Wedi i'r iaith Gymraeg gael ei disgrifio gan yr ieithydd Susie Dent fel yr iaith bryderthaf, bu'r prifardd Ifor ap Glyn yn dewis rhai o'i hoff ymadroddion i BBC Cymru Fyw.
Bu ymateb brwd iawn i'w ddewisiadau gan ddarllenwyr Cymru Fyw gyda mwy na 180 ohonoch yn rhannu eich dewisiadau personol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Beth felly yw hoff ymadroddion y Cymry?
Anifeiliaid lu...
Yn ara' deg mae dal iâr... ond yn gytheiriog mae dal ceiliog
Yn ara' deg mae dal iâr ond ar frys mae dal mochyn
Yr oen yn dysgu'r ddafad sut i bori
Gwell 'deryn mewn llaw na dau mewn llwyn
Adar o'r un lliw hedant i'r un lle
Llond bol i fochyn a digon i ddyn
Ara' deg a fesul dipyn, mae stwffio bys i din gwybedyn

Ysgol ddrud yw ysgol brofiad…
Mwya' byd y bydd dyn fyw, mwya' wêl a mwya' glyw
Cyw a fagwyd yn uffern, yn uffern y myn bod
Gwersi byw
Dim pwynt codi pais ar ôl pisho
Anodd tynnu dyn oddi wrth ei dylwyth
Roedd nifer fawr o awgrymiadau eraill hefyd sydd heb eu rhestru yma. Yng ngeiriau Ifor ap Glyn, mi fyddai'n
"golled annhraethol"i orfod byw heb yr ymadroddion unigryw yma sy'n bodoli yn yr iaith.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
Ifor ap Glyn: prydferthwch y Gymraeg






