Skip to main content
Advertisement

Changing Welsh to English in Groups Weakens Welsh Language, Says Learner

Ben Kitchener, dysgwr Cymraeg o Loegr, yn tynnu sylw at effaith newid iaith o Gymraeg i Saesneg mewn grwpiau, gan ddweud ei fod yn cryfhau'r newid i'r iaith fwyafrifol ac yn niweidio'r Gymraeg.

·6 min read
Ben Kitchener

Newid iaith grŵp o'r Gymraeg i'r Saesneg 'ddim yn helpu'r iaith'

"Os ti'n newid yr iaith chi'n siarad mewn grŵp o'r Gymraeg i'r Saesneg, ti'n cryfhau'r deinamig o newid y iaith leiafrifol i'r iaith mwyafrifol a dyw hynny dim yn helpu'r iaith."

Ben Kitchener, sy'n creu fideos am ei brofiadau fel dysgwr Cymraeg ar gyfer ei gyfrif Instagram, Sais Cymreig, wedi rhannu un o'r sefyllfaoedd mwyaf trafod mewn fideo sydd wedi cael ymateb helaeth. Mae'r fideo'n trafod y dewis iaith sy'n digwydd pan fo person di-Gymraeg yn ymuno â sgwrs ac mae'r siaradwyr yn newid o'r Gymraeg i'r Saesneg.

"Rhywbeth dwi wedi sylweddoli, hyd yn oed pan dwi gyda ffrindiau sy'n siarad Cymraeg, yw hyn - os dwi ishe siarad Cymraeg, mae bron pawb yn parhau yn y Gymraeg.
"Ond os dwi wedi blino a'n newid yr iaith yn ôl i'r Saesneg mae pawb arall yn newid.
"Mae hyn yn waeth mewn sefyllfaoedd grŵp. Mewn ystafell lle gall pawb ddeall Cymraeg, os yw un person yn siarad Saesneg, yna bydd iaith y grŵp cyfan yn newid i'r Saesneg hefyd.
"Oni bai bod rhesymau cryf iawn i'n hannog i ddefnyddio'r Gymraeg, yna ni fydd y mwyafrif yn gwneud hynny a bydd mwy a mwy o sgyrsiau'n newid wrth i'r cynnwys fynd yn fwyfwy Seisnig.
"Ac mae'n digwydd gyda phob iaith nawr - mae'n digwydd ledled y byd gyda effaith y byd digidol lle mae'r iaith a diwylliant Saesneg mor bwerus mae'n gallu newid arferion hyd yn oed mewn gwledydd fel Ffrainc."

Ben Kitchener

Mae'r fideo wedi denu mwy na 50,000 o wylwyr ar-lein, rhywbeth sydd wedi syfrdanu Ben. Dywedodd:

"Mae'n anhygoel – mae'r cyfrif yn fach a do'n i ddim yn disgwyl i un o'r reels i gyrraedd 50,000 o bobl."

Ben, sy'n wreiddiol o Sir Hertford, yw angerddol am bolisi iaith ac wedi dysgu Cymraeg er mwyn cyfrannu i'r maes. Dywedodd:

"Dw i'n credu taw dwyieithrwydd yw un o'r pethau gorau yn y byd. Ac yng Nghymru, rydym yn colli hynny.
"Y neges ar fy Instagram yw'r peth pwysicaf i fi achos os mae hyd yn oed un person yn newid arferion ynglŷn â'r iaith neu yn dysgu un peth am pam ni'n gwneud y pethau yma, dwi'n hapus."

Fel un o Loegr, roedd Ben yn poeni am yr ymateb i'w fideos am siarad Cymraeg. Dywedodd:

"O'n i'n poeni am hyn pan yn symud i'r maes yma – dwi'n ymwybodol o ble dwi'n dod a'r profiadau dwi wedi cael.
"Ond dwi wedi cael ymateb mor bositif o'r gymuned Gymraeg. Dwi wedi clywed llawer o stereotypes am beth mae pobl sy'n siarad Cymraeg yn meddwl am bobl o Loegr sy'n dod i mewn, ond mae hyn yn syml iawn ac yn osgoi realiti.
"Os ti'n trio ymuno â'r gymuned mae pobl yn hapus."

Dadl Ben yw ei fod yn fantais iddo beidio â bod yn Gymro gan ei fod yn gallu siarad am yr iaith Gymraeg o safbwynt newydd. Dywedodd:

"Dw i'n credu taw mantais fawr yw'r ffaith nad ydw i'n dod o Gymru achos 'mod i'n gweld y penderfyniadau, y datblygiadau, a'r dadleuon o safbwynt hollol wahanol – safbwynt sy' wedi cael ei ddylanwadu gan yr ymdrech i ymuno â'r gymuned Gymraeg a phrofi defnyddio'r Gymraeg mewn amgylchoedd gwahanol."

Ben yn derbyn ei dystysgrif am ddysgu Cymraeg

Advertisement

Dechreuodd Ben ddysgu'r iaith ddwy flynedd yn ôl ar ddiwedd ei gyfnod ym Mhrifysgol Bryste oherwydd ei ddiddordeb ym maes polisi iaith. Cyn hynny, roedd wedi dysgu Catalaneg, Sbaeneg a Rwsieg.

Erbyn hyn mae'n byw yng Nghaerdydd ac yn dweud mai'r gymuned yw ei brif reswm dros ddysgu'r iaith. Dywedodd:

"Y peth dwi wedi mwynhau am ddysgu Cymraeg yw fod y Gymraeg wedi rhoi y pethau o'n i angen i ymuno â'r gymuned yng Nghaerdydd mewn ffordd go iawn.
"Mae'n teimlo fel dwi'n dod o hyd i rhywbeth arall yn y ddinas ac yn y gymuned yma.
"Dwi mor ddiolchgar i bawb ac wedi cyfarfod pobl newydd."

Dyw Ben ddim yn disgrifio ei hun fel siaradwr Cymraeg, serch hynny. Meddai:

"Dwi ddim yn identifyo fel Cymro. Dwi'n credu bod hynny'n bwysig er mwyn dangos dwi ddim wedi cael yr un profiadau â ffrindiau sy' wedi tyfu lan gyda'r Gymraeg.
"Dwi ddim wedi cael y profiad o golli fy iaith, er enghraifft.
"'Nes i benderfynu ymuno â chymuned o siaradwyr Cymraeg a dwi'n credu rhaid i fi bwysleisio dwi ddim wedi cael yr un fath o brofiadau ond dwi ishe dangos i bobl mae'n bwysig i ni ddysgu Cymraeg."

Ben yn derbyn ei dystysgrif am ddysgu Cymraeg
Disgrifiad o’r llun, Ben yn derbyn ei dystysgrif am ddysgu Cymraeg

Rhagdybiau

Mae rhannu ei fideos am yr iaith Gymraeg a gweld yr ymateb wedi gwneud i Ben ddysgu am rai o'r rhagdybiau am siaradwyr Cymraeg hefyd. Meddai:

"Un peth 'nes i sylweddoli yw fod pobl yn Lloegr fel arfer ddim yn sylweddoli fod pobl sy'n siarad Cymraeg yn Gymraeg iaith gyntaf.
"Ni ddim yn gallu dychmygu hyn ond dydyn ni ddim yn meddwl fel hyn am bobl yn Sbaen, Ffrainc ac yn y blaen. Dydyn ni ddim yn disgwyl i bobl o'r gwledydd hynny i siarad Saesneg fel iaith gyntaf ond yng Nghymru ni yn."

Beth felly sy'n gwneud Ben mor angerddol am ddwyieithrwydd? Dywedodd:

"Fy nheulu fy hun. Roedd fy hen famgu yn dod o Bavaria ac yn siarad Almaeneg, roedd fy nhadcu yn siarad Almaeneg. Ond doedd fy nhad ddim yn dda gyda ieithoedd felly ni wedi colli'r iaith.
"Dwi wedi siarad gyda gymaint o bobl sy' wedi tyfu lan 'da dwy iaith. Ac maen anhygoel, mae'n rhoi sgiliau hollol wahanol i chi.
"Mae'n helpu gyda pethau fel sgiliau cognitive a dementia ac yn newid y ffordd chi'n cysylltu gyda'r byd hefyd.
"Felly ni'n gallu cael gwlad hollol ddwyieithog."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb

  • Dysgu Cymraeg yn Utica wedi 'helpu fi ffeindio fy llais eto'
  • 'Wnes i ddysgu Cymraeg i fod yn rhan o gymuned Llanystumdwy'

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News