Ffermwyr Cymru'n Dathlu Llwyddiant ar Britain's Got Talent
Aled Wyn Davies (canol yn y crys siec) ac Aled Griffiths (ar y chwith yn y rhes gefn) gefn llwyfan gyda gweddill aelodau'r Hawkstone Farmers, a chyflwynwyr BGT Ant & Dec (ar y dde)
Mae nifer o ffermwyr o Gymru'n dathlu ar ôl i'w côr gael eu dewis yn syth i rownd gyn-derfynol Britain's Got Talent ar ôl i un o'r beirniaid wasgu'r botwm aur, y Golden Buzzer.
Roedd y Hawkstone Farmers, a sefydlwyd yn wreiddiol ar gyfer hysbyseb cwrw gan y cyflwynydd teledu Jeremy Clarkson, yn cystadlu ar y rhaglen deledu nos Sadwrn.
Ymhlith y 32 o amaethwyr ar y llwyfan roedd saith o Gymru, gan gynnwys cyn-enillydd y Rhuban Glas a chadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2027.
Gwnaethant argraff fawr fel bod y beirniad Amanda Holden wedi gwasgu'r botwm aur, gan eu hanfon yn syth i'r rownd gynderfynol heb iddynt orfod cystadlu mewn rowndiau eraill.

Aelodau'r Côr a'u Cefndir
Un o aelodau'r côr yw Aled Griffiths o Gwmllinau, Powys, ffermwr sy'n gweithio hefyd i undeb yr NFU ac sy'n gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2027.
"Un gair sydd i ddisgrifio'r holl brofiad - swreal ydy hwnna," meddai ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru.
"Roedda ni'n gwylio Britain's Got Talent weithiau ar nosweithiau Sadwrn, yn enwedig pan oedd y plant yn iau - roedden nhw'n mwynhau gweld yr amrywiaeth o adloniant oedd ar y rhaglen.
"A tasa rhywun wedi dweud wrtha i faswn i ar y rhaglen eleni faswn i ddim wedi coelio nhw deud gwir ond dyna ni mae'r pethe ma'n digwydd."
Un o'i gyd-aelodau yw ei gyfaill Aled Wyn Davies, tenor o Lanbrynmair.
"Dwi'n lwcus mod i wedi gwneud lot o ganu yn bersonol o'r blaen ond roedd hwn yn rhywbeth gwahanol - fel Steddfod yr Urdd ar steroids neu rywbeth," meddai ar Radio Wales.
"Roedd yn deimlad mor swreal - doedden ni ddim yn gwybod be' i'w ddisgwyl ond aeth o mor briliant. Roedd pobl ar eu traed pan wnaethon ni gerdded i mewn - roedd yn foment briliant wna i byth anghofio."

Sefydlu a Dewis y Côr
Sefydlwyd y côr flwyddyn yn ôl er mwyn canu mewn hysbyseb teledu ar gyfer cwrw a gynhyrchwyd gan Jeremy Clarkson, sydd bellach yn adnabyddus am ei gyfresi teledu sy'n dilyn ei fywyd ar ei fferm.
Rhoddwyd hysbyseb am y prosiect cerddorol ar grŵp Facebook Côr Meibion Machynlleth ac fe gytunodd y ddau Aled, sy'n aelodau, i roi cynnig arni.
Ar ôl anfon clip fideo ohonyn nhw'n canu, fe'u dewiswyd ymysg y 35 o tua 600 a gafodd eu hystyried.
Cadw'r Cyfrinach a Perfformiad ar Britain's Got Talent
Yn dilyn ymateb ffafriol ar y cyfryngau cymdeithasol, gwnaeth y côr gais i gystadlu ar Britain's Got Talent a chafodd eu derbyn.
Chwe mis yn ôl, perfformiodd y côr eu fersiwn o "One Day Like This" gan y band Elbow yn Birmingham.
"Mi ryda ni wedi gorfod cadw'r gyfrinach ers mis Hydref," meddai Aled Griffiths.
"Neshi ddim sylw ei bod hi [Amanda Holden] wedi gwagu'r botwm aur a dweud y gwir - o'n i'n edrych rownd y gynulleidfa - cynulleidfa fawr wrth gwrs."

Paratoi ar gyfer y Rownd Gynderfynol
Disgwylir i'r rownd gynderfynol gael ei chynnal yn ystod mis Mai, gan roi ychydig wythnosau i'r côr ddysgu cân newydd, sy'n heriol gan fod aelodau'n byw ledled Prydain.
"Fyddwn ni'n cyfarfod mewn tua thair wythnos am gwpl o ddyddiau i ddysgu cân newydd ac wedyn mis Mai gobeithio fydd y rownd gynderfynol," meddai Aled Wyn Davies.
"Fyddwn ni'n mynd lawr i Lundain i'r rhaglen fyw - felly ychydig mwy o nerfau eto ond gobeithio bydd y cyhoedd a'r gymuned amaeth yn ein cefnogi a gobeithio wnaiff pawb bleidleisio i ni."
Cyd-dynnu a Chyfeillgarwch rhwng Aelodau'r Côr
Mae'r ddau Aled wedi adnabod ei gilydd ers blynyddoedd, ond mae'r prosiect diweddaraf wedi arwain at greu ffrindiau newydd gyda ffermwyr o bob rhan o Brydain.
"Be' sy'n rhyfedd ydy'n bod ni i gyd yn cyd-dynnu. Mae un peth sy'n dod â ni ynghyd ac amaethyddiaeth ydy hwnnw," meddai Aled Griffiths.
"Mae gennyn ni un peth sy'n gyffredin ac mae'n amlwg pan yda ni'n cwrdd â'n gilydd. Mae rhyw gyfeillgarwch od wedi digwydd a dweud y gwir."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







