ddim hefo diddordeb mewn cadw ein dŵr yn saff ac yn lân.
Mae'r llyn yma yn lynchpin o'r diwylliant lleol ac yn bwysig iawn i bobl sy'n byw yma."
Ychwanegodd ei fod yn "hyderus" wneith y llywodraeth newydd wrando ar eu pryderon.
"Maen nhw angen cymryd hyn o ddifrif, ond dwi'n gobeithio fyddan nhw'n cymyd sylw o be 'da ni'n neud heddiw."

Gefnogaeth i'r brotest yn Llanberis
Dywedodd Meg Davies fod y gefnogaeth i'r brotest wedi bod yn "galonogol".
Meg Davies o'r elusen Surfers Against Sewage, sydd hefyd yn byw'n lleol, ychwanegodd fod 57 o brotestiadau tebyg wedi digwydd ar draws y Deyrnas Unedig dros y penwythnos.
"Mae'n bwnc anferth yn ein cymunedau ar hyn o bryd," meddai.
"Rhoi cyfle i'r gymuned godi eu llais ydy hyn, mae'r llyn mor bwysig i bobl leol a hefyd twristiaeth, mae hi mor bwysig fod pobl yn cael cyfle i ddangos pa mor bryderus ydyn nhw.
Mae hi mor bwysig fod y llyn yma yn ddiogel a nad ydy pobl yn mynd yn sâl."

Galwadau am weithredu gan Surfers Against Sewage a protestwyr eraill
Dywedodd prif weithredwr Surfers Against Sewage, Giles Bristow, fod system ddŵr Cymru yn "methu'n drychinebus".
"Mae dyfroedd llygredig, biliau uchel a diffyg atebolrwydd wedi creu sefyllfa annerbyniol," meddai.
Dywedodd Kate Bassett-Jones, oedd yn arwain protest yn Aber Llydan yn Sir Benfro, fod ei thraeth lleol wedi gweld 116 o rybuddion carthffosiaeth yn ystod 2025.
"Dylai pobl leol allu mwynhau'r môr yn ddiogel drwy'r flwyddyn," meddai.
Ymatebion gan y Llywodraeth a chwmnïau dŵr
Roedd protestwyr yn galw am fwy o weithredu i ddiogelu afonydd a llynnoedd Cymru.

Mewn ymateb, dywedodd Welsh Government fod y Prif Weinidog newydd wedi penodi ei Gabinet ac y bydd "gweinidogion yn nodi eu blaenoriaethau yn fuan".
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn "cymryd eu cyfrifoldeb dros ddiogelu dyfroedd ymdrochi o ddifrif".
Ychwanegodd y cwmni fod 98% o ddyfroedd ymdrochi dynodedig Cymru yn cyrraedd safonau ansawdd llym, a'u bod yn buddsoddi £4bn rhwng 2025 a 2030, gyda £2.5bn ohono ar brosiectau amgylcheddol.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn rhannu pryderon am effaith llygredd ar afonydd ac arfordir Cymru.
Ychwanegodd y corff eu bod wedi cryfhau eu dull rheoleiddio ac yn disgwyl i gwmnïau dŵr sicrhau "gostyngiadau parhaus" mewn gollyngiadau carthffosiaeth.






