Skip to main content
Ad (425x293)

Teyrngedau i Dafydd Owen, Arloeswr Crefyddol a Gweinidog Eglwys Bresbyteraidd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r Parchedig Dafydd H Owen, arloeswr crefyddol ac Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf Eglwys Bresbyteraidd Cymru, sydd wedi marw yn 90 oed ar ôl gwasanaethu mewn sawl ardal a sefydlu gwaith ieuenctid yng Ngholeg y Bala.

·4 min read
Dafydd Owen

Y Parchedig Dafydd Owen yn marw yn 90 oed

Mae nifer o bobl wedi rhoi teyrngedau i'r diweddar Barchedig Dafydd H Owen, Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf Eglwys Bresbyteraidd Cymru a chaplan ieuenctid cyntaf Coleg y Bala, sydd wedi marw yn 90 oed ar ôl salwch byr.

Ganwyd ef yn Lanrug ger Caernarfon ac roedd wedi gwasanaethu fel gweinidog mewn sawl ardal, gan gynnwys Llansteffan, Bancyfelin, Caergybi a Llundain. Fodd bynnag, mae'n cael ei gofio'n bennaf am ei waith arloesol fel caplan ieuenctid cyntaf Coleg y Bala ac Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Yn 1967, ef a'i wraig Brenda gychwynnodd y gwaith ieuenctid yng Ngholeg y Bala, ac ers hynny mae miloedd o bobl ifanc ledled Cymru wedi cymryd rhan mewn cyrsiau yn y coleg.

"Os oedd rywun y gellid ei alw yn arloeswr neu arloeswyr crefyddol, wel Dafydd a Brenda Owen efo'i gilydd fasa rheini," meddai Nan Powell-Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol presennol Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

"Dyma beth oedd arloesi, gweld cyfle, ei adnabod a gweithredu. Fe welodd fod Coleg y Bala, adeilad helaeth hanesyddol pwysig yn wag ac heb ddefnydd, a phenderfynu ei fod yn ddelfrydol i'w agor fel canolfan i blant, ieuenctid a hyfforddiant.

"Fe fydda' i yn gofyn yn aml sut le fyddai Eglwys Bresbyteraidd Cymru pe na bai Coleg y Bala wedi agor.

"Mae cymaint o arweinwyr y blynyddoedd diwethaf ac arweinwyr arloesol newydd ein dyddiau ni yn gallu dweud fod llawer iawn o'u profiad a'r her maent wedi ei dderbyn yn tarddu o'r gwaith yn y Coleg.

"Roedd Dafydd yn gweld cyfle, yn perswadio ac yn mentro. Doedd pawb ddim yn cytuno, ond roedd y weledigaeth yn un roedd o'n gorfod ei dilyn ac roedd o'n gwneud hynny yn raslon gyda phawb."

nan
Disgrifiad o’r llun, 'Fe fydda' i yn gofyn yn aml sut le fyddai Eglwys Bresbyteraidd Cymru pe na bai Coleg y Bala wedi agor,' medd Nan Powell-Davies

"Yn bersonol roedd ei ddylanwad yn fawr arna i, roedd o'n gweld anghenion ei ddydd ac yn annog ac yn rhoi hunan hyder i bobl gredu y gallent gyfrannu," ychwanegodd Nan Powell-Davies.

"Pwy ond rhywun mentrus fel Dafydd fyddai wedi rhoi swydd i rywun 18 oed di-brofiad a magu hyder ynddi i i gydio yn y gwaith? Roedd yn anogwr heb ei ail, ac mae fy nyled i yn fawr iawn iddo fo."

Ad (425x293)

Mae nifer o bobl eraill wedi rhoi teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol gan bwysleisio ei ddiffuantrwydd, ei gadernid a'i hynawsedd.

"Un o'r goreuon heb os - bu ei esiampl ysbrydol diffuant a llawen, ei ofal bugeiliol, a'i ddysgeidiaeth ddoeth a chadarn yn ddylanwad amhrisiadwy ar ffydd merch ifanc o Port - diolch o galon DHO," meddai Carys Humphreys, sydd wedi bod yn gwneud gwaith cenhadol yn Taiwan am dros 30 mlynedd.

'Gweledigaeth glir'

Gwyddonydd oedd Dafydd H Owen, wedi graddio gyda BSc a BD o Aberystwyth.

"Roedd o'n gallu cyfannu y bwlch rhwng crefydd a gwyddoniaeth ac roedd ganddo feddwl dadansoddol," meddai'r Parchedig Dafydd Andrew Jones, a fu'n cydweithio ag ef am dros hanner can mlynedd.

"Roedd o'n gyfaill triw ac yn arloeswr oedd â gweledigaeth glir - yn ddyn urddasol oedd ag empathi â phobl.

"Yn ogystal ag yng Ngholeg y Bala, fe wnaeth o arloesi hefyd fel Ysgrifennydd Bwrdd y Genhadaeth ac roedd ganddo weledigaeth glir yn ei swydd fel Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf EBC.

"Bu hefyd yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol cyn ei weinidogaeth ar gapeli yn Llundain."

Mae ef yn gadael ei wraig Brenda, eu plant Rhys a Rhian, a'u teuluoedd.

Bydd teyrnged lawn i'r diweddar Barchedig Dafydd H Owen yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ac yna ar .

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Ad (425x293)

Related News