Skip to main content
Advertisement

Leno Conti a'i hufen iâ enwog yn Llanbedr Pont Steffan yn cael eu coffáu

Mae Leno Conti, adnabyddus am ei hufen iâ a chaffi Conti's yn Llanbedr Pont Steffan, wedi marw yn 97 oed. Cofnodwyd atgofion melys gan Gillian Elisa am ei groeso cynnes a'r effaith barhaus ar y gymuned.

·5 min read
Leno Conti a'i hufen iâ anfarwol

Leno Conti a'i hufen iâ anfarwol

Mae Angelo Conti, a oedd yn adnabyddus yn nhref Llanbedr Pont Steffan am ei hufen iâ, ei goffi a'i groeso cynnes, wedi marw yn 97 oed.

Bu Leno a'i wraig Daphne yn rhedeg caffi Conti's ar Sgwâr Harford am ddegawdau.

Roedd Leno yn aelod o deulu Conti a ddaeth i Gymru o ardal Bardi, gogledd Yr Eidal yn y 1930au.

Ganwyd Leno yng Nghymru ond daeth ei dad, Attilio Conti, a'i frodyr i Gymru ar ôl ffoi newyn yng ngogledd Yr Eidal.

Agorodd Attilio a'i frodyr Alf a Jack eu caffi cyntaf yn Ystradgynlais. Ar un adeg, roedd y brodyr yn rhedeg 17 caffi Conti ar draws de a gorllewin Cymru.

Yn awr, dim ond caffis Conti's Llanbed a Llanerchaeron sydd ar agor ac maent yn parhau yn nwylo disgynyddion y tri brawd.

Y brodyr Conti, Attilio, Jack ac Alf
Disgrifiad o’r llun, Y brodyr Conti, Attilio, Jack ac Alf
Roedd y caffi Conti cyntaf mewn tŷ yn Ystradgynlais
Disgrifiad o’r llun, Roedd y caffi Conti cyntaf mewn tŷ yn Ystradgynlais

Atgofion melys gan Gillian Elisa

Un sydd ag atgofion melys o ymweld â chaffi Conti's yn Llanbed a chael ei gweini gan Leno Conti yw'r actores a'r gantores Gillian Elisa. Yma mae hi'n rhannu ei hatgofion.

Gillian a Cariad y ci yn Conti's
Disgrifiad o’r llun, Gillian a Cariad y ci yn Conti's

'Roedd Conti's yn byrlymu drwy'r amser'

'Wy'n cofio Leno Conti ers pan o'n i'n fach iawn, iawn. Yn rhyw bedair i bum mlwydd oed ro'n i wastad yn mynd mewn yna gyda Mam a Dad ac yn cydio'n dynn yn eu breichie nhw yn gofyn am sweets.

Oedd pob math o sweets gyda nhw mewn jariau hir, everton mints, taffis, banana split... roedd e wastad yn bleser i ddewis y sweets.

Beth oedd yn ffantastig am byti Conti's oedd y jukebox a phan o'n i'n ifanc iawn o'n i'n gweld lot o'r ieuenctid yn dawnsio ar bwys y jukebox, yn dawnsio roc-a-rôl yna mewn i'r twist.

O'n i jest yn meddwl fod e mor cŵl. O'n i isie bod yn rhan o hyn i gyd ond o'n i lot rhy ifanc.

Oedd rhywbeth yn ddeniadol am byti Conti's, rhywbeth yn gynhyrfus ac yn byrlymu drwy'r amser.

Bydde Leno wastad yn rhoi croeso ffantastig i ti, yn enwedig pan o'n i'n 'neud yn dda yn y gwaith o'n i'n 'neud.

Oedd e'n ffrindie mawr 'da fy nhad, John Morgan Thomas. Bydde Leno, Dad a chwpwl o ddynion eraill 'mlaen mewn oedran yn cwrdd i gael coffi ac yn trafod rygbi. Oedd Dad yn dwlu ar Leno, oedd e wastad yn bositif, yr egni sbeshal 'na oedd gyda fe.'

Leno Conti tu allan i Conti's yn 2008
Disgrifiad o’r llun, Leno Conti tu allan i Conti's yn 2008

'Oedd Leno yn gwybod sut i drin pobl'

Pan o'n i'n chweched dosbarth o'n i'n mynd i Conti's i gael horlicks a Limmits chocolate, dyna oedd fy nghinio i achos o'n i wastad yn trial colli pwyse ac o'n i'n cael sigarét a phopeth. Oedd cheek 'da fi, o'n i'n ishte yn fan'na yn meddwl bo' fi'n henach nag o'n i.

Advertisement

A dro arall bydden ni'n mynd yna i gwrdd â boyfriends a bydde Leno'n cadw fy secrets i gyd ac yn dweud dim wrth Dad am y peth.

Bob dydd Calan bydde fi a Patricia Jones o'r banc wastad yn mynd o amgylch Llambed i hel calennig.

Ni oedd yr unig ddwy oedd yn mynd rownd yn canu Blwyddyn Newydd Dda gan harmoneiddio hefyd felly oedden ni'n meddwl bod ni yn bee's knees achos o'n ni'n ennill lot o arian yn neud hynna ac oedd e'n brofiad ffantastig.

O'n i'n mynd mewn i Conti's i hel calennig ac o'n ni'n gorfod perfformio. Bydde Leno'n dweud 'Do it again now' ac oedd e'n rhoi dau swllt, oedd yn lot bryd hynny.

Oedd e'n galon i'r gymuned, oedd pobl yn joio mynd mewn yna achos o'dd gymaint o bethe gwahanol yna ond y peth mwya odd pawb yn dwlu arno oedd yr hufen iâ.

Oedd e'n arallfydol. Os o'n i wedi bod bant o'n i yn dod yn ôl ac yn ysu am yr hufen iâ achos oedd e jest yn 'neud i fi deimlo mor ffab.

Ac mae'r hufen iâ dal i gael yr effaith yna arna i. Bob tro fydda i'n dod yn ôl i Lanbed mae'n rhaid i fi fynd i Conti's achos fi'n teimlo'n gartrefol yna.

'Wy'n rhan o'r dodrefn nawr. Mae Cariad y ci a fi yn mynd yna, ni'n eistedd ar bwys y ffenest ac yn ymlacio.

Oedd Leno'n gwybod sut i drin pobl, oedd e'n fachan cyfeillgar, caredig a bydd Llanbed yn lle gwahanol iawn hebddo fe. Mae Conti's yn gredit i'r dre'.'

Hanes y caffis Conti's yn ne Cymru mewn lluniau

Y brodyr Conti, Attilio, Jack ac Alf

Roedd y caffi Conti cyntaf mewn tŷ yn Ystradgynlais

Y brodyr Conti balch a'u caffi yn Ystradgynlais ar ôl i'r caffi symud o barlwr y tŷ

Y brodyr Conti balch a'u caffi yn Ystradgynlais ar ôl i'r caffi symud o barlwr y tŷ
Disgrifiad o’r llun, Y brodyr Conti balch a'u caffi yn Ystradgynlais ar ôl i'r caffi symud o barlwr y tŷ

Mynd o bentref i bentref yn gwerthu hufen iâ Conti

Mynd o bentref i bentref yn gwerthu Hufen iâ Conti
Disgrifiad o’r llun, Mynd o bentref i bentref yn gwerthu hufen iâ Conti

Ac yn ddiweddarach... fan hufen iâ swanc Conti

Ac yn ddiweddarach... fan hufen iâ swanc Conti
Disgrifiad o’r llun, Ac yn ddiweddarach... fan hufen iâ swanc Conti

Gweithwyr yng nghaffi Conti, Clydach

Gweithwyr yng nghaffi Conti, Clydach
Disgrifiad o’r llun, Gweithwyr yng nghaffi Conti, Clydach

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb:

  • Colleen Ramsey: 'Beth mae Cymru a'r Eidal yn golygu i fi'
  • Cwis: Cysylltiadau Cymru a'r Eidal

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News