Skip to main content
Advertisement

Tîm newydd Ynys Enlli yn ceisio sicrhau lle byw a gweithio am genedlaethau

Tîm newydd Ynys Enlli, Aron Llwyd a Lois Roberts, yn ceisio gwneud yr ynys yn le byw a gweithio am genedlaethau, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer pŵer solar a gwirfoddoli.

·4 min read
Ynys Enlli

Caru pobl ar gwch rhwng Ynys Enlli a Porth Meudwy

Caiff pobl eu cludo ar gwch yn ôl ac ymlaen o Ynys Enlli i Borth Meudwy, ger Aberdaron ym Mhen Llŷn.

Cynlluniau newydd i sicrhau dyfodol Ynys Enlli

Mae tîm newydd sy'n gyfrifol am Ynys Enlli yn gobeithio rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau ei bod yn "le i fyw a gweithio am genedlaethau i ddod".

Yn hanu o Gaerdydd, bu'r wardeniaid newydd, Aron Llwyd a Lois Roberts, yn siarad ar Dros Frecwast fore Mercher, i drafod y cynlluniau ar gyfer yr ynys a'r profiad o fyw yno yn llawn amser.

"Mae'n bwysig bo' ni'n trio neud yr ynys - nid yn unig fel lleoliad o ddiwylliant a hanes arbennig - ond hefyd fel lle i fyw a gweithio am genedlaethau i ddod," meddai Lois.

"Mae'n hynod o gyffrous ar hyn o bryd. Da' ni 'di cael cadeirydd newydd - Alun Llwyd a hefyd is-warden newydd ar yr ynys - Elin Cheung.

"Hefyd mae Nansi David-Hughes ar y tir mawr yn gyfrifol am brosiectau gyda'r ymddiriedolaeth, felly mae 'na egni cyffrous newydd ar yr ynys."

Aron a Lois
Disgrifiad o’r llun, Aron a Lois ydy wardeiniaid newydd Ynys Enlli

Wardeiniaid newydd Ynys Enlli

Mae'r cwpl wedi bod yn wardeiniaid tymhorol ers 2024, sy'n golygu iddynt fynd i'r ynys yn y gwanwyn a gadael ym mis Hydref.

Fodd bynnag, maen nhw'n dweud eu bod yn gwireddu breuddwyd o fyw yno llawn amser erbyn hyn.

Cafodd y cwpl y cyfle ar ôl i'r wardeiniaid blaenorol, Mari a'i chymar Emyr, roi'r gorau iddi yn gynharach eleni.

Diwedd cyfnod i wardeiniaid Ynys Enlli

Dywedodd Aron fod sicrhau bod yr ynys yn le i fyw a gweithio yn golygu "rhoi mwy o bethau yn eu lle, fel mwy o bŵer solar yn y tai".

"Mae hynny'n bwysig iawn ar gyfer y gymuned sy'n byw yma llawn amser, mae'n sicrhau bo' nhw'n gallu byw yma heb broblem," meddai.

Ychwanegodd Lois ei bod hi'n hanfodol gallu cynnig profiad yr ynys i bobl newydd.

"Mae 'na lot o gyfleoedd gwirfoddoli yn ystod y flwyddyn, mae hwnna'n ffordd o fod yn rhan o'r ymddiriedolaeth a chael profi be' yden ni'n ei 'neud o ddydd i ddydd.

Ad (425x293)

"Mae llwyth o gyfleoedd trwy gydol y flwyddyn sy'n agor ar gyfer flwyddyn nesa', diwedd tymor yma yn ystod mis Medi," meddai.

Aron a Lois wedi cymryd yr awenau

Emyr, Lois, Mari ac Aron
Disgrifiad o’r llun, Mae Aron a Lois wedi cymryd yr awenau gan Emyr a Mari

Ychwanegodd Lois ei bod yn "bwysig i ni fod yr ynys yn cael ei chadw mewn ffordd benodol".

"Ma' twristiaid yn dod mis Ebrill, Medi ac ymwelwyr dydd hefyd ac ma'n bwysig bod yr ynys yn cael ei chadw'n daclus, cynnal a chadw'r tai a'r gerddi, fel bod pawb yn gallu mwynhau yno."

Mae'n allweddol nad ydyn nhw yn rhy ddibynnol ar dechnoleg, meddai.

"Ti byth yn gwybod pryd mae'r we am dorri allan ac ma'n bwysig cael diddordebau sydd ddim ar y we i'n bodloni ni.

"Un o'r pethau sbesial am yr ynys ydi bo' bobl yn gallu dod yma, really switsio i ffwrdd a pheidio bod ar-lein o hyd. Ma' pobl yn gwerthfawrogi."

'Breuddwyd wedi dod yn fyw'

Dywedodd Lois nad oedd hi "byth wedi dychmygu bod yma llawn amser, ond wir ma' breuddwyd wedi dod yn fyw cael bod yn wardeiniaid".

"Does byth adeg diflas dweud y gwir, mae sialensiau a heriau gwahanol yn codi bob dydd."

Eglurodd hi fod y ddau'n cael "hwyl yn datrys problemau newydd bob dydd" a'i fod yn "ffordd unigryw o fyw".

Dilynwch Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News