Skip to main content
Advertisement

Ateb y Galw: Beca Llwyd yn Rhannu Atgofion a Hoff Bethau

Beca Llwyd, actores a chyflwynydd S4C, yn rhannu atgofion, hoff lefydd, digwyddiadau a phrofiadau personol mewn cyfweliad manwl gyda Cymru Fyw.

·4 min read
Beca Llwyd

Beth yw dy atgof cyntaf?

Pan o'n i'n llai, oedd Mam a Rhian ei ffrind yn mynd â ni gyd i Baby Gym. Oedd ganddyn nhw bedwar o blant yr un felly oedd 'na wyth ohona ni.

Dwi'n cofio'r twll mawr o sbwnj roedden ni'n neidio i fewn iddo fo a'r bisgedi buwch odda ni'n bwyta.

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Bwrdd cegin tŷ ni (tŷ Mam a Dad). 'Da ni mor lwcus gallu gweld mynyddoedd Eryri drwy'r ffenest.

Mae Dad wastad yn coginio bwyd delicious a does 'na ddim byd yn well gen i na cael y chwech ohono ni (a phwy bynnag arall sydd draw ar y dydd) yn cael bwyd gyda'n gilydd.

Dyn yn sefyll yn gafael ar bryd bwyd gyda mynyddoedd Eryri tu ôl iddo yn y pellter
Disgrifiad o’r llun, Mae Beca'n hoff iawn o'r bwyd mae ei thad yn ei goginio

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?

Anodd meddwl am un. O'n i wastad yn caru'r nosweithiau ar ôl i ni orffen y perfformiad ola o sioe yn y coleg drama. Pawb wedi ymlâdd ond yn llawn egni r'un pryd. Pawb yn rili balch o'i gilydd. Teimlad lyfli a fizzy.

Beca'n perfformio ar lwyfan yr ysgol ddrama Italia Conti yn Lloegr mewn cynhyrchiad o'r enw Machinal, wedi ei gyfarwyddo gan Chris White
Disgrifiad o’r llun, Beca'n perfformio ar lwyfan yr ysgol ddrama Italia Conti yn Lloegr mewn cynhyrchiad o'r enw Machinal, wedi ei gyfarwyddo gan Chris White

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Egnïol, ymroddgar a gwerthfawrogol

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Ci ni, Ben, yn dartio ar hyd traeth yng Nghernyw, sathru ar draws tyweli a matiau pawb, dymchwel cestyll tywod a bwyta barbeciws pawb! A'r chwech ohono ni yn rhedeg ar ôl Ben yn ymddiheuro wrth bawb yn trio ei ddal o. Dwi'n meddwl o'dd o'n briliant!

Ci a merch ar draeth
Disgrifiad o’r llun, Achosodd Ben y ci dipyn o ddinistr ar draeth yng Nghernyw!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnot ti erioed?

Dwi'n meddwl o'n i'n Blwyddyn 5. Nes i sgwennu nodyn yn gofyn i Gethin Bryn i fod yn gariad i fi. 'Nath Miss Phillips weld y nodyn. 'Nes i banicio a dwyn o'n ôl ganddi a rhwygo fo mewn i ddarnau bach fel bod hi methu ei ddarllen o... 'Nath hynny ddim stopio Miss Phillips.

'Nes i orfod isda yn gwylio hi'n rhoi o nôl at ei gilydd. Oedd yr holl firi yn y dosbarth wedi tynnu sylw pawb ac erbyn iddi hi lwyddo i ddarllen y neges, roedd y dagra' yn llifo. Yn cymryd piti arna fi 'nath Miss Phillips yrru fi i'r toiled gyda fy ffrind gora Ceri. Mortified!

Beca gyda'i ffrind gorau, Ceri
Disgrifiad o’r llun, Beca gyda'i ffrind gorau, Ceri

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ddoe ond allai'm deud pam... ma'n rhy pathetic!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n dyslexic a mae sillafu fi'n anobeithiol. Dwi'm yn rhy bothered i fod yn onast.

Advertisement

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Mae'n greulon o drist ond 'nes i hedfan drwy'r llyfr Widow Basquiat: A Memoir by Jennifer Clement.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?

Isabella Eklöf... hi 'nath gyfarwyddo cyfres diweddara' Industry ar y BBC. 'Swn i'n trio ngorau i berswadio hi roi rhan i fi yn y gyfres nesa... gwerth trio yndi?

Dyweda rywbeth am dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

'Nes i gystadlu mewn ras beicio mynydd o'r blaen... byth eto!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Gwahodd pawb i Baby Gym i neidio fewn i'r twll spwnj efo fi. Mae'n rhaid i Sion Emlyn ddod ond croeso i bawb arall hefyd.

Mynd am dro ar y traeth a chael cinio efo fy nheulu. 'Swn i'n licio Dad a fi goginio'r salad crispi twrci 'da ni'n cael amser Dolig.

Wedyn 'swn i'n licio cael diod efo Evan yn yr haul a chwarae gêm o Othello... a 'swn i'n hoffi curo plîs.

dyn yn chwarae gêm bwrdd
Disgrifiad o’r llun, Ar ei diwrnod olaf (prysur!) ar y blaned, fyddai Beca'n hoffi chwarae'r gêm fwrdd Othello

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Hwn di lock screen ffôn fi. Dwi'n lyfio'r llun 'ma. Ma' chwiorydd fi'n gorjys!

dau ferch yn rhoi mwythau i gi
Disgrifiad o’r llun, Chwiorydd Beca yn rhoi mwythau i Ben y ci

Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Dumbledore tra mae ganddo yr Elder Wand.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News