Cau Capel Bethel Birmingham
Mae capel Cymraeg Bethel yn Birmingham wedi cau ei ddrysau am y tro olaf ddechrau mis Chwefror 2024, gan nodi diwedd cyfnod hanesyddol i'r gymuned Gymraeg yn y ddinas.
Agorwyd y capel yn 1968, wedi i ddau gapel Cymraeg arall yn y ddinas, Suffolk Street a Hockley Hill, gael eu dymchwel.

Er i swyddogion y capel fod yn obeithiol yn ddiweddar y byddai modd denu aelodau newydd, nid oedd hynny'n digwydd wrth i'r gynulleidfa heneiddio a nifer o aelodau ddychwelyd i Gymru. Yn ddiweddar, dim ond 17 o aelodau oedd yn gallu mynychu'r capel yn rheolaidd.

Ymateb Ysgrifenyddes Capel Bethel
Ellen Whitehouse, ysgrifenyddes capel Bethel, mynegodd ei tristwch dros y cau mewn sgwrs ar raglen Bwrw Golwg Radio Cymru ddydd Sul.
"Mae'n ddiwedd cyfnod ac yn dristwch bod addoli drwy gyfrwng y Gymraeg yn Birmingham yn dod i ben," meddai.
Hi a rhai eraill yn y gymuned fydd yn symud i gapel Cymraeg Coventry, sydd dros y ffin.
"Roedd gwasanaeth cau'r capel yn brofiad digalon iawn," ychwanegodd.
"Roeddwn i'n meddwl y buaswn yn beichio crio drwy'r gwasanaeth ond rywsut mi ddaru'r gweinidog Robert Parry gyflwyno neges bositif gan bwysleisio mai diwedd pennod yw hyn.
"Ac ydynt maen nhw wedi bod yn flynyddoedd hapus. Dwi wedi cael fy nghodi yng nghapeli Cymraeg Birmingham, mae fy mhlant i wedi bod yn aelodau yn y capel yma ac ro'dd fy rhieni yma.
"Dyna yw fy mywyd i wedi bod ac mae wedi rhoi'r cyfle i mi siarad yr iaith Gymraeg.
"Rhaid i ni dderbyn nad yw pobl yn mynd i gapeli yng Nghymru ac yn yr un modd dyw pobl ifanc ddim yn dod yma - ar un adeg roedd pethau yn dra wahanol wrth i athrawon o Gymru ddod yma i ddysgu.
"Mae'n gapel hynod o hardd a phwrpasol ond rhaid derbyn bod y bennod hon yn ein bywyd wedi dod i ben - a'r pnawn ma fyddai ac ambell un arall yn mynd i gapel Coventry."

Cau Capeli Cymraeg eraill yn Lloegr
Yn ystod 2023, cau 20 o gapeli yr Eglwys Bresbyteraidd, gan gynnwys capel Cymraeg Altrincham ger Manceinion a chapel Seion Croesoswallt.
Pan gafodd capel Altrincham ei gau, dywedodd Nan Wyn Powell-Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eglwys Bresbyteraidd, fod "capeli Cymraeg yn Lloegr yn prinhau, ond mae eu cyfraniad nhw oll yn hynod o bwysig".
"Ry'n yn hynod o ddiolchgar i bawb sy'n cynnal gweithgareddau yn y capeli sydd ar y ffin ac yn ninasoedd Lerpwl, Manceinion, Coventry a Llundain - yn fanno wrth gwrs mae capeli Y Drindod yn Cockfosters, Jewin, Ealing, Moreia Leytonstone, Sutton a Clapham, ynghyd ag eglwysi sy'n perthyn i enwadau eraill wrth gwrs.
"Yn ogystal â bod yn sefydliadau crefyddol mae'r capeli yn gyfle hefyd i gymdeithasu yn Gymraeg."
Heriau'r Eglwys Bresbyteraidd
Yn fwy diweddar, mae galw am newid yn y ffordd mae eglwysi'n cael eu rheoli, gan ofni y gallai fod yn rhy hwyr i achub rhai capeli.
Mae 11,203 o aelodau bellach yng nghapeli Cymraeg a Saesneg yr Eglwys Bresbyteraidd, gyda dim ond 275 o dan 25 oed.
Yn ogystal, nid oes gweinidog mewn dros 50% o eglwysi'r enwad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf. Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y newyddion diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







